Heb fod mewn addysg na chyflogaeth? Gallwn ni helpu!

Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024

Os ydych chi rhwng 16 a 25 oed a heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, gallwn ni eich helpu chi mewn meysydd megis tai, budd-daliadau a mynediad i gyfleoedd, a rhoi cymorth ichi weld pa ddewisiadau sydd ar gael ichi.

Gallwn ni hefyd helpu os ydych chi'n ddigartref, â phroblemau ariannol, wedi troseddu, â phroblemau o ran camddefnyddio sylweddau, perthnasoedd neu iechyd meddwl.

Rydym yn cynnal amrywiaeth o sesiynau galw heibio ledled Sir Gaerfyrddin. Galwch heibio i'n gweld ni am sgwrs a choffi!

Ble? Diwrnod(au) Amser
Canolfan Ieuenctid Dr. Mz, Caerfyrddin Dydd Mawrth 12:00 - 16:00
Canolfan Ieuenctid Streets, Rhydaman Dydd Mercher 13:00 - 16:00
Canolfan Ieuenctid y Bwlch, Llanelli Dydd Mercher 14:00 - 16:00