Camddefnyddio cyffuriau / alcohol
Mae mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn fater cymhleth oherwydd bod yr effeithiau'n eang iawn ac nid ydynt bob amser yn amlwg i bawb. Mae ein tîm camddefnyddio sylweddau yma i'ch cefnogi os:
- rydych chi dros 18 oed ac yn poeni am camddefnyddio cyffuriau neu alcohol eich hun
- gofalu am oedolyn sydd â phroblem cyffuriau neu alcohol
Gallant gynnig cyngor cyfrinachol ichi dros y ffôn a threfnu ichi weld gweithiwr os dymunwch er mwyn trafod eich problemau a chael y cymorth y mae ei angen arnoch. Gallwch gysylltu â nhw drwy ffonio 01554 744343.
Os ydych chi dan 18 oed ac yn pryderu am eich camddefnyddio cyffuriau neu alcohol eich hun neu sy'n poeni y gallai eich plentyn fod yn defnyddio cyffuriau, ffoniwch Choices ar 01554 755779 neu danfonwch neges destun i 07896248911.
Os ydych yn berson ifanc sy'n poeni am ddefnydd un o'ch rhieni o gyffuriau neu alcohol cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynhalwyr Ifanc ar 01554 742630 neu danfonwch e-bost gwasanaethgofalwyrifanc@sirgar.gov.uk. Drwy’r Gwasanaeth Cynhalwyr Ifanc fyddwch yn gallu:
- siarad â rhywun sydd yn deall
- gallwch gysylltu â phobl ifanc eraill sydd yn yr un sefyllfa.
- siarad â chi a’ch mam a dad am bobl eraill all helpu.
Y tu allan i’r oriau arferol ffoniwch Linell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru yn rhad ac am ddim: 0808 808 2234.
Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
A ydych chi'n poeni am oedolyn/blentyn?
Anabledd ac Awtistiaeth
Camddefnyddio cyffuriau / alcohol
Cefnogaeth i ofalwyr
Cwynion a Chanmoliaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyfleoedd dydd
Cymorth gartref
- Larymau personol/dyfeisiau monitro
- Gofal yn y cartref
- Help gyda phrydau
- Help wrth adael yr ysbyty
- Therapi galwedigaethol
- Byw yn annibynnol
- Rhannu Cartref
Sut i gysylltu â ni
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
Dementia
Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol
Fy un agosaf - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Mwy ynghylch Gofal Cymdeithasol ac Iechyd