Cefnogaeth i ofalwyr
A oes unrhyw un nad yw'n gallu ymdopi heb eich help? Efallai perthynas oedrannus, plentyn neu oedolyn anabl, rhywun â phroblemau cyffuriau neu alcohol, rhywun ag anawsterau iechyd meddwl neu rywun â phroblem iechyd tymor hir? Os felly, rydych yn ofalwr ac mae help ar gael.
Daw'r rhan fwyaf o'r help a dderbynnir gan bobl yn y gymdeithas y mae angen cymorth arnynt o ffrindiau neu berthnasau sy'n gweithredu fel gofalwyr. Mae nifer sylweddol o'r rhain yn blant a phobl ifanc. Mae’r cymorth y mae Gofalwyr yn ei ddarparu yn ddi-dâl ac felly nid yw’n cynnwys unigolyn sy’n darparu gofal dan gontract cyflogaeth neu fel gwirfoddolwr ar ran Asiantaeth.
Yn aml, gall unigolion gael eu bod mewn rôl ofalu heb lawer o baratoi. Gallwn ni helpu drwy ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cymorth iawn er mwyn cyflawni’r rôl werthfawr hon.
Sut gallwn ni helpu?
Mae dyletswydd ar adrannau Gofal Cymdeithasol i roi gwybod i bobl sy’n darparu gofal am eu hawl i gael Asesiad o Anghenion Cymorth Gofalwr, ac i ddarparu’r asesiad.
Os ydych yn Ofalwr ac nad ydym yn adnabod y person rydych yn gofalu amdano/amdani, mae gennych hawl i asesiad. Bydd Asesiad o Anghenion Cymorth Gofalwr yn ein galluogi i ddeall eich sefyllfa a chadarnhau beth sy’n bwysig i chi.
Mae Asesiad o Anghenion Cymorth Gofalwr yn cael ei gynnig i gydnabod y cyfraniad gwerthfawr rydych yn ei wneud ac mae’n cynnwys cyfarfod wyneb yn wyneb â chynrychiolydd yr adran Gofal Cymdeithasol. Bydd y person sy’n cynnal yr asesiad yn trafod eich rôl ofalu gyda chi ac yn gwrando ar yr hyn sy’n bwysig i chi, heblaw am ofalu, er mwyn deall pa gymorth y gall fod arnoch ei angen. Bydd hyn yn rhoi cyfle ichi siarad yn agored am eich rôl, a’ch dymuniadau a’ch dyheadau. Gall canlyniad Asesiad o Anghenion Cymorth Gofalwr gynnwys unrhyw rai o’r enghreifftiau canlynol (nid yw’r rhestr hon yn gwbl gynhwysfawr):
- Gweithiwr cymorth penodedig
- Cymorth ychwanegol ar gyfer y person sy’n derbyn gofal
- Cymorth emosiynol ac ymarferol
- Eich cyfeirio at wasanaethau perthnasol a grwpiau gofalwyr
- Darparu cyngor a gwybodaeth
- Derbyn Cerdyn Argyfwng Gofalwyr
- Derbyn Grant Cymorth Hyblyg i Ofalwyr o bosibl
- Derbyn Pecyn Gwybodaeth i Ofalwyr a chylchlythyr rheolaidd
Ar ôl ichi ofyn am Asesiad o Anghenion Cymorth Gofalwr, byddwn ni’n cysylltu â chi i drefnu amser addas i ymweld â chi neu i drefnu cyfarfod fel y gallwn ni drafod eich sefyllfa gyda chi. (Weithiau, mae’n well gan Ofalwyr drafod eu rôl ofalu yn breifat ac ar wahân i’r person sy’n derbyn gofal). Pwrpas yr ymweliad yw gwrando arnoch chi.
Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Taliadau am ofal yn y cartref
Sut i gysylltu â ni
Cyfleoedd dydd
Dementia
Taliadau Uniongyrchol
Anabledd ac Awtistiaeth
Camddefnyddio cyffuriau / alcohol
Taflenni gwybodaeth
Mynd yma ac acw
Sut i gael help
Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol
Iechyd Meddwl
Fy un agosaf - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Gwneud cais am asesiad
Gofal preswyl a nyrsio
Cysylltu Bywydau (Lleoliad i Oedolion)
Seibiannau byr
Nam ar y golwg a'r clyw
Cwynion a Chanmoliaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Mwy ynghylch Gofal Cymdeithasol ac Iechyd