Seibiannau byr
Diweddarwyd y dudalen ar: 06/09/2023
Mae'r rhan fwyaf o bobl sydd ag angen cymorth i fyw'n annibynnol yn derbyn y gofal gorau gan y bobl y maen nhw'n eu hadnabod sef eu teulu a'u ffrindiau. Fodd bynnag mae'r gofalwyr hyn yn gallu ei chael yn anodd dygymod â gofalu am rywun bob dydd heb seibiant.
Gall seibiannau byr (neu 'ofal seibiant') helpu gofalwyr a'r un sy'n derbyn gofal i gymryd hoe. Gall hyn bara am ychydig o oriau, ychydig o ddyddiau neu gyfnod hwy os bydd angen.
Mae cael seibiant o'r drefn arferol yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Weithiau mae angen i ofalwyr gael seibiant o'u dyletswyddau gofal am reswm, er mwyn cael triniaeth yn yr ysbyty, mynd ar wyliau, ysgwyddo cyfrifoldebau gofal eraill neu'n syml er mwyn cael eu cefn atynt.
Mae nifer o wahanol ffyrdd o ddarparu seibiannau. Dyma rai enghreifftiau:
Gall pobl sydd ag angen llawer o ofal a goruchwyliaeth gael seibiannau byr mewn cartref preswyl neu gartref gofal nyrsio os oes gwely ar gael i ddiwallu'r anghenion perthnasol.
Seibiannau byr a ddarperir gan bobl sy'n cael eu talu a'u rheoli'n broffesiynol, ac sy'n darparu cymorth tymor byr yn eu cartref yw'r rhain. Weithiau mae'r hwn yn ei nabod fel Rhannu Bywydau.
Cymorth sy'n cael ei ddarparu yn y cartref lle'r ydych chi'n byw. Gellir trefnu pecynnau cymorth hyblyg ac wedi'u teilwra tra bydd eich gofalwr/gofalwyr i ffwrdd.
Os ydych chi'n gymwys i gael cymorth ariannol gan yr Awdurdod Lleol, gallwch ddewis derbyn arian ar ffurf Taliad Uniongyrchol, yn hytrach na chael gwasanaeth wedi'i drefnu ar eich cyfer. Mae hyn yn fodd ichi wneud trefniadau mwy hyblyg ar gyfer eich seibiant byr a all fod yn fwy addas i'ch amgylchiadau.
Mae'r rhain yn cynnwys cyfleoedd i bobl a gofalwyr gynllunio a threfnu eu gwyliau, gyda gwybodaeth a/neu gefnogaeth i drefnu cymorth er mwyn diwallu unrhyw anghenion gofal y gallai fod ganddynt tra byddant oddi cartref.
Mae'n bosibl y bydd cyllid ar gael gan yr awdurdod lleol a/neu'r gwasanaeth iechyd i dalu am y cyfan neu am ran o'r cymorth a ddarperir, yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol. Cyn cytuno ar y trefniadau cyllido byddai'n rhaid i ddefnyddwyr y gwasanaeth gael asesiad o'u hanghenion gofal gan y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.
Gwasanaeth rhad ac am ddim yw Cymorth mewn Argyfwng sy'n helpu gofalwyr i ddelio ag argyfyngau. Nid yw'n darparu gofal tymor hir, ond mae'n cynnig cymorth yn y fan a'r lle tra bydd trefniadau gofal eraill yn cael eu gwneud. Mae'n bosibl y gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth os ydych chi'n ofalwr:
- sydd angen cael eich cadw yn y gwely gartref neu eich derbyn i'r ysbyty oherwydd damwain neu salwch.
- sydd wedi ymlâdd ac angen gorffwys a chwsg ar unwaith.
- sydd mewn cyfyngder emosiynol neu gorfforol a bod cael cymorth ar fyrder yn hanfodol i'ch lles meddyliol neu gorfforol, neu'n hanfodol ar gyfer diogelwch yr unigolyn rydych chi'n gofalu amdano/amdani
- sydd angen ymateb i argyfwng teuluol.
Ffoniwch Llesiant Delta on 0300 333 2222 i ofyn am y gwasanaeth hwn.
Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
A ydych chi'n poeni am oedolyn/blentyn?
Taliadau am ofal yn y cartref
Sut i gysylltu â ni
Cyfleoedd dydd
Dementia
Taliadau Uniongyrchol
Anabledd ac Awtistiaeth
Camddefnyddio cyffuriau / alcohol
Taflenni gwybodaeth
Mynd yma ac acw
Sut i gael help
Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol
Iechyd Meddwl
Mwy ynghylch Gofal Cymdeithasol ac Iechyd