Cwynion a Chanmoliaeth Gwasanaethau Cymdeithasol

Diweddarwyd y dudalen ar: 02/10/2023

Hoffem glywed gennych. Rydym am ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl, a dyna pam y mae eich adborth yn bwysig i ni. Efallai y byddwch yn teimlo'n anfodlon ar y gwasanaeth yr ydych yn ei dderbyn, neu efallai y bydd gennych awgrym a fydd o gymorth i ni ei wella. Rydym yn gobeithio hefyd y bydd adegau pan fyddwn yn gwneud gwaith da.

Os ydych yn anhapus ar eich gofal a’ch cymorth, mae gennych hawl i gwyno. Rydym yn anelu at safonau uchel ond weithiau mae pethau'n mynd o'i le. Oni bai eich bod yn dweud wrthym, fodd bynnag, ni fyddwn yn gwybod eich bod yn anhapus. Os ydych chi'n cysylltu â ni, byddwn ni'n gallu gweithio gyda chi i gywiro pethau cyn gynted â phosibl.

Mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng sylwadau a chwynion. Mae sylwadau'n ymwneud â materion penodol o dan y Ddeddf Plant neu Ddeddf Mabwysiadu a Phlant. At ei gilydd, caiff sylwadau eu trin yn yr un modd â chwynion, ond bydd y canllaw hwn yn tynnu sylw at ble mae unrhyw wahaniaethau yn y dull gweithredu.

Gall unrhyw aelod o'r cyhoedd, gan gynnwys plentyn, sydd wedi derbyn, neu a oedd â hawl i dderbyn gwasanaeth gofal cymdeithasol a ddarperir gan Gyngor Sir Caerfyrddin neu wasanaeth a gomisiynir gan y Cyngor, wneud cwyn.
Gallwch gwyno ar ran rhywun arall, os yw’r person dan sylw:

  • Yn blentyn
  • Wedi gofyn i chi weithredu ar ei ran
  • Â diffyg gallu meddyliol i benderfynu gwneud cwyn ei hunan
  • Wedi marw

Fodd bynnag, bydd angen i ni benderfynu a ydych chi'n briodol a bod gennych ddiddordeb digonol yn lles yr unigolyn i weithredu er ei fudd pennaf.

O ran pwy gall gyflwyno sylwadau, maen nhw’n cynnwys plentyn, ei riant neu’i ofalwr maeth, neu rywun sydd â chyfrifoldeb rhieni.

Os ydych yn gwneud cwyn neu sylw, lle bynnag y bo modd, byddwn ni'n parchu eich hawl i gyfrinachedd. Er, bydd angen i ni rannu'r wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni gydag eraill er mwyn mynd i'r afael â'ch cwyn. Byddwn ni dim ond yn gwneud hyn os yw'n angenrheidiol. I gael gwybod mwy am sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth fel rhan o'r broses gŵynion, edrychwch ar ein hysbysiadau preifatrwydd. Os na allwch gael mynediad i'r hysbysiadau preifatrwydd ar-lein a'ch bod yn dymuno derbyn copi, ffoniwch 01267 228703.

Mae dau gam yn y broses gwynion:

  • Cam 1 – Datrysiad Lleol
  • Cam 2 – Ymchwiliad Ffurfiol

Fel rheol dylid gwneud cwyn mewn 12 mis o'r dyddiad y cododd y pryder. Y cam cyntaf wrth ddatrys problem yw cysylltu â rhywun sy’n ymwneud â darparu’r gwasanaeth, neu os yw’n well gennych, ein Tîm Canmoliaeth a Chwynion.

Yr enw ar hyn yw datrysiad lleol. Peidiwch ag ofni cwyno. Byddwn yn cymryd eich cwyn o ddifrif a byddwn yn croesawu eich holl sylwadau. Byddwn yn cydnabod derbyn eich cwyn mewn ysgrifen o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Gallwch gysylltu â ni mewn unrhyw ffordd a ddymunwch, felly nid oes rhaid i chi ei hysgrifennu i lawr.

Mae modd cysylltu â’r Tîm Cwynion a Chanmoliaeth fel a ganlyn:

Mewn ymgais i ddatrys pethau, byddwn yn cynnig trafod eich cwyn gyda chi (un ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn).  Mae’n rhaid cynnal y drafodaeth hon o fewn 10 diwrnod gwaith i’r dyddiad cydnabod oni bai eich bod yn cytuno i ymestyn y dyddiad.

  • Gallwn gytuno i wneud yr hyn a ofynnwch
  • Gallai fod yn rhaid i ni ymddiheuro i chi am wneud camgymeriadau
  • Gallai fod angen i ni esbonio pethau’n well

Gallai fod angen i’r person sy’n ystyried eich cwyn ddarllen eich ffeil a gofyn rhai cwestiynau cyn penderfynu beth dylid ei wneud.  Byddwn yn ysgrifennu atoch o fewn 5 diwrnod gwaith yn dilyn y drafodaeth (er mai 10 diwrnod yw’r cyfnod hefyd ar gyfer sylwadau, gall hyn fod oddi ar y dyddiad cydnabod, neu ar ôl penodi eiriolydd, neu mewn rhai achosion ar ôl i’r awdurdod lleol bennu bod gan y person sy’n gwneud y sylwadau ddigon o ddiddordeb i wneud y sylwadau).

Anfon cwyn / canmoliaeth

Os oes angen help arnoch i fynegi pryder, gall Llais, eich llais mewn iechyd a gofal cymdeithasol, eich helpu i wneud hyn. Mae Llais yn gorff annibynnol a gall ei wasanaeth eiriolaeth, sy'n rhad ac am ddim, ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i aelodau'r cyhoedd a allai fod yn dymuno mynegi pryder.

Gall Llais eich cefnogi i fynegi pryder a rhoi cyngor ar y rhan fwyaf o'r camau gweithredu priodol. Gallwch gysylltu â'ch swyddfa Llais leol drwy'r cyfeiriad canlynol:

Gwasanaeth Eiriolaeth
Llais – Gorllewin Cymru
Ystafell 5, Llawr Cyntaf
Tŷ Myrddin
Heol Yr Hen Orsaf
Caerfyrddin
SA31 1BT

Rhif ffôn: 01646 697610
e-bost: westwalesadvocacy@llaiscymru.org
Gwefan: www.llaiswales.org

Na, os byddai'n well gennych, mae gennych hawl i ofyn i ni ystyried eich cwyn yng Ngham 2 heb iddo gael ei ystyried gyntaf yng Ngham 1. Mae gennym hefyd y disgresiwn i fynd â'ch cwyn yn uniongyrchol i Gam 2 os credwn ei bod yn amhriodol iddo gael ei drin i ddechrau yng Ngham 1.

Gallwch ofyn i rywun nad yw'n ymwneud â'r awdurdod o gwbl ymchwilio i'ch cwyn, sy'n cael ei adnabod fel ymchwilydd annibynnol. Gelwir hyn yn Gam 2 neu Ymchwiliad Ffurfiol.

Os yw eich cwyn yn ddifrifol neu os nad ydych yn fodlon ar y ffordd y mae wedi cael ei datrys yng Ngham 1 allwch gofyn i symud y cwyn ymlaen i Gam 2 neu ymchwiliad ffurfiol.

Byddwn ni’n ysgrifennu atoch o fewn 5 diwrnod gwaith i’ch cais am ymchwiliad ffurfiol, gan wneud yn siŵr ein bod yn deall manylion eich cwyn a’r canlyniad yr hoffech ei sicrhau.

Unwaith byddwch wedi cadarnhau manylion eich cwyn a bod yr Ymchwilydd Annibynnol wedi cael ei gomisiynu hwn bydd Y ‘dyddiad dechrau’.

Bydd eich cwyn yn destun ymchwiliad gan Ymchwilydd Annibynnol (na fydd yn aelod o staff Cyngor Sir Caerfyrddin). Os ydych o dan 18 oed, byddwn hefyd yn gofyn i rywun sy’n hollol annibynnol ar y Cyngor, a elwir yn Berson Annibynnol, wneud yn siŵr bod eich cwyn wedi cael ei thrin yn dda ac yn deg a bod pob parti wedi cael eu clywed.

Bydd yr Ymchwilydd Annibynnol yn ymchwilio eich cwyn:

  • Drwy siarad â’r rhai sy’n gysylltiedig â hi a gwirio’r ffeithiau
  • Ceisio canfod ffordd o ddatrys y broblem
  • Ysgrifennu adroddiad ar gyfer y Cyngor

Os ydych chi o dan 18 oed byddwn hefyd yn gofyn i berson annibynnol, sicrhau bod eich cwyn wedi cael ei thrin yn dda ac yn deg a bod pob parti wedi cael ei glywed.

Wedyn byddwn ni’n ysgrifennu atoch mewn 25 diwrnod o'r diwrnod dechrau:

  • I roi gwybod a gafodd eich cwyn ei chadarnhau ai peidio
  • I esbonio pa gamau fydd yn cael eu cymryd, os o gwbl
  • I ymddiheuro, lle bo hynny’n briodol.

Os oes oedi byddwn yn egluro pam. Darperir copi o'r adroddiad, oni bai bod rheswm penodol dros beidio â gwneud hynny, a fydd yn cael ei egluro i chi.

Ni fydd pob cwyn yn mynd drwy'r broses uchod ac efallai y bydd yn fwy addas cyflwyno rhai cwynion drwy broses gwynion gorfforaethol y cyngor. Os yw hyn yn wir, byddwn yn rhoi gwybod ichi ar adeg cyflwyno'r gŵyn.  Ni ellir symud rhai cwynion ymlaen, er enghraifft os ydych chi eisiau cwyno ar ran yr unigolyn sydd ag anghenion gofal a chymorth, ond dydyn nhw ddim eisiau gwneud cwyn, ni fydd modd i ni symud y gŵyn ymlaen, oni bai bod yr unigolyn dan sylw yn cael ei asesu ac y deuir i'r casgliad ei fod â diffyg gallu meddyliol i wneud y penderfyniad hwnnw. Mae rhai achlysuron ble y gallwn roi eich cwyn ar stop oherwydd bod ffyrdd eraill y mae'r materion a godwyd yn eich cwyn yn cael eu hystyried. Er enghraifft os yw'r mater yn cael ei edrych arno drwy brosesau diogelu neu os yw ystyriaeth yn cael ei roi i achos llys. Byddwn yn rhoi gwybod ichi os yw'r amgylchiadau hyn yn berthnasol, a phan fydd y prosesau hynny wedi eu cwblhau, byddwn yn cysylltu â chi i weld a ydych yn dal i ddymuno mynd ar drywydd y gŵyn.

Mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn cydweithio’n agos â llawer o sefydliadau eraill. Efallai bydd eich cwyn yn ymwneud â gwasanaeth rydym ni wedi’i drefnu i chi gyda darparwr gofal arall, megis cartref gofal preswyl, asiantaeth gofal cartref, neu wasanaeth dydd.

Bydd gan bob sefydliad ei broses gwynion ei hun, ac yng Ngham 1 byddwn fel arfer yn anfon eich cwyn atynt ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn delio gyda hi. Byddwn yn dweud wrthych yn union beth rydym yn ei wneud. Os ydych eisoes wedi cwyno wrth y sefydliad arall, a heb fod yn fodlon ar eu hateb, byddwn ni’n delio gyda’ch cwyn yng Ngham 2.

Os yw eich cwyn yn ymwneud â rhywbeth yr ydym wedi’i ddarparu ar y cyd â sefydliad arall, e.e. pecyn gofal gan staff iechyd a staff gofal cymdeithasol, byddwn yn edrych ar eich cwyn gyda’n gilydd ac fel arfer yn anfon un ymateb atoch.

Os yw'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu neu ei drefnu gennym ni ac nad ydych yn siŵr at bwy i gwyno, anfonwch y gŵyn atom a byddwn yn eich helpu i sicrhau ei bod yn cyrraedd y person neu'r sefydliad cywir.

Os ydych chi eisiau, gallwch roi gwybod i ni pan fyddwch yn hapus â'r hyn rydyn ni wedi'i wneud. Gallwch wneud hyn drwy ddweud wrth y staff rydych mewn cysylltiad â nhw neu gysylltu â'r Tîm Cwynion a Chanmoliaeth. Nid yw ein staff yn gallu derbyn unrhyw fath o roddion fel cydnabyddiaeth am y gwaith da maen nhw'n ei wneud.

Llwythwch mwy