Iechyd Meddwl

Diweddarwyd y dudalen ar: 26/04/2022

Mae gofalu am eich llesiant meddwl mor bwysig â chadw’n gorfforol iach. Mae iechyd meddwl gwael yn gallu effeithio arnoch chi, eich teulu, eich ffrindiau ac agweddau eraill ar eich bywyd megis eich swydd. Bydd un ym mhob pedwar person yn profi problem iechyd meddwl ar ryw adeg yn eu bywydau, a bydd un ym mhob chwe pherson yn dioddef salwch meddwl parhaus difrifol. Gall pawb gymryd camau sylweddol tuag at adennill neu wella’u hiechyd meddwl a chyflawni ansawdd bywyd gwell.

Os ydych chi’n meddwl eich bod yn profi problemau gyda’ch iechyd meddwl, cysylltwch â’ch meddyg teulu. Bydd yn ceisio eich cefnogi i ddechrau, ond os bydd y symptomau’n parhau efallai bydd yn ystyried eich atgyfeirio i’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol neu fel arall i ni fel Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol.

Gallwch hefyd gysylltu â Llesiant Delta drwy ffonio 0300 000 2222 i gael gwybodaeth, cyngor a chymorth.

Efallai byddwch yn cael eich atgyfeirio i un o’r Tîmau Iechyd Meddwl Cymunedol. Mae’r tîm yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol Iechyd Meddwl, Nyrsys Seiciatrig Cymunedol, Seiciatryddion Ymgynghorol, Seicolegwyr Clinigol, Therapyddion Galwedigaethol, Dietegydd a staff Cymorth.

Bydd y Tîm Iechyd Meddwl yn cynnig apwyntiad i chi ar gyfer asesiad. Ymatebir i atgyfeiriadau o fewn 28 diwrnod gwaith ac i atgyfeiriadau brys o fewn 4 awr, a gorau oll ar yr un diwrnod gwaith.

Yn dilyn asesiad, os yw’n briodol i chi gael cymorth gan y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, bydd Cydgysylltydd Gofal yn cael ei neilltuo i weithio gyda chi. Un o’r gweithwyr proffesiynol a grybwyllir uchod fydd hwn a bydd yn gweithio gyda chi i ddatblygu Cynllun Gofal a Thriniaeth.

Nod y Cynllun Gofal a Thriniaeth yw canolbwyntio ar ganlyniadau, gan roi cyfle i chi osod nodau ym mhob agwedd ar eich bywyd. Mae’r rhain yn cynnwys agweddau megis llety, addysg a hyfforddiant, arian, perthnasoedd magu plant neu ofalu, gwaith, llesiant corfforol ac anghenion cymdeithasol, diwylliannol neu ysbrydol. Trwy gydweithio gyda’r cydgysylltydd gofal, bydd hyn yn eich galluogi i gymryd mwy o reolaeth ar eich adferiad eich hun.

Mae Cynllun Gofal a Thriniaeth ar gyfer unigolion sy’n cael gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

Byddwn yn adolygu eich cynllun gofal a thriniaeth ac ar y cyd byddwn yn cytuno ar gynllun rhyddhau. Mae’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn cydweithio â gwasanaethau cymorth lleol i sicrhau eich bod yn parhau i wella.

Os byddwch yn mynd yn sâl ar ôl cael eich rhyddhau byddwch yn gallu eich atgyfeirio’ch hun yn ôl i’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol o fewn tair blynedd o ddyddiad eich rhyddhau neu fel arall gallwch fynd at eich meddyg teulu.

Bydd yr holl wybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi i ni, neu y bydd eraill yn ei rhoi ar eich rhan, yn cael ei chadw’n gyfrinachol. Mae’r holl wybodaeth yn cael ei dal yn ddiogel, mae’n aros yn breifat a dim ond i’n helpu ni i ddarparu’r gwasanaethau y mae eu hangen arnoch y caiff ei defnyddio. Dim ond am y rhesymau yr ydych chi wedi cytuno â hwy y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth a dim ond y staff sy’n rhan o ddarparu eich gwasanaethau sydd â chaniatâd i gael mynediad at eich ffeil.

Ar rai achlysuron efallai y gofynnir inni rannu gwybodaeth gyda gweithwyr proffesiynol eraill; fodd bynnag, dim ond gyda’ch gwybodaeth a’ch caniatâd chi y byddai’r wybodaeth hon yn cael ei datgelu fel arfer, a hynny’n unol â Deddf Diogelu Data 1998.

Mae rhai achlysuron pan fo’n gyfreithiol ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth heb eich cydsyniad, er enghraifft:

  • Wrth yr heddlu neu’r llys mewn materion cyfreithiol neu droseddol difrifol, neu
  • I osgoi niwed difrifol i chi neu i bobl eraill.