Mae ein cynlluniau tai â chymorth yn galluogi pobl ag anableddau iechyd meddwl a dysgu i fyw'n annibynnol yn eu cartref eu hunain, gyda chymorth priodol i'w helpu i reoli eu tenantiaeth eu hunain a sicrhau mwy o ryddid a rheolaeth yn eu bywydau.
Bydd y gwasanaethau a ddarperir yn amrywio o:
- ymweliadau achlysurol gan weithiwr cymorth
- cymorth hyblyg yn ystod y dydd neu gyda'r hwyr, dros nos a/neu ar benwythnosau
- cymorth 24 awr y dydd
Bydd rhai gwasanaethau yn cael eu rhannu o bosib os bydd mwy nag un person ag anghenion cymorth yn byw gyda'i gilydd.
Gellir darparu cymorth mewn llety hunangynhwysol neu lety â chymorth a rennir. Mae'r staff wedi'u hyfforddi'n llawn ac yn defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i gynllunio a darparu cymorth i unigolyn.
Trawsnewid tai
Mae ailddatblygiadau tai â chymorth yn darparu llety i unigolion sydd ag anableddau iechyd meddwl a dysgu.
Yr Aelwyd, Rhydaman
Mae hen gartref gofal yng Nglanaman wedi cael ei drawsnewid yn llety â chymorth i bobl ag anghenion cymorth amrywiol.
Mae'r llety yn darparu amgylchedd byw i helpu pobl sydd ag anghenion cymorth canolig i uchel fyw'n annibynnol yn y gymuned. Mae'r llety'n cynnig lefel o wasanaeth cymorth ar y safle.
Staff iechyd, gofal cymdeithasol a thai sy'n rheoli'r prosiect ac yn ymgysylltu'n agos â thrigolion lleol a'r gymuned.
Teras Coleshill, Llanelli
Mae hen adeilad y Cofrestrydd a'r Ddesg Dalu yn darparu llety â chymorth i helpu pobl sydd ag anghenion cymorth amrywiol i fyw'n annibynnol yn eu cymuned.
Mae'r tai yn darparu llety pontio o un prosiect i'r llall, ynghyd â'r cyfle i gynnig cymorth 24 awr. Mae'r prosiect yn cael ei gydgysylltu a'i reoli ar y cyd gan weithwyr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol a thai.
Mae dyluniad yr adeilad yn cynnwys y technolegau diweddaraf a fydd yn cyfrannu'n helaeth at ein huchelgais i fod yn Awdurdod carbon sero-net erbyn 2030.
Cysylltwch â ni
Am ragor o wybodaeth am dai â chymorth i unigolion ag anableddau iechyd meddwl a dysgu, anfonwch e-bost at direct@sirgar.gov.uk
Yn ôl i'r hafan