Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Rydym yn helpu pobl i gadw eu hannibyniaeth, ac i barhau i wneud dewisiadau a chadw rheolaeth dros eu bywydau. I'r diben hwn, mae'n bwysig bod gan bawb fynediad at y wybodaeth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt er mwyn gwneud y dewisiadau cywir ar eu cyfer. Mae rhai pobl angen gofal neu gymorth ychwanegol er mwyn byw bywyd egnïol a gwneud y pethau bach pob dydd y mae llawer ohonom yn eu cymryd yn ganiataol. Ein nod yw eich helpu i gynnal bywyd o ansawdd da, neu i gael hyd i bobl eraill a allai eich helpu.