Rhagnodi Cymdeithasol
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/07/2024
Mae rhagnodi cymdeithasol yn wasanaeth sy'n eich cysylltu ag ystod eang o wasanaethau lleol a gweithgareddau yn y gymuned i helpu i wella eich llesiant yn gyffredinol.
Mae Rhagnodi Cymdeithasol yn ffordd o gysylltu pobl â'u cymuned, beth bynnag fo'u hoedran neu gefndir, i helpu i reoli eu hiechyd a'u llesiant.
Gall Rhagnodi Cymdeithasol helpu unigolion i gydnabod eu hanghenion, eu cryfderau a'u hasedau personol ac i gysylltu â'u cymunedau eu hunain i gael cymorth gyda'u hiechyd a'u llesiant.
Weithiau mae cleifion yn ymweld â'u meddyg teulu am resymau heblaw am broblemau meddygol oherwydd nad ydynt yn gwybod ble i gael cymorth ar gyfer materion cymdeithasol, sy'n cael effaith negyddol ar eu hiechyd.
Mae ffynonellau cymorth ar gael mewn cymunedau lleol a all chwarae rhan bwysig wrth wella iechyd a llesiant rhywun ochr yn ochr â gofal clinigol.
Mae'r gwasanaethau'n aml yn cael eu darparu gan bobl sy'n gweithio ac yn gwirfoddoli yn y trydydd sector neu'r sector annibynnol, gan ategu'r rôl a gyflawnir gan sefydliadau statudol.
Mae rhagnodwyr cymdeithasol wedi'u lleoli mewn practisau meddygol teulu ac yn gweithredu fel cyswllt rhwng darparwyr gofal iechyd ac adnoddau yn y gymuned leol.
Drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a chysylltu ag eraill, gall unigolion brofi:
llesiant meddyliol ac emosiynol gwell
llesiant corfforol gwell
llai o deimladau o unigrwydd,
cynnydd ym modlonrwydd bywyd yn gyffredinol.
Mae rhagnodi cymdeithasol wedi arwain at ganlyniadau fel a ganlyn:
llesiant gwell
cefnogi hunanreolaeth o gyflyrau cronig
lleihau costau gofal iechyd drwy ganolbwyntio ar ofal ataliol ac ymyrraeth gynnar.
Mae rhagnodwyr cymdeithasol wedi'u lleoli mewn practisau meddygol teulu ac yn gweithredu fel cyswllt rhwng darparwyr gofal iechyd ac adnoddau yn y gymuned leol.
Mae ganddynt wybodaeth am wasanaethau, sefydliadau a gweithgareddau yn y gymuned a all gefnogi eich iechyd a'ch llesiant.
Mae rhagnodwr cymdeithasol yn rhywun:
Sy'n gallu siarad yn gyfrinachol
Sy'n ymarferol, yn ddefnyddiol ac na fydd yn eich barnu
Sy'n gallu eich helpu i benderfynu pa grwpiau a gweithgareddau a fyddai fwyaf addas i chi
Sy'n gallu dod o hyd i grwpiau neu weithgareddau sy'n addas i chi
Sy'n gallu eich cefnogi ar hyd y ffordd.
Bydd rhagnodwr cymdeithasol yn cymryd amser i wrando ar yr hyn sy'n bwysig i chi a bydd yn eich tywys i gael mynediad at gymorth a gwasanaethau priodol.
Gall gweithgareddau a ragnodir amrywio, gan gynnwys:
Gweithdai celf a chrefft
Garddio
Dosbarthiadau ymarfer corff
Grwpiau cymorth
Cyfleoedd gwirfoddoli
Therapïau sy'n seiliedig ar natur
Er mwyn bod yn gymwys mae'n rhaid bod y canlynol yn berthnasol i chi:
18+ oed
wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu yn Sir Gaerfyrddin
nid ydych mewn argyfwng
Os ydych mewn argyfwng, cysylltwch â'ch meddyg teulu cyn gynted â phosibl.
Yn Sir Gaerfyrddin mae Rhagnodwyr Cymdeithasol wedi'u lleoli mewn meddygfeydd a gellir cael mynediad atynt drwy atgyfeiriad. Gellir gwneud atgyfeiriadau drwy:
Hunanatgyfeiriad
Atgyfeiriad gan feddyg teulu
Atgyfeiriad gan Weithiwr Cymdeithasol
Atgyfeiriad gan sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl
Gallwch wneud atgyfeiriad i'r tîm Rhagnodi Cymdeithasol drwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol:
Cyn gynted ag y bydd y tîm yn derbyn eich atgyfeiriad, byddant yn trosglwyddo hyn i Ragnodwr Cymdeithasol sy'n cynnwys eich meddygfa a fydd wedyn yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad.
Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Camddefnyddio cyffuriau / alcohol
A ydych chi'n poeni am oedolyn/blentyn? (1)
Sut i gysylltu â ni
Cyfleoedd dydd
Dementia
Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid
Anabledd ac Awtistiaeth
Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
Taflenni gwybodaeth
Mynd yma ac acw
Opsiynau Tai
Sut i gael help
Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol
Mwy ynghylch Gofal Cymdeithasol ac Iechyd