Cyfleoedd dydd
Diweddarwyd y dudalen ar: 26/07/2023
Mae cyfleoedd dydd yn Sir Gaerfyrddin yn rhoi'r cyfle i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau y tu allan i'r cartref ac yn cynnig seibiant i'w gofalwyr yr un pryd. Mae cyfleoedd dydd eraill wedi'u hanelu at:
- anghenion iechyd meddwl
- anableddau dysgu a/neu anabledd corfforol
- pobl hŷn sydd ag angen mwy o ofal a sylw
- gofalwyr sydd angen seibiant
- pobl hŷn sy'n unig ac angen cymorth emosiynol neu ymarferol
Mae cyfleoedd dydd yn cynnig:
- Cyfle i fynd allan o'r tŷ
- Cyfle i ddysgu sgiliau newydd
- Cyfle i wneud ffrindiau newydd a chwrdd â phobl eraill
- Gofalwyr sydd angen seibiant o'u rôl gofalu
Mae galw mawr am ein cyfleoedd dydd. Os ydych chi'n teimlo yr hoffech chi neu yr hoffai perthynas neu ffrind ichi ddod i un o'r canolfannau, cysylltwch â'r is-adran Gofal Cymdeithasol. Byddwn yn trafod eich anghenion gyda chi ac yn eich helpu i nodi pa gymorth all fod ei angen arnoch i barhau i fyw'n annibynnol yn eich cartref. Bydd pa mor aml y byddwch yn ymweld â'r ganolfan ac am ba hyd y byddwch yn aros yn dibynnu ar eich anghenion a aseswyd. Bydd y swm y bydd yn rhaid ichi dalu am y gwasanaeth yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol.