Sut i gael help
Diweddarwyd y dudalen ar: 28/10/2024
Sut i gael help a chymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol
Rydym yn gweithio gyda phobl yn ein cymuned sydd angen cyngor, cymorth, gofal ac amddiffyniad. Mae hyn yn cynnwys plant a'u teuluoedd, pobl hŷn, pobl â salwch neu anabledd, pobl â phroblemau iechyd meddwl a'r rhai sydd angen cymorth i ofalu am rywun arall.
Gan ein bod eisiau ichi fyw bywyd mor annibynnol â phosibl, byddwn bob amser yn ceisio rhoi cyngor a chymorth i chi, a fydd yn eich galluogi i gymryd eich camau eich hun i ddod o hyd i ateb. Yn ogystal, byddwn hefyd yn gweld pa gymorth sydd ar gael yn eich rhwydwaith eich hun o berthnasau, ffrindiau, cymdogion ac ati a'r gymuned ehangach, megis sefydliadau gwirfoddol, sydd yn barod i'ch helpu ac yn medru gwneud hynny.
Ar ôl ystyried yr holl opsiynau hyn, os bydd hi'n amlwg nad yw'r rhain yn addas byddwn wrth gwrs yn edrych ar yr hyn allai fod ar gael ichi gan yr awdurdod lleol.
Byddwn yn trefnu i drafod eich sefyllfa - gelwir hyn yn asesiad. Ni allwn eich gorfodi i gael asesiad, mae gennych hawl i ddweud nad ydych chi eisiau un. Fodd bynnag, os byddwch yn dewis peidio â chael asesiad, bydd yn anodd profi'r help y gallai fod ei angen arnoch.
Beth sy'n digwydd yn ystod asesiad?
Yn ystod asesiad byddwn yn ymweld â chi i siarad am eich bywyd o ddydd i ddydd a'r hyn sy'n bwysig i chi. Gallwch bob amser gael rhywun yn bresennol i'ch cefnogi drwy gydol yr asesiad, fel teulu neu ffrind priodol, sydd ar gael i'ch cefnogi. Os nad oes gennych rywun ond nad ydych am fod ar eich pen eich hun, bydd yr awdurdod lleol yn eich helpu i ddod o hyd i rywun i'ch cefnogi. Gelwir y person hwn yn eiriolwr a byddant yn eich helpu i sicrhau bod eich barn yn cael ei chlywed.
Yn ystod yr ymweliad asesu byddwn yn gwrando ar yr hyn sy'n bwysig i chi. Byddwn yn trafod gyda chi sut mae'r meysydd canlynol yn cael effaith ar eich annibyniaeth:
- Iechyd a Diogelwch: Unrhyw salwch, anableddau neu faterion diogelwch y gellir darparu cymorth ar eu cyfer.
- Rheoli Arferion Dyddiol: A ydych chi'n gallu gofalu amdanoch eich hun drwy ymgymryd ag arferion dyddiol a sicrhau deiet/gwres/gofal personol digonol?
- Ymreolaeth: A ydych chi'n gallu gwneud penderfyniadau a chymryd camau i'ch cadw chi mor annibynnol â phosibl?
- Cynhwysiant Cymdeithasol: A ydych chi'n gallu mwynhau lefel o gyfranogiad mewn digwyddiadau cymunedol a chyfleoedd cymdeithasol pan fo angen?
Ar ôl cwrdd a thrafod eich sefyllfa a gwrando ar yr hyn sydd o bwys i chi, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw canlyniad yr ymweliad. Er mwyn bod â hawl i wasanaethau gofal a chymorth gennym mae'n rhaid i chi fyw yn Sir Gaerfyrddin (yn amodol ar eithriadau) a rhaid i'ch sefyllfa fodloni pedwar amod. Yr amodau hyn yw:
- Bod eich anghenion yn codi yn sgil naill ai iechyd meddwl neu iechyd corfforol gwael, oedran, anabledd, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau, neu amgylchiadau tebyg.
- Bod yr anghenion hynny yn perthyn i un neu ragor o'r canlynol:
- Methu â gofalu am eich hun na chyflawni tasgau bob dydd yn y cartref. Golyga hyn bwyta ac yfed, cynnal hylendid personol, codi o'r gwely a gwisgo, symud o amgylch y tŷ a chadw'r cartref yn lân ac yn ddiogel.
- Os ydych yn cael anawsterau cyfathrebu
- Os oes angen i chi gael eich diogelu rhag camdriniaeth neu esgeulustod
- Os oes angen cymorth arnoch mewn perthynas â gwaith, addysg neu weithgareddau hamdden
- Os oes angen cymorth arnoch i feithrin neu gynnal perthnasoedd gyda'ch teulu
- Os oes angen cymorth arnoch i feithrin neu gynnal perthnasoedd gyda'ch ffrindiau neu'r gymuned leol
- Os oes angen cymorth arnoch gan eich bod yn gofalu am blentyn.
- Eich bod yn methu â bodloni eich anghenion naill ai ar eich pen eich hun, neu â chymorth gan eraill sy'n barod i'w roi, er enghraifft teulu, ffrindiau ac ati, ac nid oes gwasanaethau ar gael yn y gymuned (bydd modd i ni eich helpu i ddarganfod a oes unrhyw wasanaethau cymunedol ar gael).
- Rydych yn annhebygol o lwyddo i wneud yr hyn rydych yn dymuno ei wneud oni bai ein bod yn darparu gwasanaethau i chi neu'n eich talu chi'n uniongyrchol er mwyn i chi brynu eich gwasanaethau eich hun.
Dim ond os ydych yn bodloni'r holl amodau uchod y bydd gennych hawl i'n gwasanaethau. Lle nad ydych yn bodloni'r holl amodau uchod, byddwn bob amser yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth i chi i'ch helpu i ddod o hyd i ffyrdd eraill o gefnogi eich hun.
Os ydych chi'n gymwys i dderbyn cymorth?
Os ydych chi'n gymwys i gael cymorth, byddwch yn cael eich cynnwys yn y broses o baratoi eich cynllun gofal/cymorth. Dyma lle gallwch gynnwys gwybodaeth am sut a phryd y darperir cymorth. Mae hefyd yn bwysig nodi efallai y bydd asesiad ariannol yn cael ei gynnal er mwyn helpu i benderfynu a oes angen ichi wneud cyfraniad ariannol tuag at gost eich gwasanaeth cymorth.
Bydd eich cynllun gofal/cymorth personol yn cynnwys crynodeb o'r ffordd y gallwch ddisgwyl i gymorth gael ei ddarparu, er enghraifft gall fod sawl ffordd wahanol o'ch helpu i gyrraedd eich nodau y cytunwyd arnynt. Gallwch ddisgwyl i rywun edrych ar eich cynllun eto, o leiaf unwaith y flwyddyn neu fel y cytunir. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn derbyn y lefel fwyaf priodol o gymorth, oherwydd gall sefyllfaoedd newid. Os bydd sefyllfa'n newid yn sylweddol cyn hyn, neu os oes angen i chi drafod eich sefyllfa gyda rhywun, cysylltwch â'r person a helpodd i drefnu eich cymorth gan ddefnyddio'r manylion y byddent wedi'u gadael gyda chi. Os nad yw hyn yn bosibl, gallwch gysylltu â Llesiant Delta drwy ffonio 0300 333 2222 (24 awr).
Sut ydw i'n cael asesiad gan yr awdurdod lleol?
Gallwch ofyn am asesiad drwy'r cais ar-lein ar gyfer atgyfeiriad i oedolion dros 18 oed. Os na allwch lenwi'r ffurflen ar-lein, cysylltwch â Llesiant Delta drwy ffonio 0300 333 2222.
Os na allwch lenwi'r ffurflen ar-lein, cysylltwch â Llesiant Delta drwy ffonio 0300 333 2222.
Os hoffech gysylltu â ni am rywun sydd o dan 18 oed, ffoniwch 01267 234567 neu e-bostiwch: galw@sirgar.gov.uk.
Os ydych yn cysylltu â ni ar ran rhywun arall, bydd angen ichi gael caniatâd ganddo/ganddi heblaw bod y person mewn perygl o gael ei gam-drin gan eraill neu os nad yw'n gallu rhoi caniatâd.
Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Camddefnyddio cyffuriau / alcohol
A ydych chi'n poeni am oedolyn/blentyn? (1)
Sut i gysylltu â ni
Cyfleoedd dydd
Dementia
Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid
Anabledd ac Awtistiaeth
Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
Taflenni gwybodaeth
Mynd yma ac acw
Opsiynau Tai
Sut i gael help
Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol
Mwy ynghylch Gofal Cymdeithasol ac Iechyd