Gofal preswyl a nyrsio

Diweddarwyd y dudalen ar: 29/05/2019

Cyn symud i gartref gofal mae'n werth ystyried pa gymorth a allai fod ar gael i chi i'ch helpu i barhau i fyw gartref. Efallai y byddwch chi, neu'ch perthynas, yn meddwl am gartref gofal am eich bod yn ei chael yn fwyfwy anodd ymdopi gartref, neu oherwydd bod salwch neu ddamwain wedi effeithio ar eich gallu i fyw yn annibynnol.

Mae cartrefi gofal preswyl yn cynnig gwasanaethau fel golchi dillad a phrydau bwyd a help gyda gofal personol. Mae rhai cartrefi yn cynnig cyfle i aros am gyfnod byr ond fel arfer maent yn darparu gofal mwy hirdymor neu barhaol. Efallai y bydd angen i chi symud i gartref gofal gyda gwasanaeth nyrsio os yw eich salwch neu'ch anabledd yn golygu eich bod angen gofal nyrsio rheolaidd na ellir ei ddarparu yn eich cartref eich hun. Bydd staff nyrsio ar gael 24 awr y dydd mewn cartref nyrsio.

Mae symud i gartref gofal yn benderfyniad pwysig iawn yn eich bywyd ac efallai y bydd angen cymorth arnoch i feddwl am y goblygiadau. Bydd trafod y mater gyda gweithiwr cymdeithasol yn help i chi benderfynu beth sy'n iawn i chi. Pan fyddwch yn gwybod pa fath o ofal sydd ei angen arnoch, gallwch gael mwy o fanylion am y cartrefi sy'n diwallu eich anghenion, ac efallai y gallwch drefnu i ymweld â nifer o gartrefi.

Wrth ymweld â chartref gall fod yn ddefnyddiol i chi baratoi rhestr o gwestiynau yr hoffech eu gofyn wedi i chi gyrraedd yno. Mae hyn yn helpu i gael y gorau o'r ymweliad. Mae'n bwysig bod y man lle byddwch yn byw yn rhywle lle'r ydych yn teimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel. Mae rhai cartrefi yn annog pobl i aros am gyfnod byr neu i gael pryd yno i weld a yw'r cartref yn addas ar eu cyfer.

Rhaid i bob cartref gofal gael ei archwilio gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). Mae faint bydd rhaid i chi dalu am ofal preswyl yn dibynnu ar eich incwm, eich cynilion ac asedau eraill. Mae rhai pobl yn talu'r tâl llawn am eu gofal ond bydd pawb yn talu rhywbeth. Bydd y gofal am ddim os:

  • byddwch yn derbyn gwasanaethau ôl-ofal a ddarperir o dan Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
  • cewch eich asesu i dderbyn gwasanaeth ymadfer hyd at 6 wythnos, bydd tâl yn berthnasol ar ôl hynny
  • yw eich gwasanaethau yn cael eu hariannu drwy Ofal Iechyd Parhaus gan y Bwrdd Iechyd Lleol
  • ydych yn oedolyn a ddiagnoswyd â chlefyd Creutzfeldt-Jakob (CJD)

Bydd y gost yn amrywio o berson i berson ac yn dibynnu ar y math o arhosiad neu leoliad a chanlyniad eich asesiad ariannol a chost y cartref. Dyma'r mathau o arhosiad sydd ar gael:

  • Ailalluogi Preswyl (Ymadfer)  – mae'r gwasanaeth hwn yn gyfle i chi wella a chryfhau'n raddol ar ôl llawdriniaeth neu salwch mewn amgylchedd cefnogol. Mae'n gyfle i gael mynediad at wasanaethau cefnogol a fydd yn eich galluogi i feithrin eich hyder cyn i chi ddychwelyd adref neu i amgylchedd mwy addas lle gall eich anghenion gael eu diwallu yn well. Nid oes tâl am y gwasanaeth hwn hyd at  fyny i 6 wythnos.  Ar achlysur o’r arhosiad yn parhau am fwy na 6 wythnos, sy'n annhebygol o ddigwydd, byddai'r tâl yn cael ei godi o dan y rheolau codi tâl sy'n berthnasol ar gyfer y math o arhosiad sydd ei angen (gofal seibiant/tymor byr/dros dro/parhaol – gweler isod) o ddiwrnod cyntaf y 7fed wythnos, neu o'r dyddiad y cafodd ei benderfynu bod angen math gwahanol o arhosiad, os oedd hynny ynghynt.
  • Gofal seibiant - wedi'i gynllunio ar gyfer arhosiad mewn cartref gofal i roi seibiant i'ch gofalwr/gofalwyr, sydd ar y pwynt derbyn yn annhebygol o fod yn fwy nag 8 wythnos. Bydd lefel a hyd y gofal a'r cymorth sydd i'w ddarparu o ganlyniad i'ch asesiad o anghenion; nid yw hyn fel arfer yn fwy na 6 wythnos mewn blwyddyn. Codir tâl am leoliadau seibiant dan reolau codi tâl dibreswyl . Bydd y tâl dibreswyl yn gymwys ar gyfer y cyfnod seibiant, a chaiff ei hyd ei asesu gan staff rheoli gofal. Os bydd yr arhosiad yn parhau am fwy na 8 wythnos, sy'n annhebygol o ddigwydd, byddai'r tâl yn cael ei godi o dan y rheolau codi tâl sy'n berthnasol ar gyfer y math o arhosiad sydd ei angen (gofal dros dro/parhaol – gweler isod) o ddiwrnod cyntaf y 9fed wythnos, neu o'r dyddiad y cafodd ei benderfynu bod angen math gwahanol o arhosiad, os oedd hynny ynghynt.
  • Gofal tymor byr - arhosiad byr heb ei gynllunio neu wedi trefnu ar frys /mewn argyfwng mewn cartref gofal sydd, ar yr adeg derbyn, yn annhebygol o fod yn fwy nag 8 wythnos. (h.y. y byddech fel arfer yn byw yn eich cartref eich hun/yn disgwyl dychwelyd i'ch cartref eich hun o fewn 8 wythnos). Bydd lefel a hyd y gofal a'r cymorth sydd i'w ddarparu o ganlyniad i'ch asesiad o anghenion. Codir tâl am leoliadau tymor byr o dan reolau codi tâl dibreswyl. Bydd y tâl dibreswyl yn gymwys ar gyfer y cyfnod byr dymor, y bydd ei hyd yn cael ei asesu gan staff rheoli gofal. Os bydd yr arhosiad yn parhau am fwy na 8 wythnos, sy'n annhebygol o ddigwydd, byddai'r tâl yn cael ei godi o dan y rheolau codi tâl sy'n berthnasol ar gyfer y math o arhosiad sydd ei angen (gofal dros dro/parhaol – gweler isod) o ddiwrnod cyntaf y 9fed wythnos, neu o'r dyddiad y cafodd ei benderfynu bod angen math gwahanol o arhosiad, os oedd hynny ynghynt.
  • Arhosiad dros dro - cyfnod gofal lle rhagwelir y byddwch yn gallu dychwelyd i’ch cartref eich hunan rywbryd yn y dyfodol yw arhosiad dros dro. Byddai disgwyl i'ch arhosiad dros dro bara mwy nag 8 wythnos a gall bara am hyd at 52 wythnos. Bydd y tâl yn seiliedig ar ganlyniad asesiad ariannol. Mae rheolau'r asesiad ariannol yr un fath ag ar gyfer preswylwyr parhaol ond, os ydych yn berchen ar eiddo, ni fydd gwerth eich prif breswylfa yn cael ei gymryd i ystyriaeth am y 52 wythnos gyntaf. Fodd bynnag, os ydych yn berchen ar eiddo arall neu os ydych yn berchen ar dir yna byddai gwerth yr ased hwn yn cael ei gynnwys yn yr asesiad ariannol o ddiwrnod cyntaf y lleoliad. 
  • Arhosiad parhaol - cael eich derbyn i gartref gofal lle rhagwelir y bydd angen i chi fyw yno am gyfnod amhenodol yw arhosiad parhaol. Bydd eich tâl yn seiliedig ar ganlyniad eich asesiad ariannol. Os byddwch wedi hynny yn gallu dychwelyd i’ch cartref eich hun, bydd y rheolau ar gyfer arhosiad dros dro yn cael eu gweithredu – dan amgylchiadau penodol – ar gyfer y cyfnod a fu.

A oes uchafswm tâl?

Ni fydd y tâl uchaf yn fwy na gwir gost eich lleoliad, a gall hyn amrywio am nifer o resymau. Codir tâl am leoliad Seibiant/Tymor Byr o dan reolau taliadau dibreswyl hyd at uchafswm o £90 yr wythnos, gan ddibynnu ar ganlyniad yr asesiad ariannol. Sylwer y gellir codi tâl o £90.00 arnoch am un noson o ofal Seibiant/gofal Tymor Byr yn ystod wythnos lle codir tâl, a hynny oherwydd cost y gwasanaeth a ddarperir.  Codir tâl wrth yr wythnos sy'n rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul. 

A oes isafswm?

Bydd rhaid i bawb dalu rhywbeth tuag at ofal dros dro neu ofal parhaol. Y tâl am ofal dros dro a pharhaol yn cael ei gysylltu'n uniongyrchol â'ch budd-daliadau Adran Gwaith a Phensiynau, unrhyw incwm a chyfalaf arall.  

Faint a godir arnaf os byddaf yn gorfod treulio amser yn yr ysbyty yn ystod fy arhosiad yn y Cartref?

Os ydych yn breswylydd dros dro neu’n breswylydd parhaol mewn Cartref Gofal ac yn cael eich derbyn i’r ysbyty, byddwn yn cadw eich lleoliad ar eich cyfer hyd nes y penderfynir nad oes angen y lleoliad arnoch mwyach neu hyd nes y penderfynir na fydd y lleoliad yn diwallu eich anghenion yn y dyfodol. Yn ystod eich cyfnod yn yr ysbyty byddwn yn dal i godi arnoch am eich lleoliad. Bydd swm y tâl hwnnw’n seiliedig ar y pensiynau a’r budd-daliadau rydych yn eu cael gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn unig.

Mae asesiad ariannol yn gyfrifiad o'r hyn y gallwch ei fforddio tuag at eich gofal.

Os mai eich dewis yw peidio â rhoi manylion eich incwm ac asedau eraill i ni neu os ydych yn gwrthod darparu gwybodaeth efallai y bydd y Cyngor yn codi tâl arnoch am gost lawn y gofal a ddarperir.

Os byddwch yn dewis datgan eich sefyllfa ariannol, yna gofynnir i chi lenwi a llofnodi ffurflen asesiad ariannol a bydd angen i chi roi manylion eich incwm, cyfalaf a threuliau. Bydd angen i chi hefyd roi prawf o'r wybodaeth a nodir ar y ffurflen (e.e. datganiadau banc, llythyrau hysbysu budd-daliadau); bydd hyn yn ein helpu i gyfrif faint y gallwch chi ei fforddio tuag at eich gofal.

Gallwn eich helpu i lenwi'r ffurflen os oes angen; byddai hyn fel arfer yn cynnwys ymweliad â'ch cartref neu unrhyw le cyfleus arall i lenwi'r ffurflen gyda chi a / neu eich cynrychiolydd.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad yr asesiad ariannol yn ysgrifenedig.

Byddwn yn adolygu eich asesiad ariannol yn flynyddol, oni bai bod newid yn eich amgylchiadau, ac os felly, byddwn yn adolygu'r asesiad ariannol yn gynt.

Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth yn unol â'r caniatâd a roddwyd gennych chi ac yn unol â'n polisi diogelu data.

Incwm

Gall gynnwys budd-daliadau'r wladwriaeth, pensiynau galwedigaethol / preifat (gan gynnwys pensiwn ar ôl priod sydd wedi marw), blwydd-daliadau, incwm ymddiriedolaeth, incwm o fondiau buddsoddi, incwm rhent a'r rhan fwyaf o incwm arall. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr. Byddwn ond yn cynnwys incwm y mae gennych hawl iddo.

Cyfalaf

Gall hyn gynnwys eiddo (gweler Beth os wyf yn berchen ar eiddo? i gael mwy o wybodaeth), tir, cynilion yn y banc, cymdeithas adeiladu neu unrhyw gyfrifon cynilo eraill (gan gynnwys cyfrifon cyfredol a chyfrifon cerdyn y Swyddfa Bost, arian a gedwir mewn cyfrif diogel), bondiau premiwm arian parod, stociau a chyfranddaliadau, ISAs a'r rhan fwyaf o fathau eraill o gyfalaf. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.

Os oes gennych gyfalaf ar y cyd â pherson arall, fel arfer ystyrir bod gennych chi a'r perchennog arall fuddiant cyfartal yn y cyfalaf.

Mae rhywfaint o gyfalaf yn cael ei ddiystyru; mae hyn yn cynnwys y £50,000 (ar gyfer 2019/20) o'ch asedau ac mae'r swm hwn yn cael ei osod gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Nid yw hyn yn golygu y gallwch gadw incwm nes bod eich cyfalaf yn cyrraedd y trothwy hwn.

Os cewch eich derbyn i gartref gofal fel lleoliad dros dro, yna bydd eich prif breswylfa yn cael ei diystyru o'r asesiad ariannol dros y cyfnod dros dro, hyd at uchafswm o 52 wythnos. Os ydych yn berchen ar unrhyw dir, neu yn berchen ar unrhyw eiddo ychwanegol, mae gwerth y rhain yn cael eu cynnwys yn yr asesiad ariannol o'r adeg y byddwch yn dechrau ar eich cyfnod o ofal.

Os ydych yn cael eich derbyn i gartref yn barhaol, mae gwerth eich prif breswylfa yn cael ei ddiystyru o'r asesiad ariannol am y 12 wythnos gyntaf ar ôl cael eich derbyn i ofal. Fodd bynnag, os ydych yn gwerthu eich prif breswylfa yn ystod y cyfnod cychwynnol o 12 wythnos, yna bydd y gwerthiant yn cael ei gynnwys yn yr asesiad ariannol o ddyddiad y gwerthiant ymlaen. Os ydych yn berchen ar unrhyw dir, neu yn berchen ar unrhyw eiddo ychwanegol yna bydd y gwerth yn cael ei gynnwys yn yr asesiad ariannol o ddechrau'r cyfnod o ofal.

Mewn rhai amgylchiadau, bydd eich prif breswylfa yn cael ei diystyru o'r asesiad ariannol yn gyfan gwbl, os yw hefyd yn brif breswylfa unrhyw un o'r bobl ganlynol:

  • Eich partner (mae hyn yn golygu gŵr neu wraig, neu rywun sy'n byw gyda chi fel gŵr/gwraig neu bartner sifil;
  • Perthynas sy'n 60 oed neu'n hŷn;
  • Perthynas sy'n analluog;
  • Plentyn o dan 18 oed;
  • Rhiant unigol sydd â phlentyn dibynnol sy'n gyn-bartner i chi neu sydd wedi ysgaru oddi wrthych.

Mae gan yr Awdurdod Lleol ddisgresiwn i ystyried sefyllfaoedd eraill ac mae'r rhain yn cael eu hystyried yn ôl eu rhinweddau unigol.

Os bydd unrhyw un o'r amodau hyn yn dod i ben yn ystod cyfnod y gofal, yna bydd gwerth yr eiddo yn cael ei gynnwys yn yr asesiad ariannol o'r dyddiad hwnnw ymlaen.

Beth os bydd rhywun yn berchen ar fy mhrif breswylfa/eiddo ychwanegol ar y cyd â mi?

Byddwn yn archwilio dogfennau i gadarnhau bod rhywun yn berchen yr eiddo ar y cyd â chi, a byddwm fel arfer ond yn cymryd i ystyriaeth gwerth eich cyfran chi o'r eiddo.

Beth os bydd fy mhrif breswylfa/eiddo ychwanegol wedi cael ei drosglwyddo i rywun arall?

Byddwn yn edrych ar y dogfennau sy’n cadarnhau hyn a byddwn yn gofyn i chi ddangos gwybodaeth sy'n ymwneud ag amodau'r trosglwyddiad. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i seilio ein penderfyniad ynghylch a ddylid cynnwys yr eiddo neu ei ddiystyru o'r asesiad ariannol.

A fydd rhaid i mi werthu fy mhrif breswylfa?

Chi fydd yn dewis gwerthu eich prif breswylfa neu beidio. Os ydych yn dewis peidio â gwerthu eich prif breswylfa ac os na allwch dalu'r tâl a aseswyd ar gyfer eich lleoliad, gofynnir i chi ymrwymo i gytundeb Taliadau Gohiriedig - gweler Beth yw Cytundeb Taliadau Gohiriedig? Bydd yr adran yn rhoi "Arwystl Cyfreithiol" ar y brif breswylfa ac yn cronni'r ddyled tan ddyddiad diweddarach. Mae hyn yn golygu y byddwn yn adennill y swm sy'n ddyledus i ni o'r arian a gewch pan fyddwch yn penderfynu gwerthu eich cartref neu o'ch ystad ar ôl i gyfnod eich gofal ddod i ben. Fodd bynnag, bydd gofyn i chi ddefnyddio eich incwm wythnosol ac unrhyw gynilion hygyrch i gyfrannu at eich tâl wythnosol hyd nes bod eich eiddo yn cael ei werthu neu hyd nes bydd eich cynilion wedi gostwng.

Beth sy'n digwydd os byddaf yn gwerthu fy mhrif breswylfa?

Os byddwch yn dewis rhoi eich prif breswylfa ar werth byddwn yn parhau i'ch helpu i dalu am eich costau gofal hyd nes bod eich eiddo wedi'i werthu. Pan fydd wedi'i werthu, rhaid i chi ddweud wrthym a byddwn yn cyfrif faint sy'n ddyledus gennych am gostau'r cartref gofal.

Fel rhan o'r asesiad ariannol bydd yr awdurdod lleol yn prisio'ch holl eiddo at ddibenion asesiad ariannol. Os bydd y pris gwerthu yn wahanol i'r prisiad, byddwn yn ystyried y rhesymau am hynny.

Beth yw Cytundeb Taliadau Gohiriedig?

Mae Cytundeb Taliadau Gohiriedig yn gytundeb cyfreithiol rhwng y defnyddiwr gwasanaeth a'r awdurdod lleol.

Pan fo defnyddiwr gwasanaeth yn berchen ar eu prif breswylfa ac nad ydynt yn dymuno ei werthu neu'n methu â'i werthu, mae'r Cynllun Taliadau Gohiriedig yn galluogi'r defnyddiwr gwasanaeth i dalu eu costau gofal drwy ymrwymo i gytundeb gyda'r awdurdod lleol i ohirio talu am ofal.

Gall yr awdurdod lleol ond gytuno i daliad gohiriedig os bydd y person yn y cartref gofal yn berchen ar eu heiddo eu hunain ac os oes ganddo ddigon o incwm a/neu asedau hygyrch arall (ac eithrio gwerth eu prif breswylfa) i dalu am y costau gofal.

Fel rhan o'ch asesiad ariannol mae eich holl incwm yn cael ei ystyried ac yna lle y bo'n briodol bydd rhai mathau o incwm yn cael eu diystyru o'r asesiad ariannol.

Yn eich budd-daliadau mae swm a elwir yn gyffredin fel Swm Isafswm Incwm ac mae'r swm hwn yn cael ei anwybyddu o'ch asesiad ariannol. Mae'r swm yn cael ei osod gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cael ei adolygu'n flynyddol. Y swm ar gyfer 2019/20 yw £29.50.

O fewn yr asesiad ariannol, mae mathau eraill o fudd-dal ac incwm sy'n cael eu diystyru o'r asesiad ariannol. Dyma rai enghreifftiau:

  • holl elfennau symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl a'r Taliad Annibynnol Personol;
  • y £10 cyntaf pensiynau rhyfel Gwraig Weddw/Gŵr Gweddw
  • y cyfan o’r pensiwn atodol Gweddwon Rhyfel;
  • y cyfan o’r Pensiwn Anabledd Rhyfel
  • pob enillion;
  • y cyfan o'r taliad Annibyniaeth Lluoedd Arfog;
  • pob un o'r Taliadau Incwm Gwarantedig a wnaed o dan y cynllun iawndal Lluoedd Arfog;
  • hyd at £5.75 o gredyd cynilion (rhan o'r credyd pensiwn). Dyma'r swm ar gyfer 2019/20 ac mae'r swm hwn yn cael ei osod gan Lywodraeth Cymru.

Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.

Fel rhan o'ch asesiad ariannol mae eich holl gyfalaf yn cael ei ystyried ac yna lle y bo'n briodol bydd rhai mathau penodol o gyfalaf yn cael eu diystyru o'r asesiad ariannol.

Bob blwyddyn mae Llywodraeth Cymru yn pennu swm y mae'n rhaid ei ddiystyru wrth gyfrif eich incwm. Y swm ar gyfer 2019/20 yw £50,000.00. Mae gwerth cyfalaf dros y ffigur hwn yn cael ei gynnwys yn yr asesiad ariannol. Os yw eich cyfalaf yn is na'r ffigur hwn, nid yw hynny'n golygu eich bod yn gallu cadw incwm nes bod eich cyfalaf yn cyrraedd y trothwy hwn.

Yn ogystal, mae cyfalaf a dderbynnir ar ffurf taliadau ex-gratia i gyn-garcharorion rhyfel yn y Dwyrain Pell, taliadau a wneir o dan y Cynllun Niwed trwy Frechiad a rhai taliadau a wneir gan elusennau, ymddiriedolaethau ac ati hefyd yn cael eu diystyru o'r asesiad ariannol. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr. Cysylltwch â'r Tîm Asesu am fwy o gyngor.

Os ydych yn trosglwyddo cynilion, arian neu asedau eraill i rywun neu yn gwerthu eiddo am lai na'i werth cyn dod i gartref gofal, neu tra byddwch yn derbyn gofal, efallai y byddwn yn eich asesu fel petaech yn dal i fod â gwerth llawn yr ased. Efallai y bydd person sy'n manteisio yn dod yn atebol am unrhyw daliadau sydd heb eu talu.

Byddwn yn gofyn i chi am amseriad y trosglwyddiad, y rheswm am ei wneud, pwy yw'r derbynnydd a gwerth ariannol y trosglwyddiad a byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i seilio ein penderfyniad ynghylch a yw'r ased yn cael ei gynnwys neu ei ddiystyru o'r asesiad ariannol.

Mae'r awdurdod lleol wedi gosod cyfraddau ar gyfer gwahanol fathau o ofal. Os bydd defnyddiwr gwasanaeth yn dewis cartref gofal sy'n ddrutach na'r ddau gartref gofal a gynigir ar adeg y lleoliad, hynny yw, pan fo'r cartref gofal a ddewisir yn codi tâl wythnosol sy'n uwch na'r ffïoedd a godir gan y ddau gartref gofal a gynigir, fe fydd y defnyddiwr gwasanaeth ond yn talu'r gost ychwanegol os oes ganddo/ganddi ddigon o incwm wythnosol i dalu am gost y lleoliad, neu fod ei asedau'n fwy na'r trothwy cyfalaf uchaf presennol.

Os nad oes gan y defnyddiwr gwasanaeth ddigon o incwm i dalu am gost y lleoliad, neu fod cyfanswm ei asedau'n llai na'r trothwy cyfalaf, bydd yn rhaid i drydydd parti gytuno i dalu'r gost ychwanegol a bydd ef/hi yn gyfrifol am dalu'r tâl hwn, a fydd yn ychwanegol at y tâl a aseswyd. Gofynnir i'r trydydd parti, neu'r defnyddiwr gwasanaeth (yn ôl yr amgylchiadau) lofnodi cytundeb gyda'r awdurdod lleol i dalu'r gost ychwanegol.

Bydd y taliad cost ychwanegol ar ben y tâl lleoliad sy'n ddibynnol ar brawf modd.

Nid yw costiau ychwanegol yn cael eu talu yn uniongyrchol i'r cartref gofal gan y defnyddiwr gwasanaeth na chan drydydd parti. Mae'r holl gostau ychwanegol yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'r awdurdod sydd wedyn yn cynnwys y swm hwn yn eu contract gyda'r cartref gofal.

Dylech roi gwybod i ni os:

  • bydd cynnydd neu ostyngiad yn eich budd-daliadau
  • byddwch yn cael unrhyw fudd-daliadau newydd
  • byddwch yn cael budd o etifeddiaeth neu unrhyw drosglwyddiad arall,
  • yw eich cynilion / cyfalaf wedi mynd yn uwch neu'n is na'r trothwy cyfalaf uchaf (ar hyn o bryd £50,000.00 ar gyfer 2019/20).

Cysylltwch â'r Tîm Asesiadau Ariannol yn y ffyrdd canlynol:

  • Drwy ysgrifennu i: Tîm Asesiadau Arianno, Yr Adran Cymunedau, Cyngor Sir Caerfyrddin,3 Heol Spilman, Caerfyrddin, SA31 1LE
  • Drwy ffonio: 01267 228769 / 228684 / 228861
  • Drwy E-bost: SCHfinancialassess@sirgar.gov.uk

 

Trwy anfoneb - ar gyfer lleoliadau preswyl a nyrsio

Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch dalu am eich costau gofal a gallwch ddewis pa opsiwn sydd orau i chi. Byddem fel arfer yn eich anfonebu am eich llety unwaith bob chwarter, ond bydd anfonebau yn y dyfodol yn cael eu hanfon ar ffurf ôl-daliad bob pedair wythnos. Mewn rhai amgylchiadau, gallwch gael eich pensiwn gwladol a phensiwn galwedigaethol wedi'u hail-gyfeirio yn uniongyrchol i Gyngor Sir Caerfyrddin. Gallai hyn olygu na fydd rhaid i ni anfon unrhyw anfonebau o gwbl atoch neu leihau gwerth yr anfonebau y byddwn yn eu hanfon.

Mae sawl ffordd o dalu anfoneb.  Y dulliau gallwch dalu eich anfonebau yw:

Ffôn

Gallwch ein ffonio ar 01267 228686 / 228974 rhwng 9 - 5 dydd Llun i ddydd Gwener. Mae hefyd gennym system dalu awtomataidd 24/7 ar gael ar 01267 679900.

Ar-lein

Gallwch dalu'ch anfoneb ar-lein, bydd angen eich anfoneb wrth law i gwblhau'r broses hon.

Rydym yn derbyn y mathau canlynol o gardiau credyd/debyd - Visa, Mastercard, Switch, Solo, Visa Delta.

Derbyd Uniongyrchol

I sefydlu debyd uniongyrchol ffoniwch 01267 228730.

Os byddwch yn dewis talu drwy Ddebyd Uniongyrchol bydd gennych anfoneb o hyd a chaiff y taliad ei gasglu o'ch cyfrif banc tua 21 diwrnod ar ôl dyddiad yr anfoneb.

Yn bersonol neu drwy'r post

Gallwch anfon taliad drwy'r post neu ei dalu yn bersonol yn un o'n canolfannau gwasanaeth cwsmeriaid Yr Hwb.

Gwnewch sieciau yn daladwy i Gyngor Sir Caerfyrddin. Gallwch hefyd dalu yn bersonol yn y ciosg hunanwasanaeth yn Llyfrgell Llandeilo, Heol Cilgaint, Llandeilo, SA19 6HW. Nodwch dim ond arian parod neu gardiau derbyd/credyd a fydd yn cael ei dderbyn yn y ciosgau hunanwasanaeth.

Trosglwyddiad Banc/Taliadau BACS

I dalu o'ch cyfrif banc, bydd eisiau dyfynnu eich rhif anfoneb a'ch manylion i gyfrif y Cyngor:

Enw'r banc: Banc Barclays Plc,

Enw'r Cyfrif: Cyfrif Incwm Cyngor Sir Gaerfyrddin  

Cod didoli: 20-19-04

Rhif y cyfrif: 13762092

Os byddwch yn dewis talu drwy Ddebyd Uniongyrchol, byddwch yn dal i gael anfoneb a bydd y taliad yn cael ei gasglu o'ch cyfrif banc tua 21 diwrnod yn ddiweddarach.

Os yw'r anfonebau yn parhau heb eu talu, bydd yr Awdurdod Lleol yn mynd i'r afael a hyn drwy ei drefniadau adennill dyledion.

Mae'r awdurdod yn codi llog mewn amgylchiadau penodol. Pan fydd rhywun wedi marw bydd yr awdurdod yn codi llog ar y cyfan o'r ddyled sydd heb ei thalu ar ôl 91 diwrnod wedi i'r defnyddiwr gwasanaeth farw. Mae amgylchiadau eraill hefyd lle gall yr adran godi llog ar ddyledion, ee lle bo'r dyledwr yn fwriadol yn gwrthod talu am ofal er bod ganddynt fodd i wneud hynny. Mae pob achos yn cael ei ystyried ar sail unigol.

Os ydych yn credu bod yr Asesiad Ariannol neu'r anfoneb yn anghywir, dylech gysylltu â ni a byddwn yn adolygu ein cyfrifiad ac yn ystyried unrhyw wybodaeth a ddarperir.

Cysylltwch â'r Tîm Asesiadau Ariannol yn y ffyrdd canlynol:

  • Drwy ysgrifennu i: Tîm Asesiadau Arianno, Yr Adran Cymunedau, Cyngor Sir Caerfyrddin,3 Heol Spilman, Caerfyrddin, SA31 1LE
  • Drwy ffonio: 01267 228769/228684/228861
  • Drwy E-bost: SCHfinancialassess@sirgar.gov.uk

Os ydych yn dal yn anfodlon gyda'r canlyniad, yna gall y staff esbonio beth i'w wneud nesaf.

Gwneud cais am asesiad Dod o hyd i gartref gofal Talu am ofal