Taliadau am ofal yn y cartref

Diweddarwyd y dudalen ar: 15/03/2024

Codir tâl am Ofal Cartref, Taliadau Uniongyrchol a Thele-ofal, ond byddai'r swm yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol. Bydd rhai pobl yn talu'n llawn am wasanaethau a asesir; bydd rhai'n talu rhywfaint, ac ni fydd eraill yn talu dim. Bydd y gofal am ddim os:

  • ydych yn cael gwasanaethau ôl-ofal a ddarperir o dan Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
  • os ydych yn oedolyn sydd wedi cael diagnosis fod gennych CJD
  • os ydych yn cael gwasanaeth ailalluogi gan yr awdurdod hwn (am hyd at 6 wythnos, neu hyd nes y bydd yr anghenion gofal tymor hir yn cael eu nodi, os bydd hyn yn gynharach. Efallai y bydd yn rhaid ichi dalu ar ôl i'r anghenion gofal tymor hir gael eu nodi, gan ddibynnu ar ganlyniad eich asesiad ariannol)
  • neu os yw eich gwasanaethau'n cael eu cyllido drwy Ofal Iechyd Parhaus gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

Bydd y gost yn amrywio o berson i berson ac yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiad ariannol a'r tâl am y gofal a ddarperir.

Gwasanaeth Tâl a Godir Asesiad Ariannol
Prydau bwyd / byrbrydau mewn canolfannau gofal dydd £8.50 y dydd* Gwasanaeth un tâl
Prydau cymunedol £6.00 y pryd Gwasanaeth un tâl
Delta ar Brydles (Llinell Bywyd) – monitro yn unig £18.77 y chwarter Gwasanaeth un tâl
Delta ar Brydles(Llinell Gofal) – monitro ac yn cynnwys larwm gwddf £53.71 y chwarter Gwasanaeth un tâl
Delta ar Brydles (Llinell Gofal) – monitro ac yn cynnwys 2 larwm gwddf £67.68 y chwarter Gwasanaeth un tâl
Cyswllt Delta - Un person yn yr aelwyd yn defnyddio'r gwasanaeth £85.38 y chwarter Gwasanaeth un tâl
Cyswllt Delta - Dau person yn yr aelwyd yn defnyddio'r gwasanaeth £131.20 y chwarter Gwasanaeth un tâl
Golchi dillad £3.10 y llwyth Gwasanaeth un tâl
Gofal Cartref £20.00 yr awr Wedi'i gynnwys yn yr asesiad ariannol
Taliadau Uniongyrchol (yn y lle gwasanaeth y codir tâl amdano) £14.50 yr awr/£110.80 y noswaith Wedi'i gynnwys yn yr asesiad ariannol
Gofal tymor byr (mewn Cartref Gofal) Tâl Safonol/ Tâl Gyfradd
lleoliad yn y Sector
Annibynnol
Wedi'i gynnwys yn yr asesiad ariannol
Teleofal £4.20 yr wythnos Wedi'i gynnwys yn yr asesiad ariannol
Gofal Ychwanegol £20.00 yr awr Wedi'i gynnwys yn yr asesiad ariannol
Gofal Dydd £19.55 y sesiwn* Wedi'i gynnwys yn yr asesiad ariannol
Byw â chymorth £20.00 yr awr Wedi'i gynnwys yn yr asesiad ariannol
Lleoli Oedolion - Lleoliad Tymor Hir £19.55 y noson Wedi'i gynnwys yn yr asesiad ariannol
Lleoli Oedolion - Lleoliad Tymor Byr/Seibiannau Byr £19.55 y noson Wedi'i gynnwys yn yr asesiad ariannol
Gofal Amgen £20.00 yr awr Wedi'i gynnwys yn yr asesiad ariannol
Cymorth cymunedol £20.00 yr awr Wedi'i gynnwys yn yr asesiad ariannol

*Diffinnir un sesiwn gofal dydd fel a ganlyn:

  • Gwasanaeth a dderbynnir cyn 1pm ar unrhyw ddiwrnod, am unrhyw gyfnod o amser
  • Gwasanaeth a dderbynnir rhwng 1pm a 6pm ar unrhyw ddiwrnod, am unrhyw gyfnod o amser
  • Gwasanaeth a dderbynnir ar ôl 6pm ar unrhyw ddiwrnod, am unrhyw gyfnod o amser

*Telir y tâl am brydau/byrbrydau mewn Canolfan Ddydd gan bawb sy'n mynychu ac mae'n ychwanegol at y tâl am bresenoldeb yn y Ganolfan Ddydd (rhoddir 2 anfoneb ar wahân).

Nodwch fod yr wythnos codi tâl yn rhedeg o Ddydd Llun i Ddydd Sul, felly byddai un noson o Ofal Seibiant/Gofal Tymor Byr mewn cartref gofal yn ystod wythnos lle codir tâl yn cael ei godi ar sail y tâl a aseswyd ar eich cyfer. Dangosir y tâl hwnnw ar y Datganiad o’r Asesiad Ariannol (a roddir ichi) ac mae'n bosibl mai'r tâl uchaf presennol fydd hwn – hynny yw, gallech dalu £100 am un noson mewn cartref gofal.  Codir tâl wrth yr wythnos sy'n rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul.

Cyfrifiad o'r hyn y gallwch fforddio ei dalu tuag at eich gofal yw asesiad ariannol.

Os mai eich dewis yw peidio â rhoi manylion eich incwm ac asedau eraill i ni neu os ydych yn gwrthod darparu gwybodaeth efallai y bydd y Cyngor yn codi'r tâl llawn arnoch am y gofal a ddarperir, hyd at fwyafswm o £100 yr wythnos (am 2023/24).

Os byddwch yn dewis datgan eich sefyllfa ariannol, yna gofynnir i chi lenwi a llofnodi ffurflen asesiad ariannol a bydd angen i chi roi manylion eich incwm, cyfalaf a threuliau. Bydd angen i chi hefyd roi prawf o'r wybodaeth a nodir ar y ffurflen (e.e. datganiadau banc, llythyrau hysbysu budd-daliadau); bydd hyn yn ein helpu i gyfrif faint y gallwch chi fforddio ei dalu tuag at eich gofal.

Gallwn eich helpu i lenwi'r ffurflen os oes angen; byddai hyn fel arfer yn cynnwys ymweliad â'ch cartref neu unrhyw le cyfleus arall i lenwi'r ffurflen gyda chi a/neu eich cynrychiolydd.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad yr asesiad ariannol yn ysgrifenedig.

Os asesir bod angen ichi dalu rhywfaint at eich gofal byddwn yn codi'r tal o'r ddiwrnod cyntaf a ddechreuodd y gwasanaeth.

Byddwn yn adolygu eich asesiad ariannol yn flynyddol, ond os bydd eich amgylchiadau'n newid byddwn yn adolygu'r asesiad yn gynt.

Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth yn unol â'r caniatâd a roddwyd gennych chi ac yn unol â'n polisi diogelu data.

Fel rhan o'r asesiad ariannol byddwn yn ceisio sicrhau eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau y mae gennych hawl iddynt, a chyda eich caniatâd chi byddwn yn cysylltu â'r Adran neu â sefydliad priodol arall a fydd yn gallu eich helpu i hawlio'r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.

Incwm:

Gall gynnwys:

  • Budd-daliadau'r wladwriaeth
  • Pensiynau galwedigaethol / preifat (gan gynnwys pensiwn ar ôl priod sydd wedi marw)
  • Blwydd-daliadau
  • Incwm ymddiriedolaeth
  • Incwm o fondiau buddsoddi
  • Incwm rhent a'r rhan fwyaf o incwm arall

Nid yw'r rhestr hon yn holl gynhwysfawr. Byddwn ond yn cynnwys incwm y mae gennych hawl iddo.

Cyfalaf:

Gall gynnwys:

  • Eiddo
  • Tir
  • Cynilion yn y banc
  • Cymdeithas adeiladu neu unrhyw gyfrifon cynilo eraill (gan gynnwys cyfrifon cyfredol a chyfrifon cerdyn y Swyddfa Bost)
  • Arian parod
  • Bondiau premiwm
  • Stociau a chyfranddaliadau
  • ISAs
  • Rhan fwyaf o fathau eraill o gyfalaf.

Nid yw'r rhestr hon yn holl gynhwysfawr.

Os oes gennych gyfalaf ar y cyd â pherson arall, fel arfer ystyrir bod gennych chi a'r perchennog arall fuddiant cyfartal yn y cyfalaf.

Mae rhywfaint o gyfalaf yn cael ei ddiystyru; mae hyn yn cynnwys y £24,000 cyntaf (ar gyfer 2023/24) o'ch asedau ac mae'r swm hwn yn cael ei osod gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Nid yw hyn yn golygu y gallwch gadw incwm nes bod eich cyfalaf yn cyrraedd y trothwy hwn.

Treuliau:

Byddent yn cynnwys treuliau hanfodol megis rhent, morgais, neu daliadau Treth y Cyngor, a rhai mathau o ofal a brynir yn breifat os oes tystiolaeth ar gael ar gyfer y treuliau hyn.

Nid yw gwerth eich prif breswylfa yn cael ei gynnwys yn eich asesiad ariannol. Fodd bynnag bydd gwerth unrhyw tir rydych yn berchen arno, neu unrhyw eiddo ychwanegol ac ati yn cael ei gynnwys fel rhan o'ch cyfalaf.

Os ydych yn byw yn rhywle arall dros dro (e.e. gyda pherthynas hyd nes eich bod yn gwella yn dilyn salwch) ni fyddai gwerth eich prif breswylfa arferol yn cael ei gynnwys yn eich asesiad ariannol. Os ydych yn byw yn rhywle arall yn barhaol byddai gwerth eich cyn brif breswylfa yn cael ei gynnwys yn eich asesiad ariannol o'r dyddiad y bu ichi symud o'r eiddo gyntaf.

Beth os oes rhywun yn berchen ar fy eiddo ychwanegol/cyn brif breswylfa ar y cyd â mi?

Byddwn yn archwilio dogfennau i gadarnhau bod rhywun yn berchen ar yr eiddo ar y cyd â chi, a byddwn fel arfer ond yn cymryd i ystyriaeth gwerth eich cyfran chi o'r eiddo.

Beth os yw fy eiddo ychwanegol/cyn brif breswylfa wedi cael ei drosglwyddo i rywun arall?

Byddwn yn edrych ar y dogfennau sy’n cadarnhau hyn a byddwn yn gofyn i chi ddangos gwybodaeth sy'n ymwneud ag amodau'r trosglwyddiad. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i seilio ein penderfyniad ynghylch a ddylid cynnwys yr eiddo neu ei ddiystyru o'r asesiad ariannol.

A fydd yn rhaid i mi werthu fy eiddo ychwanegol/cyn brif breswylfa?

Chi fydd yn dewis gwerthu eich eiddo neu beidio. Bydd unrhyw elw a wneir drwy werthu eiddo yn cael ei gynnwys yn yr asesiad ariannol, hyd yn oed elw yn sgil gwerthu eich prif breswylfa.

Fel rhan o'ch asesiad ariannol mae eich holl incwm yn cael ei ystyried a lle y bo'n briodol bydd rhai mathau o incwm yn cael eu diystyru o'r asesiad ariannol.

Mae Llywodraeth Cymru yn pennu swm o incwm wythnosol y mae'n rhaid ei ddiystyru/eithrio o'r cyfrifiad. Ar hyn o bryd mae hyn yn gyfwerth â Chymhorthdal Incwm/Credyd Gwarantedig sylfaenol, ynghyd â 35% a 10% ychwanegol ar gyfer gwariant sy'n gysylltiedig ag anabledd. Mae'r swm hwn yn amrywio yn ôl oedran ac amgylchiadau ac ar gyfer 2023/24 y swm fyddai:

  • Pensiynwr (65 oed a hŷn) = £291.53 yr wythnos
  • Oedolyn Anabl  (25-64) = £209.09 yr wythnos
  • Oedolyn Anabl (18-24) = £183.57 yr wythnos
  • Oedolyn Anabl (25-64) sy'n derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth = £216.13 yr wythnos
  • Oedolyn Anabl (18-24) sy'n derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth = £190.61 yr wythnos
  • Oedolyn (25-64), sy'n derbyn Credyd Cynhwysol (Lwfans Safonol yn unig) = £123.39 yr wythnos
  • Oedolyn (18-24), sy'n derbyn Credyd Cynhwysol (Lwfans Safonol yn unig) = £97.75 yr wythnos
  • Oedolyn Anabl (25-64), sy'n derbyn Credyd Cynhwysol (Lwfans Safonol a Lwfans Gallu Cyfyngedig i Weithio) = £172.35 yr wythnos
  • Oedolyn Anabl (18-24), sy'n derbyn Credyd Cynhwysol (Lwfans Safonol a Lwfans Gallu Cyfyngedig i Weithio) = £146.71 yr wythnos
  • Oedolyn Anabl (25-64), sy'n derbyn Credyd Cynhwysol (Lwfans Safonol , Lwfans Gallu Cyfyngedig i Weithio a Lwfans Gweithgaredd sy’n Gysylltiedig â Gwaith) = £253.91 yr wythnos
  • Oedolyn Anabl (18-24), sy'n derbyn Credyd Cynhwysol (Lwfans Safonol , Lwfans Gallu Cyfyngedig i Weithio a Lwfans Gweithgaredd sy’n Gysylltiedig â Gwaith) = £228.27 yr wythnos

O fewn yr asesiad ariannol, mae mathau eraill o fudd-dal ac incwm sy'n cael eu diystyru o'r asesiad ariannol. Dyma rai enghreifftiau:

  • holl elfennau symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl a'r Taliad Annibyniaeth Bersonol;
  • y £25 cyntaf pensiynau rhyfel Gwraig Weddw/Gŵr Gweddw
  • yr holl Bensiwn Atodol Gweddwon Rhyfel;
  • y cyfan o’r Pensiwn Anabledd Rhyfel
  • yr holl enillion;
  • yr holl Daliad Annibyniaeth Lluoedd Arfog;
  • yr holl Daliadau Incwm Gwarantedig a wneir o dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
  • hyd at £ 5.75 o gredyd cynilion (rhan o credyd pensiwn ). Mae hyn yn y swm hyn ar gyfer 2023/24 ac wedi cael ei osod gan Lywodraeth Cymru
  • 25% o elfen gofal dydd Lwfans Gweini a Chydran Gofal y Lwfans Byw i'r Anabl, Taliad Annibyniaeth Bersonol ar gyfer bywyd beunyddiol, a holl elfennau gofal nos budd-daliadau o'r fath.

Nid yw'r rhestr hon yn holl gynhwysfawr.

Fel rhan o'ch asesiad ariannol mae eich holl gyfalaf yn cael ei ystyried a lle y bo'n briodol bydd rhai mathau penodol o gyfalaf yn cael eu diystyru o'r asesiad ariannol.

Bob blwyddyn mae Llywodraeth Cymru yn pennu swm y mae'n rhaid ei ddiystyru wrth gyfrif eich incwm. Y swm ar gyfer 2023/24 yw £24,000. Mae gwerth cyfalaf uwch na'r ffigur hwn yn cael ei gynnwys yn yr asesiad ariannol. Os yw eich cyfalaf yn is na'r ffigur hwn, nid yw hynny'n golygu eich bod yn gallu cadw incwm nes bod eich cyfalaf yn cyrraedd y trothwy hwn.

Yn ogystal, mae cyfalaf a dderbynnir ar ffurf taliadau ex-gratia i gyn-garcharorion rhyfel yn y Dwyrain Pell, taliadau a wneir o dan y Cynllun Niwed trwy Frechiad a rhai taliadau a wneir gan elusennau, ymddiriedolaethau ac ati hefyd yn cael eu heithrio o'r asesiad ariannol. Nid yw'r rhestr hon yn holl gynhwysfawr. Cysylltwch â'r Tîm Asesu i gael rhagor o gyngor.

Os ydych yn trosglwyddo cynilion, arian neu asedau eraill i rywun neu yn gwerthu eiddo am lai na'i werth ar y farchnad cyn dod i gartref gofal, neu tra byddwch yn derbyn gofal, efallai y byddwn yn eich asesu fel petaech yn dal i fod â gwerth llawn yr ased. Efallai y bydd person sy'n manteisio yn dod yn atebol am unrhyw daliadau sydd heb eu talu.

Byddwn yn gofyn i chi am amseriad y trosglwyddiad, y rheswm am ei wneud, pwy yw'r derbynnydd a gwerth ariannol y trosglwyddiad a byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i seilio ein penderfyniad ynghylch a yw'r ased yn cael ei gynnwys neu ei ddiystyru o'r asesiad ariannol.

Gall y Cyngor ganiatáu treuliau ychwanegol ar gyfer costau gofal personol a brynir gan ddarparwr gofal cofrestredig, neu gost larwm personol i'w ddefnyddio mewn argyfwng (e.e Dewis Sir Gâr) lle rhoddir tystiolaeth i brofi'r gwariant hwn. Mae'n bosibl y caiff mathau eraill o dreuliau eu hystyried ond byddai hynny'n dibynnu ar amgylchiadau.

Dylech roi gwybod inni os bydd eich budd-daliadau'n cynyddu neu'n gostwng, os byddwch yn cael unrhyw fudd-daliadau newydd, os byddwch ar eich ennill yn ariannol yn sgil etifeddu neu unrhyw drosglwyddiad arall, neu os yw eich cynilion/cyfalaf wedi codi'n uwch neu'n is na'r trothwy cyfalaf uchaf (sef £24,000 ar gyfer 2023/24) neu os bydd treuliau newydd neu ychwanegol gennych yn sgil newid yn eich anghenion gofal.

Taliadau Uniongyrchol - ar gyfer cyfrifon Taliadau Uniongyrchol Heb eu Rheoli yn unig

Bydd eich tâl wythnosol a asesir yn cael ei dynnu o'r taliad y mae'r Cyngor yn ei wneud ichi.  Disgwylir ichi dalu eich cyfraniad i'ch cyfrif Taliadau Uniongyrchol er mwyn sicrhau bod gennych ddigon o arian i dalu eich Cynorthwyydd Personol a thalu am wasanaethau.

Trwy Anfoneb – ar gyfer gwasanaethau dibreswyl  (ar wahan i cyfrifon Taliadau Uniongyrchol Heb eu Rheoli)

Byddai'r anfoneb yn cael ei seilio ar eich tâl wythnosol a asesir.  Mae'r cyngor yn anfonebu am wasanaethau dibreswyl bob pedair wythnos ac yn ôl-weithredol. Fodd bynnag os taw dim ond gwasanaeth tele-ofal sydd gennych, byddwch yn cael eich anfonebu'n chwarterol ac yn ôl-weithredol.  Dylid talu'r anfoneb cyn pen 21 diwrnod. Os bydd gennych unrhyw anfonebau sy'n ddyledus, bydd y Cyngor hefyd yn anfon datganiad o'r anfonebau sy'n ddyledus oddeutu wythnos ar ôl dyddiad y taliad.

Mae sawl ffordd o dalu anfoneb. Y dulliau gallwch dalu eich anfonebau yw:

Ffôn

Gallwch ein ffonio ar 01267 228686/228974 rhwng 9 - 5 dydd Llun i ddydd Gwener. Mae gennym hefyd system dalu awtomataidd 24/7 ar gael ar 01267 679900.

Ar-lein

Gallwch dalu'ch anfoneb ar-lein, bydd angen eich anfoneb wrth law i gwblhau'r broses hon.

Rydym yn derbyn y mathau canlynol o gardiau credyd/debyd - Visa, Mastercard, Switch, Solo, Visa Delta.

Debyd Uniongyrchol

I sefydlu debyd uniongyrchol ffoniwch 01267 228730.

Os byddwch yn dewis talu drwy Ddebyd Uniongyrchol bydd gennych anfoneb o hyd a chaiff y taliad ei gasglu o'ch cyfrif banc tua 21 diwrnod ar ôl dyddiad yr anfoneb.

Yn bersonol neu drwy'r post

Gallwch anfon taliad drwy'r post neu ei dalu yn bersonol yn un o'n canolfannau gwasanaeth cwsmeriaid Yr Hwb.

Gwnewch sieciau yn daladwy i Gyngor Sir Caerfyrddin. Gallwch hefyd dalu yn bersonol yn y ciosg hunanwasanaeth yn Llyfrgell Llandeilo, Heol Cilgaint, Llandeilo, SA19 6HW. Nodwch mai dim ond arian parod neu gardiau debyd/credyd a fydd yn cael ei dderbyn yn y ciosgau hunanwasanaeth. .

Trosglwyddiad Banc/Taliadau BACS

I dalu o'ch cyfrif banc, bydd eisiau dyfynnu eich rhif anfoneb a'ch manylion i gyfrif y Cyngor:

Banc Barclays Plc,

Enw'r Cyfrif: Cyfrif Incwm Cyngor Sir Gaerfyrddin  

Sort code: 20-19-04

Rhif y Cyfri: 13762092

Os byddwch yn dewis talu drwy Ddebyd Uniongyrchol, byddwch yn dal i gael anfoneb a bydd y taliad yn cael ei gasglu o'ch cyfrif banc tua 21 diwrnod yn ddiweddarach.

Os yw'r anfonebau yn dal heb eu talu, bydd yr Awdurdod Lleol yn mynd i'r afael â hyn drwy ei drefniadau adennill dyledion.

Mae'r awdurdod yn codi llog mewn amgylchiadau penodol. 

Pan fydd rhywun yn marw, bydd yr awdurdod yn codi llog ar y ddyled sy'n weddill 91 diwrnod ar ôl i'r defnyddiwr gwasanaeth farw. Ceir amgylchiadau eraill hefyd lle mae'r adran yn gallu codi llog ar ddyledion e.e. pan fo'r dyledwr yn gwrthod talu am ofal yn fwriadol er bod ganddo'r modd ariannol. Mae pob achos yn cael ei ystyried ar sail unigol.

Os ydych yn credu bod yr Asesiad Ariannol neu'r anfoneb yn anghywir, dylech gysylltu â ni a byddwn yn adolygu ein cyfrifiad ac yn ystyried unrhyw wybodaeth a ddarperir.

Os ydych yn dal yn anhapus â'r canlyniad bydd y staff yn gallu esbonio pa gamau y dylech eu cymryd nesaf.

Llwythwch mwy

Talu am Ofal