Cysylltu Bywydau Gorllewin Cymru (Lleoliad i Oedolion)

Diweddarwyd y dudalen ar: 06/09/2023

Mae cynllun Cysylltu Bywydau Gorllewin Cymru yn rhoi cymorth i bobl ag angen a aseswyd, sydd am gael help i fyw yn eu cymuned. Darperir tai a chymorth yng nghartrefi gofalwyr proffesiynol Cysylltu Bywydau, sy'n aml yn datblygu'n rhwydweithiau ehangach o gymorth.

Rydym yn dwyn ynghyd bobl sydd angen cymorth gyda Gofalwyr Proffesiynol Cysylltu Bywydau wedi'u harchwilio a'u cymeradwyo.

Mae gennym ystod eang o ofalwyr Cysylltu Bywydau, a byddwn yn eich paru drwy ystyried phethau fel y canlynol:

  • diddordebau cyffredin
  • dewisiadau ffordd o fyw
  • personoliaeth

Mae hyn yn rhoi dewis gwirioneddol i chi o ran sut, ble a gyda phwy rydych chi'n derbyn cymorth.

Mae Cysylltu Bywydau Gorllewin Cymru yn ddewis amgen i ofal preswyl ac mae'n darparu ar gyfer pobl sy'n chwilio am lety parhaol neu dymor byr, seibiannau byr neu gymorth sesiynol.

Trefniadau Tymor Hir

Rydym yn cynnig cartref i bobl gyda gofalwyr cymeradwy a'r cymorth a'r gofal i ddarparu sylfaen gadarn i ddatblygu annibyniaeth. Mae trefniadau Cysylltu Bywydau fel arfer yn para am nifer o flynyddoedd ac yn caniatáu i bobl fwynhau'r cyfleoedd a'r profiadau sy'n rhan o fywyd teuluol a bywyd yn y cartref. 

Trefniadau Tymor Byr

Mae'r trefniadau hyn yn cynnig cymorth â ffocws dros gyfnodau byrrach rhwng 1-6 mis ac maent yn ddelfrydol ar gyfer helpu:

  • meithrin hyder a sgiliau pobl i fyw'n annibynnol. 
  • asesu cryfderau ac anghenion pobl 
  • caniatáu amser i bobl wella ar ôl newidiadau yn eu hiechyd.

Seibiannau byr

Gallwn ddarparu seibiannau wedi'u cynllunio i oedolion sydd mewn perygl, eu teuluoedd, a'u gofalwyr. Gallwn drefnu seibiannau byr yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion ac mae rhai o'n gofalwyr cymeradwy yn hapus i ddarparu math o wyliau, a bydd eraill yn darparu cymorth fel y gall pobl barhau â'u harferion arferol. 

Trefniadau Brys  

Gallwn ddarparu cymorth mewn argyfwng. Weithiau, os bydd salwch neu argyfwng teuluol efallai'n codi, mae'n bosibl y bydd angen llety, cymorth a gofal ar berson ar fyr rybudd. 

Cymorth Sesiynol

Gallwn ddarparu cymorth a gofal bob awr. Mae'r gefnogaeth yn dechrau ac yn gorffen o'r cartref gofalwyr cymeradwy a gall fod yn ystod y dydd neu gyda'r nos, yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau. 

 

Mae'r gwasanaeth ar gael yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.

Rydym yn dewis ac yn hyfforddi gofalwyr trwy broses asesu a chymeradwyo drylwyr. Mae hyn oherwydd bod swydd gofalwr yn swydd werth chweil ac yn swydd gyfrifol. Mae gofalwyr yn gweithio'n annibynnol heb oruchwyliaeth uniongyrchol ac mae angen iddynt fod yn ddyfeisgar, yn wydn ac yn gyfrifol. Er mwyn sicrhau bod gofalwyr yn gallu bodloni ein gofynion, mae'n rhaid i ni gynnal ymweliad, cyfweliad, asesiad a darparu hyfforddiant i bob person, gan adolygu eu gwaith gyda'n panel annibynnol.

I dderbyn cymorth gennym ni, bydd angen asesiad anghenion arnoch. Dyma lle mae gweithiwr cymdeithasol neu weithiwr iechyd proffesiynol yn edrych ar ba gymorth sydd ei angen arnoch - megis gofal iechyd, offer, cymorth yn eich cartref neu fathau eraill o lety gyda chymorth neu seibiannau byr o bosibl er mwyn i chi neu eich gofalwr gael gorffwys. Os ydych yn gymwys, bydd eich asesiad yn nodi pa fath o gymorth sydd ei angen arnoch ac yn helpu i drefnu cyllid.  Os credwch fod angen gwasanaeth arnoch ac nad ydych wedi cael eich asesu, gallwch ofyn am asesiad.   Gofyn am asesiad

Ar ôl i chi ofyn am asesiad, bydd gweithiwr yn cael ei neilltuo i chi i asesu eich anghenion.   Wedyn gall eich Gweithiwr Cymdeithasol neu eich Cydgysylltydd Gofal gysylltu â ni a byddwn yn anfon ffurflen atgyfeirio.

neu

Os ydych eisoes wedi derbyn asesiad anghenion gallwch ofyn am ffurflen atgyfeirio Cysylltu Bywydau drwy ffonio 01267 246890 neu anfon neges e-bost at sharedlivesduty@sirgar.gov.uk

Wedyn byddwn yn defnyddio'r atgyfeiriad a'r asesiad i helpu i ddod o hyd i ofalwr addas ymhlith ein gofalwyr Cysylltu Bywydau a thrafod yr opsiynau sydd ar gael gyda chi.

Byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi am y gofalwr ac os ydych yn hapus, byddwn yn trefnu ymweliad lle gallwch gwrdd ag ef a gweld ble y gallech fod yn aros. Rydym yn galw hyn yn 'gyflwyniad’. Efallai y bydd gennych fwy nag un cyflwyniad a chyda mwy nag un gofalwr.

Os ydych chi a'r Gofalwr Cysylltu Bywydau yn cytuno i fwrw ymlaen â'r trefniant, bydd dyddiad dechrau yn cael ei nodi, a bydd eich Gweithiwr Cymorth Cysylltu Bywydau yn llunio cytundeb gyda chi a'r Gofalwr Cysylltu Bywydau yn nodi sut yr hoffech gael eich cefnogi a/neu dderbyn gofal.

Bydd eich Gweithiwr Cymorth Cysylltu Bywydau yn cydlynu adolygiad cychwynnol o'r gwasanaeth yr ydych yn ei gael i weld sut y mae pethau'n mynd. Ar unrhyw adeg yn y broses, gallwch chi a'ch Gofalwr Cysylltu Bywydau ofyn am adolygiad o'ch gwasanaeth, codi unrhyw broblemau, gwrthod gwasanaeth neu ofyn am ofalwr newydd.

Mae Cynllun Cysylltu Bywydau Gorllewin Cymru yn cynnig gwasanaeth yn 3 ardal awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro.