Cewch chi benderfynu sut y bydd eich anghenion yn cael eu hateb, gan bwy ac ar amser sy'n gyfleus i chi. Ni ellir gwario Taliadau Uniongyrchol ond ar wasanaethau i gwrdd â'r anghenion a ddisgrifir yn eich asesiad ac y manylir arnynt yn eich cynllun gofal. Cewch ddefnyddio eich Taliadau Uniongyrchol i brynu gwasanaethau gofal cymunedol megis:
- Cymorth gyda gofal personol fel ymolchi, gwisgo a bwyta prydau bwyd
- Cymorth a chefnogaeth ymarferol gyda gweithgareddau
- Gofal seibiant
Ni chewch ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol ar gyfer gwasanaethau iechyd neu dai. Efallai y gofynnir i chi eich hun dalu rhan o'r gost tuag at eich gofal. Mae hyn yn dibynnu ar y math o ofal neu wasanaeth yr aseswyd bod arnoch ei angen, a gall hefyd ddibynnu ar faint o incwm a chynilion sydd gennych. Os bydd rhaid i chi dalu rhywbeth, bydd y swm hwn yr un fath p'un a fydd y gwasanaethau'n cael eu trefnu ar eich cyfer gan Ofal Cymdeithasol neu os byddwch yn dewis Taliadau Uniongyrchol. Mae gennych hawl i asesiad ariannol, a bydd ei ganlyniadau yn pennu faint y gofynnir i chi ei gyfrannu.
Mwy ynghylch
Gofal Cymdeithasol ac Iechyd