Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
Diweddarwyd y dudalen ar: 06/09/2023
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn gyfraith newydd a fydd yn rhoi llawer mwy o lais i chi o ran y gofal a'r cymorth a gewch.
I'ch cefnogi i wella eich llesiant, byddwch yn gwneud penderfyniadau am eich gofal mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol. I'ch helpu i wneud hynny, bydd gennych fynediad rhwydd at wybodaeth a chyngor am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal chi.
Bydd gan ofalwyr yr un hawliau â'r rhai y maent yn gofalu amdanynt o ran cael asesiadau am gymorth, a bydd gan fwy o bobl yr hawl i gael Taliadau Uniongyrchol.
Bydd proses asesu gofal a chymorth newydd yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i chi fel unigolyn. Bydd yn ystyried eich cryfderau personol a'r cymorth sydd ar gael i chi gan eich teulu, eich ffrindiau ac eraill yn y gymuned.
- Bydd yr asesiad yn fwy syml a bydd modd i unigolyn ei gynnal ar ran amrywiaeth o sefydliadau.
- Bydd mwy o wasanaethau er mwyn rhwystro problemau rhag gwaethygu, er mwyn i'r cymorth cywir fod ar gael pan mae ei angen arnoch chi.
- Bydd pwerau cryfach i gadw pobl yn ddiogel rhag cam-drin neu esgeulustod hefyd yn cael eu cyflwyno.
Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn dod i rym ym mis Ebrill 2016. Byddwch yn dilyn y broses newydd yn eich asesiad nesaf.
Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
A ydych chi'n poeni am oedolyn/blentyn?
Taliadau am ofal yn y cartref
Sut i gysylltu â ni
Cyfleoedd dydd
Dementia
Taliadau Uniongyrchol
Anabledd ac Awtistiaeth
Camddefnyddio cyffuriau / alcohol
Taflenni gwybodaeth
Mynd yma ac acw
Sut i gael help
Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol
Iechyd Meddwl
Mwy ynghylch Gofal Cymdeithasol ac Iechyd