Mynd yma ac acw

Diweddarwyd y dudalen ar: 06/09/2023

Mae amryw o wasanaethau i’ch helpu chi deithio o gwmpas yn Sir Gâr. Os cewch drafferth teithio o gwmpas, mae nifer o ddewisiadau a gwasanaethau teithio a all wneud bywyd yn haws i chi. Mae gwybodaeth ar gael am y Bathodynnau Glas a gwasanaethau trafnidiaeth eraill a allai fod o ddefnydd i chi. Nid yw’n pethau’n hawdd pan rydych chi gartref trwy’r dydd. Gall mynd allan, cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a chymdeithasu gyda ffrindiau wneud gwahaniaeth mawr.

Mae sawl ffordd o gadw’n brysur – dysgu sgil newydd efallai, cymryd diddordeb mewn garddio, neu wirfoddoli. Mae gwirfoddoli yn gallu fod yn werth chweil i chi, ac yn gyfle i chi roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. Gall fod yn dipyn o her i chi gadw’n ffit ac yn iach, yn enwedig os oes gennych gyflwr hirdymor, ond bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’ch lles ac mae yna gyfleusterau a rhaglenni ledled y Sir er mwyn i chi ddechrau.