Cwrdd â'n Crefftwyr
Mae ein Crefftwyr yn bobl wirioneddol dalentog, sy'n gallu gwneud unrhyw beth y maent yn troi eu meddyliau ato!
Mae pawb yn mwynhau'r hyn maen nhw'n ei wneud ac mae hynny'n amlwg yn y cynhyrchion maent yn eu gwneud.
Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau'r cynhyrchion cymaint ag yr ydym yn mwynhau eu gwneud, mae llawer o gariad a meddwl yn mynd i mewn i bob cynnyrch a gall y broses o wneud dim ond un eitem gymryd wythnosau lawer o waith caled, penderfyniad, a sgiliau.
Fy enw i yw Debbie. Rwy'n ddoniol iawn ac mae gen i synnwyr digrifwch gwych, rwy'n gyfeillgar iawn ac yn mwynhau gweithio gyda'r crochenwaith. Rwy'n gallu gwneud pob eitem o'r dechrau ac rwy’ bob amser yn helpu pobl newydd sy'n dechrau yn y tîm fel eu bod yn hapus ac yn cael diwrnod gwych.
Fy enw i yw Carl. Rwy'n gyfeillgar iawn ac mae gen i lawer o ffrindiau, rwy'n barod i helpu, bob amser yn gwneud fy ngorau ac yn mwynhau cael hwyl. Rwy’ wir yn mwynhau peintio’r Ladis Cymreig a'r Gwragedd Cocos.
Fy enw i yw Kim. Rwy'n ffrind sydd bob amser yn hapus i helpu eraill a bod yn rhan o'r tîm. Rwy’n dwlu ar beintio'r crochenwaith ac rwyf bob amser yn hapus ac yn chwaraewr tîm da. Rwyf wrth fy modd pan mae'r crochenwaith yn dod mas o'r odyn gan ei fod yn edrych mor dda.
Fy enw i yw Huw ac rwyf wastad yn hapus, rwy'n ddoniol iawn, mae'r jôcs gorau gyda fi, rwy'n ffrind da i bawb. Rwyf wrth fy modd yn gwneud y crochenwaith ac yn tywys pobl o gwmpas ein safle yn Cross Hands felly mae croeso i chi alw heibio a dweud helo.