Dementia

Diweddarwyd y dudalen ar: 06/09/2023

Problem ar yr ymennydd yw dementia sy'n ei gwneud yn anodd i berson gofio, dysgu a chyfathrebu. Mae symptomau dementia yn cynnwys: colli cof, bod yn ddryslyd, newid yn yr hwyl ac anhawster cyflawni gorchwylion pob dydd. Mae llawer o bethau'n achosi dementia; clefyd Alzheimer yw'r un mwyaf cyffredin.

Mae'r symptomau hyn yn gwaethygu dros gyfnod, er bod gwahaniaethau o ran pa mor gyflym y datblyga'r cyflwr ym mhawb, yn yr un modd ag y mae gwahaniaethau yn eu symptomau. Mae colli cof yn symptom cyffredin o ddementia ond nid yw colli’ch cof ohono'i hun yn golygu bod dementia arnoch.

Os ydych chi'n poeni am rywun rydych chi'n ei adnabod, bydd angen ichi wneud apwyntiad iddo/iddi weld y meddyg, a fydd o bosibl yn cyfeirio'r un dan sylw at glinig cof.

Mae pobl sydd â dementia, a'u teuluoedd, yn gyndyn weithiau o ofyn am gyngor pan fydd ganddynt bryderon am broblemau'n ymwneud â'r cof neu broblemau eraill. Ond os ydych yn pryderu, mae llawer o fanteision posibl o gael cyngor meddygol. Mae cael diagnosis cynnar yn bwysig am sawl rheswm. Mae o gymorth ichi gael y triniaethau iawn ac i ddod o hyd i'r ffynonellau gorau o gymorth, yn ogystal â chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Efallai y bydd ar y sawl sy'n colli'i gof neu sy'n dioddef o ddementia angen gofal a chymorth er mwyn parhau i fyw gartref. Gall y meddyg gyfeirio ef/hi at y gwasanaeth Gofal Cymdeithasol neu gallwch gwneud cais am asesiad.

Ar ôl i chi gael eich hasesu, byddwn yn gallu nodi'r math o gefnogaeth sydd ei angen arnoch, gall hyn gynnwys:

  • Larymau a Monitorau Personol
  • Help o ran y gorchwylion pob dydd megis ymolchi, gwisgo a phrydau.
  • Cyfleoedd Dydd – Yn yr un modd â phobl eraill, gall fod yn fuddiol i bobl sydd â dementia gael newid o'u trefn ddyddiol arferol. Mae cyfleoedd i bobl sydd â dementia gymdeithasu a chael eu hysgogi.
  • Gofal Preswyl a Gofal Nyrsio – Weithiau nid yw'n bosibl mwyach i rywun sydd â dementia gael gofal diogel gartref. Mae rhai cartrefi'n darparu gofal arbenigol i bobl sydd â Dementia.
  • Seibiannau byr- Os ydych yn gofalu am rywun sydd â dementia, rydych yn ofalwr. Mae'n bwysig fod gofalwyr yn gofalu am eu hiechyd a’u lles eu hunain ac efallai y bydd arnynt angen seibiant o'u cyfrifoldebau gofalu. Gallai hyn fod am ychydig oriau neu ychydig wythnosau.

Gall amrywiaeth o gyflyrau niwrolegol sy'n gysylltiedig â dementia arwain at golli'r cof yn raddol, anawsterau o ran iaith, canolbwyntio a dealltwriaeth. Fodd bynnag mae tystiolaeth glir bellach y gall pobl sydd â dementia barhau, gyda'r math iawn o gymorth, i fwynhau bywyd, a byw â phwrpas.

Weithiau gall pobl sydd â dementia ymddwyn mewn modd anarferol neu annisgwyl. Yn aml, wrth wraidd hyn bydd rheswm y gellir ymchwilio iddo, ei glustnodi ac yna ymdrin ag ef. Gall hyn helpu pobl sydd â dementia i ymlacio mwy a phryderu llai.

Gwneud cais am asesiad