Technoleg Gynorthwyol / Larymau Llinell Gymorth

Diweddarwyd y dudalen ar: 01/05/2024

Mae Llesiant Delta yn darparu ystod o fonitorau a larymau personol sy'n gallu eich helpu i barhau i fyw gartref yn ddiogel ac yn annibynnol.

Gall ei wasanaeth llinell gymorth roi'r cymorth a'r gefnogaeth iawn pryd bynnag y bydd eu hangen arnoch, a hynny'n hawdd ac yn gyflym trwy wasgu botwm, gan roi tawelwch meddwl i chi a'ch anwyliaid 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Mae'r larwm llinell gymorth yn hawdd ei ddefnyddio a gellir ei wisgo o amgylch y gwddf neu o amgylch yr arddwrn. Os ydych yn teimlo'n sâl, yn cael codwm neu fod angen unrhyw gymorth brys arall arnoch, gwasgwch y botwm coch i seinio'r larwm a chysylltu â'n canolfan fonitro bwrpasol.

Mae hyn yn rhybuddio aelod o'n tîm sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol, a fydd yn eich helpu drwy asesu'r sefyllfa a chymryd camau priodol, megis cysylltu â pherthynas, neu'r gwasanaethau brys.  Yn ogystal, mae gwasanaeth CONNECT Llesiant Delta yn darparu gwasanaeth llinell gymorth a gwasanaeth cymorth cofleidiol llawn ar eich cyfer chi neu'ch anwyliaid ac mae'n cynnwys:

  • Asesiad llesiant i nodi pa lefel o gymorth y mae ei hangen arnoch
  • Pecynnau hyblyg Gofal trwy Gymorth Technoleg wedi'u teilwra i'ch anghenion unigol, er enghraifft, synwyryddion cwympo, dyfeisiau olrhain GPS, synwyryddion drws a theclynnau dosbarthu meddyginiaeth
  • Galwadau llesiant rhagweithiol i gefnogi anghenion lles a llesiant
  • Gwasanaeth ymateb cymunedol 24/7 i helpu gydag argyfyngau anfeddygol fel codymau nad ydynt wedi achosi anaf ac anghenion llesiant
  • Cymorth a gweithgareddau llesiant i helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd

Gall Llesiant Delta helpu i drawsnewid y ffordd rydych yn rheoli eich iechyd a'ch llesiant eich hun gan eich galluogi i fyw eich bywyd mewn ffordd sy'n iawn i chi. Gall roi cymorth ichi os oes gennych unrhyw broblemau iechyd, os ydych yn ofalwr sydd angen help i ofalu am rywun, neu gall gynnig sicrwydd a thawelwch meddwl.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys rhestr o gynlluniau talu, ewch i Lesiant Delta neu cysylltwch â'r tîm cyfeillgar o ymgynghorwyr drwy ffonio 0300 333 2222.

Gofal Cymdeithasol ac Iechyd