Dylunio cynaliadwy - BREEAM

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/09/2023

BREEAM (Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu) yw prif ddull asesu amgylcheddol y byd ar gyfer adeiladau, a'r un a ddefnyddir fwyaf. Mae'r dull yn pennu'r safon ar gyfer yr arferion gorau o ran dylunio cynaliadwy. Rhoddir credydau mewn deg categori yn ôl perfformiad. Wedyn mae'r credydau hyn yn cael eu hychwanegu at ei gilydd i gael sgôr gyffredinol a'r raddfa yw Pas, Da, Da iawn, Gwych, a Rhagorol.

Graddau BREEAM Y Sgôr %
Diddosbarth < 30%
Pas > 30%
Da > 45%
Da iawn > 55%
Gwych > 70%
Rhagorol > 85%

Er mwyn symud tuag at gael adeiladau di-garbon sy'n fwy cynaliadwy, mae bellach yn ofynnol yn ôl Polisi Cynllunio Llywodraeth Cynulliad Cymru i brosiectau sydd ag arwynebedd llawr o fwy na 1000 metr sgwâr gyrraedd gradd 'Da iawn' BREEAM. Hefyd mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r prosiectau y mae'n rhoi cyllid craidd iddynt gyrraedd gradd 'Gwych'.

Disgrifiad o'r Prosiect:
Diben y prosiect yw helaethu ac addasu'r ysgol bresennol. Cafodd adeilad 17 ei godi er mwyn creu adeilad AAA modern a fydd yn darparu ar gyfer anawsterau dysgu ar bob lefel.


Gradd a sgôr BREEAM:
Mae'n ofynnol fod Adeilad 17 yn cyrraedd safon 'Rhagorol' BREEAM. 77.67% oedd y sgôr a gyflawnwyd yn yr asesiad interim.


Y canlynol yw nodweddion dylunio arloesol yr adeilad isel ei effaith hwn:

Nodweddion Ystadegau / Ffigurau / Mesuriadau
Cost adeiladu sylfaenol £766,373.18
Costau gwasanaethau £254,590.00
Gwaith allanol £58,271.00
Arwynebedd llawr gros 1,717.4m2
Cyfanswm arwynebedd y safle 11.43 hectar
Mathau o ystafelloedd a'u maint Amherthnasol
Arwynebedd y mannau cylchdroi 269m2
Arwynebedd y mannau storio 320.5m2
% o arwynebedd y tir a ddefnyddir gan y gymuned Amherthnasol
% o arwynebedd yr adeiladau a ddefnyddir gan y gymuned Amherthnasol
Y rhagolygon o ran defnyddio trydan:  Goleuadau: 8.67 kWh/m2       Offer: 20.96kWh/m2
Y rhagolygon o ran llosgi tanwydd ffosil 30.87 kWh/m2
Y rhagolygon o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy 2.84 kWh/m2
Y rhagolygon o ran defnyddio dŵr 2.96 m3/y person/y flwyddyn
% y dŵr a ddefnyddir y rhagwelir y bydd yn ddŵr glaw neu'n ddŵr llwyd 40%

Y camau a gymerwyd yn ystod y broses adeiladu i leihau'r effaith ar yr amgylchedd
Manylwyd ar dechnegau rheoli adeiladu arloesol yng Nghynllun Rheolaeth Amgylcheddol y Prosiect a'r canlynol yw'r prif nodau ac amcanion:

  • Gwaredu llygryddion
  • Lleihau'r effaith ar blanhigion, anifeiliaid a thrigolion lleol
  • Defnyddio llai o ynni
  • Ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint o ddefnyddiau â phosibl
  • Rhoi sylw i ystyriaethau amgylcheddol wrth ddewis defnyddiau a chydrannau
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith y staff, yr is-gontractwyr a'r cyflenwyr
  • Addasu yn sgil sylwadau a ddaeth i law yn dilyn asesiadau amgylcheddol pellach ac ymrwymiadau y cytunir arnynt mewn trafodaethau â thrigolion a/neu fudiadau lleol.

Rhestr o'r camau cymdeithasol neu economaidd gynaliadwy yr arbrofwyd â nhw neu a gyflawnwyd.

Roedd angen creu adeilad newydd sy'n dangos fod Ysgol Dyffryn Aman yn ysgol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Y broblem bennaf o ran yr adeiladau presennol oedd diffyg cydlyniaeth a llwybrau allanol troellog. Roedd angen ychwanegu adeiladau newydd ond cyfran fach o'r gwaith cyfan yw'r rhain gan fod gwaith dymchwel ac ailadeiladu yn fwy costus na gwaith addasu.

Darparwyd adeiladau i ddatblygu adnoddau allweddol ar gyfer Anghenion Addysg Arbennig (Adeilad 17) a datblygu'r chweched dosbarth ynghyd â darparu derbynfa / mannau gweinyddu i groesawu ymwelwyr â'r ysgol (Adeilad 1).

Ar ôl ei hailddatblygu bydd modd i'r ysgol ddarparu digon o fannau addysgu a chymdeithasu digonol eu maint sy'n llecynnau dymunol ar gyfer gweithio a dysgu. Bydd yr ysgol yn cael ei haddasu a darperir cyfleusterau ychwanegol i sicrhau'i bod yn gwbl gynhwysol ac yn helpu pob plentyn.

Yn ogystal â'r materion uchod, mae'r prosiect wedi cyflawni'r canlynol:

  • Cyflawnwyd credyd cyntaf Man6: Ymgynghori (yn unol â safonau Addysg BREEAM 2008);
  • Mae defnyddwyr yr adeilad, wedi ymweld â'r safle yn ystod y gwaith adeiladu, gan gynnwys ymweliadau rheolaiddgan athrawon a disgyblion ysgol.
  • Bu defnyddwyr yr adeilad a rhanddeiliaid allweddol yng nghyfarfodydd y Tîm Dylunio.

Disgrifiad o'r Prosiect:

Diben y prosiect yw helaethu ac addasu'r ysgol bresennol. Mae adeilad 18 yn cael ei godi er mwyn creu canolfan newydd ar gyfer y chweched dosbarth ynghyd ag ystafelloedd astudio TG.  Bydd mannau rheoli a gweinyddu ar y llawr isaf.


Gradd a sgôr BREEAM:

Mae'n ofynnol fod Adeilad 18 yn cyrraedd safon ' Rhagorol' BREEAM. (75% yw'r sgôr a ragwelir)


Y canlynol yw nodweddion dylunio arloesol yr adeilad isel ei effaith hwn:

Nodweddion Ystadegau / Ffigurau / Mesuriadau
Cost adeiladu sylfaenol (£/ m2) £1,064,421.62
Costau Gwasanaethau (£/ m2) £482,022.85
Gwaith allanol (£/ m2) £12,000.00
Arwynebedd llawr gros 1,272.9m2
Cyfanswm arwynebedd y safle 11.43 hectar
Mathau o ystafelloedd a'u maint (m2) Mannau addysgu: 396.7       Mannau gweinyddu: 306.7
Arwynebedd y mannau cylchdroi 477.7m2
Arwynebedd y mannau storio 38m2
% o arwynebedd y tir a ddefnyddir gan y gymuned (lle bo hynny'n berthnasol) Amh
% o arwynebedd yr adeiladau a ddefnyddir gan y gymuned (lle bo hynny'n berthnasol) Amh
Y rhagolygon o ran defnyddio trydan:  goleuadau: 7.12 kWh/m2
Offer 20.95 kWh/m2
Y rhagolygon o ran llosgi tanwydd ffosil 39.24 kWh/m2
Y rhagolygon o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy 3.62 kWh/m2
Y rhagolygon o ran defnyddio dŵr 1.78 m3/ y person/ y flwyddyn
% y dŵr a ddefnyddir y rhagwelir y bydd yn ddŵr glaw neu'n ddŵr llwyd oddeutu 40%

Y camau a gymerwyd yn ystod y broses adeiladu i leihau'r effaith ar yr amgylchedd:

Manylwyd ar dechnegau rheoli adeiladu arloesol yng Nghynllun Rheolaeth Amgylcheddol y Prosiect a'r canlynol yw'r prif nodau ac amcanion:

  • Gwaredu llygryddion
  • Lleihau'r effaith ar blanhigion, anifeiliaid a thrigolion lleol
  • Defnyddio llai o ynni
  • Ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint o ddefnyddiau â phosibl
  • Rhoi sylw i ystyriaethau amgylcheddol wrth ddewis defnyddiau a chydrannau
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith y staff, yr isgontractwyr a'r cyflenwyr
  • Addasu yn sgil sylwadau a ddaeth i law yn dilyn asesiadau amgylcheddol pellach ac ymrwymiadau y cytunir arnynt mewn trafodaethau â thrigolion a/neu fudiadau lleol.

Rhestr o'r camau cymdeithasol neu economaidd gynaliadwy yr arbrofwyd â nhw neu a gyflawnwyd:

Roedd angen creu adeilad newydd sy'n dangos fod Ysgol Dyffryn Aman yn ysgol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Y broblem bennaf o ran yr adeiladau presennol oedd diffyg cydlyniaeth a llwybrau allanol troellog. Roedd angen ychwanegu adeiladau newydd ond cyfran fach o'r gwaith cyfan yw'r rhain gan fod gwaith dymchwel ac ailadeiladu yn fwy costus na gwaith addasu.

Darparwyd adeiladau i ddatblygu adnoddau allweddol ar gyfer Anghenion Addysg Arbennig (Adeilad 17) a datblygu'r chweched dosbarth ynghyd â darparu derbynfa / mannau gweinyddu i groesawu ymwelwyr â'r ysgol (Adeilad 18).

Ar ôl ei hailddatblygu bydd modd i'r ysgol ddarparu digon o fannau addysgu a chymdeithasu digonol eu maint sy'n llecynnau dymunol ar gyfer gweithio a dysgu. Bydd yr ysgol yn cael ei haddasu a darperir cyfleusterau ychwanegol i sicrhau'i bod yn gwbl gynhwysol ac yn helpu pob plentyn.

Yn ogystal â'r materion uchod, mae'r prosiect wedi cyflawni'r canlynol:

  • Credyd cyntaf Man6: Ymgynghori (yn unol â safonau Addysg BREEAM 2008)
  • Mae defnyddwyr yr adeilad, wedi ymweld â'r safle yn ystod y gwaith adeiladu, gan gynnwys ymweliadau rheolaidd gan athrawon a disgyblion ysgol.
  • Bu defnyddwyr yr adeilad a rhanddalwyr allweddol yng nghyfarfodydd y Tîm Dylunio.

Disgrifiad o'r Prosiect:
Diben y prosiect yw helaethu ac addasu'r ysgol bresennol. Roedd yr ystafelloedd newid newydd a'r adeilad Addysg Gorfforol yn darparu cyfleusterau newid newydd ynghyd ag ystafell ffitrwydd ac ystafell ddosbarth gysylltiedig.


Gradd a sgôr BREEAM:
Mae'n ofynnol fod yr ystafelloedd newid newydd yn cyrraedd safon 'Rhagorol' BREEAM’. 75.20% oedd y sgôr a gyflawnwyd yn yr asesiad interim.


Y canlynol yw nodweddion dylunio arloesol yr adeilad isel ei effaith hwn:

Nodweddion Ystadegau / Ffigurau / Mesuriadau
Cost adeiladu sylfaenol (£/ m2) £1185
Costau Gwasanaethau (£/ m2) £340
Gwaith allanol (£/ m2) £8
Arwynebedd llawr gros 655m2
Cyfanswm arwynebedd y safle 2 hectar
Mathau o ystafelloedd a'u maint (m2) Mannau addysgu: 205       Mannau gweinyddu: 137
Arwynebedd y mannau cylchdroi 202m2
Arwynebedd y mannau storio 34m2
% o arwynebedd y tir a ddefnyddir gan y gymuned (lle bo hynny'n berthnasol) Amh
% o arwynebedd yr adeiladau a ddefnyddir gan y gymuned (lle bo hynny'n berthnasol) Amh
Y rhagolygon o ran defnyddio trydan:  goleuadau: 6.2 kWh/m2
Offer 17 kWh/m2
Y rhagolygon o ran llosgi tanwydd ffosil 525 kWh/m2
Y rhagolygon o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy 1.65 kWh/m2
Y rhagolygon o ran defnyddio dŵr 4 m3/ y person/ y flwyddyn
% y dŵr a ddefnyddir y rhagwelir y bydd yn ddŵr glaw neu'n ddŵr llwyd oddeutu 0%

Y camau a gymerwyd yn ystod y broses adeiladu i leihau'r effaith ar yr amgylchedd:

Manylwyd ar dechnegau rheoli adeiladu arloesol yng Nghynllun Rheolaeth Amgylcheddol y Prosiect a'r canlynol yw'r prif nodau ac amcanion:

  • Gwaredu llygryddion
  • Lleihau'r effaith ar blanhigion, anifeiliaid a thrigolion lleol
  • Defnyddio llai o ynni
  • Ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint o ddefnyddiau â phosibl
  • Rhoi sylw i ystyriaethau amgylcheddol wrth ddewis defnyddiau a chydrannau
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith y staff, yr isgontractwyr a'r cyflenwyr
  • Addasu yn sgil sylwadau a ddaeth i law yn dilyn asesiadau amgylcheddol pellach ac ymrwymiadau y cytunir arnynt mewn trafodaethau â thrigolion a/neu fudiadau lleol.

Rhestr o'r camau cymdeithasol neu economaidd gynaliadwy yr arbrofwyd â nhw neu a gyflawnwyd:

Roedd angen creu adeilad newydd sy'n dangos fod Ysgol Dyffryn Aman yn ysgol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Y broblem bennaf o ran yr adeiladau presennol oedd diffyg cydlyniaeth a llwybrau allanol troellog. Roedd angen ychwanegu adeiladau newydd ond cyfran fach o'r gwaith cyfan yw'r rhain gan fod gwaith dymchwel ac ailadeiladu yn fwy costus na gwaith addasu.

Darparwyd adeiladau i ddatblygu adnoddau allweddol ar gyfer Anghenion Addysg Arbennig (Adeilad 17) a datblygu'r chweched dosbarth ynghyd â darparu derbynfa / mannau gweinyddu i groesawu ymwelwyr â'r ysgol (Adeilad 18).

Ar ôl ei hailddatblygu bydd modd i'r ysgol ddarparu digon o fannau addysgu a chymdeithasu digonol eu maint sy'n llecynnau dymunol ar gyfer gweithio a dysgu. Bydd yr ysgol yn cael ei haddasu a darperir cyfleusterau ychwanegol i sicrhau'i bod yn gwbl gynhwysol ac yn helpu pob plentyn.

Yn ogystal â'r materion uchod, mae'r prosiect wedi cyflawni'r canlynol:

  • Credyd cyntaf Man6: Ymgynghori (yn unol â safonau Addysg BREEAM 2008)
  • Mae defnyddwyr yr adeilad, wedi ymweld â'r safle yn ystod y gwaith adeiladu, gan gynnwys ymweliadau rheolaidd gan athrawon a disgyblion ysgol.
  • Bu defnyddwyr yr adeilad a rhanddalwyr allweddol yng nghyfarfodydd y Tîm Dylunio.

Disgrifiad o'r Prosiect:

Helaethu'r ysgol bresennol drwy adeiladu Bloc Celf, Gwyddoniaeth, a Thechnoleg newydd.


Gradd a sgôr BREEAM:

Mae'n ofynnol fod y Bloc yn cyrraedd safon 'Rhagorol' BREEAM. Cafodd sgôr o 75.10% ei rhoi yn ystod yr Asesiad Interim.


Y canlynol yw nodweddion dylunio arloesol yr adeilad isel ei effaith hwn:

Nodweddion Ystadegau / Ffigurau / Mesuriadau
Cost adeiladu sylfaenol £3,660,620
Costau gwasanaethau £1,297,470
Gwaith allanol £384,850
Arwynebedd llawr gros 3100 m2
Cyfanswm arwynebedd y safle 7.25 hectar
Mathau o ystafelloedd a'u maint Mannau addysgu: 2000 m2      Mannau gweinyddu: 85 m2
Arwynebedd y mannau cylchdroi 567 m2
Arwynebedd y mannau storio 220 m2
% o arwynebedd y tir a ddefnyddir gan y gymuned Amherthnasol
% o arwynebedd yr adeiladau a ddefnyddir gan y gymuned Amherthnasol
Y rhagolygon o ran defnyddio trydan: goleuadau 12.28 kWh/m2
Y rhagolygon o ran defnyddio trydan: offer 22.74 kWh/m2
Y rhagolygon o ran llosgi tanwydd ffosil 16.67 kWh/m2
Y rhagolygon o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy 6.23 kWh/m2
Y rhagolygon o ran defnyddio dŵr 3.66 m3/y person/y flwyddyn
% y dŵr a ddefnyddir y rhagwelir y bydd yn ddŵr glaw neu'n ddŵr llwyd Amherthnasol

Rhestr o'r camau cymdeithasol neu economaidd gynaliadwy yr arbrofwyd â nhw neu a gyflawnwyd.

Roedd angen creu adeilad newydd sy'n dangos bod yr ysgol yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Ar ôl ei hailddatblygu bydd modd i'r ysgol ddarparu digon o fannau addysgu a chymdeithasu digonol eu maint sy'n llecynnau dymunol ar gyfer gweithio a dysgu.

Mae cragen yr adeilad deulawr newydd wedi'i dylunio fel ei bod yn effeithiol o ran cadw gwres ac aer. Defnyddir boeleri nwy effeithlon iawn i ddarparu'r gwres. Hefyd gosodir system paneli haul ffotofoltäig ar y to i gyflenwi rhywfaint o alw'r adeilad o ran trydan.

Yn ogystal â'r materion uchod, mae'r prosiect wedi cyflawni'r canlynol:

  • Tystysgrif Perfformiad Ynni gradd 'A' (yn amodol ar gadarnhad).
  • Mae defnyddwyr yr adeilad wedi ymweld â'r safle yn ystod y gwaith adeiladu, gan gynnwys ymweliadau rheolaidd gan athrawon a disgyblion yr ysgol.
  • Mae defnyddwyr yr adeilad a'r prif randdeiliaid wedi bod yng nghyfarfodydd y Tîm Dylunio.

Disgrifiad o'r Prosiect:
Mae'r prosiect yn cynnwys codi adeilad Dylunio a Thechnoleg newydd (Bloc 21) a'i gysylltu â'r ysgol bresennol, ynghyd â gwaith allanol cysylltiedig.

Roedd angen creu adeilad newydd sy'n dangos fod Ysgol Maes y Gwendraeth yn ysgol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Y broblem bennaf o ran yr adeiladau presennol oedd diffyg mannau addysgu a chyfleusterau chwaraeon allanol.

Ar ôl ei hailddatblygu bydd modd i'r ysgol ddarparu digon o fannau addysgu a chymdeithasu digonol eu maint sy'n llecynnau dymunol ar gyfer gweithio a dysgu. Bydd yr ysgol yn cael ei haddasu a darperir cyfleusterau ychwanegol i sicrhau'i bod yn gwbl gynhwysol ac yn helpu pob plentyn.


Gradd a sgôr BREEAM:
Mae'n ofynnol fod yr adeilad gwyddoniaeth a thechnoleg newydd yn cyrraedd safon 'Rhagorol' BREEAM’. 73.84% oedd y sgôr a gyflawnwyd yn yr asesiad interim.

Nodir isod grynodeb o'r wybodaeth sylfaenol ynghylch costau'r prosiect.

Y canlynol yw nodweddion dylunio arloesol yr adeilad isel ei effaith hwn:

Nodweddion Ystadegau / Ffigurau / Mesuriadau
Cost Adeiladu Sylfaenol £766 / m2
Costau Gwasanaethau £443 / m2
Gwaith allanol £284 / m2
Arwynebedd llawr gros 2572.6m2
Cyfanswm arwynebedd y safle 0.3757 hectar
Mathau o ystafelloedd a'u maint (m2): (m2) Mannau addysgu: 393.2m2
Labordai: 402.7m2
Ystafelloedd technoleg: 770.9m2
Ystafelloedd celf: 246.6m2
Arwynebedd y mannau cylchdroi 554.2m2
Arwynebedd y mannau storio 38m2
% o arwynebedd y tir a ddefnyddir gan y gymuned (lle bo hynny'n berthnasol) Amh
% o arwynebedd yr adeiladau a ddefnyddir gan y gymuned (lle bo hynny'n berthnasol) Amh
Y rhagolygon o ran defnyddio trydan Goleu: 12.43 kWh/m2
Offer: 19.33 kWh/m2
Y rhagolygon o ran llosgi tanwydd ffosil 19.17 kWh/m2
Y rhagolygon o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy -4.88 kWh/m2
Y rhagolygon o ran defnyddio dŵr 3.42 m3/ person/ y flwyddyn
% y dŵr a ddefnyddir y rhagwelir y bydd yn ddŵr glaw neu'n ddŵr llwyd 0%

Y camau a gymerwyd yn ystod y broses adeiladu i leihau'r effaith ar yr amgylchedd:

  • Gwaredu llygryddion
  • Lleihau'r effaith ar blanhigion, anifeiliaid a thrigolion lleol
  • Defnyddio llai o ynni
  • Ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint o ddefnyddiau â phosibl
  • Rhoi sylw i ystyriaethau amgylcheddol wrth ddewis defnyddiau a chydrannau
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith y staff, yr is-gontractwyr a'r cyflenwyr

Addasu yn sgil sylwadau a ddaeth i law yn dilyn asesiadau amgylcheddol pellach ac ymrwymiadau y cytunir arnynt mewn trafodaethau â thrigolion a/neu fudiadau lleol.


Rhestr o'r camau cymdeithasol neu economaidd gynaliadwy yr arbrofwyd â nhw neu a gyflawnwyd:

Roedd angen creu adeilad newydd sy'n dangos fod Ysgol Maes y Gwendraeth yn ysgol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Y broblem bennaf o ran yr adeiladau presennol oedd diffyg mannau addysgu a chyfleusterau chwaraeon allanol. 

Ar ôl ei hailddatblygu bydd modd i'r ysgol ddarparu digon o fannau addysgu a chymdeithasu digonol eu maint sy'n llecynnau dymunol ar gyfer gweithio a dysgu. Bydd yr ysgol yn cael ei haddasu a darperir cyfleusterau ychwanegol i sicrhau'i bod yn gwbl gynhwysol ac yn helpu pob plentyn.

Rhestr o'r camau cymdeithasol neu economaidd gynaliadwy yr arbrofwyd â nhw neu a gyflawnwyd:

  • Defnyddio cerrig mân a ailgylchwyd ar gyfer gwaith draenio a seiliau caled ar y safle
  • Mannau penodedig ar gyfer blychau plannu i'r disgyblion gael creu a rheoli llecyn plannu organig
  • Lleolir blychau clwydo o gwmpas y safle
  • Darperir dŵr twym gan gasglyddion paneli haul thermol.
  • Gosodion glanweithiol/ymolchi nad ydynt yn defnyddio llawer o ddŵr 

Yn ogystal â'r materion uchod, mae'r prosiect wedi cyflawni'r canlynol:

  • Cyflawnwyd credyd cyntaf Man6: Ymgynghori (yn unol â safonau Addysg BREEAM 2008);
  • Mae defnyddwyr yr adeilad, wedi ymweld â'r safle yn ystod y gwaith adeiladu, gan gynnwys ymweliadau rheolaidd gan athrawon a disgyblion ysgol.
  • Mae defnyddwyr yr adeilad a'r prif randdeiliaid wedi bod yng nghyfarfodydd y Tîm Dylunio.

Disgrifiad o'r Prosiect:
Mae Bloc 23 yn estyniad i ysgol bresennol Maes y Gwendraeth ar ffurf neuadd chwaraeon newydd. Mae'n cynnwys neuadd chwaraeon, ystafelloedd newid, ystafell ddosbarth a swyddfa ar gyfer staff.

Y nod yw cynnal polisi adeilad gwyrdd gan ddefnyddio dyluniad ynni haul goddefol, golau ac awyru naturiol.   Yn ogystal, bydd yr adeilad yn defnyddio'r ynni a gynhyrchir gan y paneli haul.


Gradd a sgôr BREEAM:
Mae'n ofynnol fod y neuadd chwaraeon newydd yn cyrraedd safon 'Rhagorol' BREEAM’. 73% oedd y sgôr a gyflawnwyd yn yr asesiad interim.

Nodir isod grynodeb o'r wybodaeth sylfaenol ynghylch costau'r prosiect.

Y canlynol yw nodweddion dylunio arloesol yr adeilad isel ei effaith hwn:

Nodweddion Ystadegau / Ffigurau / Mesuriadau
Cost Adeiladu Sylfaenol £766 / m2
Costau Gwasanaethau £433 / m2
Gwaith allanol £284 / m2
Arwynebedd llawr gros 1191m2
Cyfanswm arwynebedd y safle 0.166 hectar
Mathau o ystafelloedd a'u maint (m2): (m2) Mannau addysgu: 52m2
Ystafelloedd newid: 158m2
Neuadd Chwaraeon: 597m2
Arwynebedd y mannau cylchdroi 171m2
Arwynebedd y mannau storio 78m2
% o arwynebedd y tir a ddefnyddir gan y gymuned (lle bo hynny'n berthnasol) Amh
% o arwynebedd yr adeiladau a ddefnyddir gan y gymuned (lle bo hynny'n berthnasol) Amh
Y rhagolygon o ran defnyddio trydan Goleu: 12.28 kWh/m2
Offer: 20.83 kWh/m2
Y rhagolygon o ran llosgi tanwydd ffosil 237.26 kWh/m2
Y rhagolygon o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy 10.92 kWh/m2
Y rhagolygon o ran defnyddio dŵr 4.13 m3/ person/ y flwyddyn
% y dŵr a ddefnyddir y rhagwelir y bydd yn ddŵr glaw neu'n ddŵr llwyd 0%

Y camau a gymerwyd yn ystod y broses adeiladu i leihau'r effaith ar yr amgylchedd:

  • Gwaredu llygryddion
  • Lleihau'r effaith ar blanhigion, anifeiliaid a thrigolion lleol
  • Defnyddio llai o ynni
  • Ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint o ddefnyddiau â phosibl trwy fabwysiadu Cynllun Rheoli Gwastraff y Safle
  • Gweithredu cynllun torri a llenwi cytbwys er mwyn sicrhau nad oedd deunyddiau gwrthgloddiau yn cael eu cludo i safle tirlenwi
  • Rhoi sylw i ystyriaethau amgylcheddol wrth ddewis defnyddiau a chydrannau
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith y staff, yr is-gontractwyr a'r cyflenwyr
  • Addasu yn sgil sylwadau a ddaeth i law yn dilyn asesiadau amgylcheddol pellach ac ymrwymiadau y cytunir arnynt mewn trafodaethau â thrigolion a/neu fudiadau lleol.
  • Rhoddwyd blaenoriaeth i'r gymuned leol ran cyfleoedd gwaith
  • Rheoli cadwraeth bywyd gwyllt

Y camau cymdeithasol neu economaidd gynaliadwy yr arbrofwyd â nhw neu a gyflawnwyd:

Yn ogystal ag ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliad, gwnaed llawer o waith i ymgysylltu â disgyblion a staff er mwyn sicrhau bod yr ysgol yn teimlo'i bod yn rhan o'r prosiect cyfan.

Rhestr o'r camau cymdeithasol neu economaidd gynaliadwy yr arbrofwyd â nhw neu a gyflawnwyd:

  • Defnyddio cerrig mân a ailgylchwyd ar gyfer gwaith draenio a seiliau caled ar y safle
  • Mannau penodedig ar gyfer blychau plannu i'r disgyblion gael creu a rheoli llecyn plannu organig
  • Lleolir blychau clwydo o gwmpas y safle
  • Darperir dŵr twym gan gasglyddion paneli haul thermol.
  • Gosodion glanweithiol/ymolchi nad ydynt yn defnyddio llawer o ddŵr

Yn ogystal â'r materion uchod, mae'r prosiect wedi cyflawni'r canlynol:

  • Cyflawnwyd credyd cyntaf Man6: Ymgynghori (yn unol â safonau Addysg BREEAM 2008);
  • Mae defnyddwyr yr adeilad, wedi ymweld â'r safle yn ystod y gwaith adeiladu, gan gynnwys ymweliadau rheolaidd gan athrawon a disgyblion ysgol.
  • Mae defnyddwyr yr adeilad a'r prif randdeiliaid wedi bod yng nghyfarfodydd y Tîm Dylunio.

Addysg ac Ysgolion