Alergenau, anoddefiadau a deietau arbennig

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/09/2023

Rydym yn darparu ar gyfer ystod eang o ofynion deietegol arbennig ac yn cynnig dewisiadau i lysieuwyr bob dydd; mae gofynion presennol ein cwsmeriaid yn amrywio ac maent yn cynnwys gofynion coeliag, soia, halal a diabetig.

Hefyd rydym yn darparu prydau i ddisgyblion ag alergenau a/neu anoddefiadau i gynnyrch penodol. Mae gan wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd restr o 14 o alergenau:

  • Glwten
  • Cramenogion
  • Molysgiaid
  • Wyau
  • Pysgod
  • Peanuts
  • Cnau
  • Ffa soia
  • Llaeth
  • Seleri
  • Mwstard
  • Sesame
  • Bysedd y blaidd
  • Sylffwr Deuocsid ar lefel uwch na 10miligram/cilogram, neu 10 miligram/litr, a nodir fel SO2

Os oes gan eich plentyn ddeiet arbennig a/neu alergedd/anoddefiad i unrhyw un o'r alergenau a restrir uchod, rydym yn gofyn ichi roi gwybod i'r staff arlwyo yn yr ysgol yn syth fel y gellir trefnu a pharatoi prydau ar gyfer eich plentyn/plant.

Addysg ac Ysgolion