Y gallu i ddysgu
Mae plant yn dysgu ar wahanol raddfeydd ac mae pob unigolyn yn unigryw. Mae gennym ni i gyd wahanol gryfderau a gwendidau o ran dysgu. Bydd rhai plant yn cael llawer mwy o anhawster na'u ffrindiau wrth ddysgu. Os bydd plant dair blynedd neu'n fwy ar ei hôl hi o ran y lefelau disgwyliedig, ar ôl i athrawon roi cynnig ar wahanol ffyrdd o helpu, gellir galw hyn yn Anawsterau Dysgu Cymedrol neu Anawsterau Dysgu Cyffredinol.
Bydd plant ag Anawsterau Dysgu Cymedrol yn cael problemau o bosib o ran y canlynol:
- Sgiliau sylfaenol o ran llythrennedd
- Sgiliau sylfaenol o ran rhifedd
- Deall cysyniadau newydd
- Sgiliau gwrando/rhoi sylw
- Rhoi'r hyn y maent yn ei wybod ar waith mewn sefyllfaoedd eraill
Yn aml bydd ganddynt ddiffyg hunan-barch, diffyg canolbwyntio a diffyg cymhelliant. Efallai y byddant yn gwrthod rhoi cynnig ar waith newydd oherwydd iddynt gredu y byddant yn methu cyn dechrau. Mae angen cymorth arnynt i gael mynediad i'r cwricwlwm.
Sut y bydd ysgol fy mhlentyn yn helpu?
Gall ysgolion helpu plant ag Anawsterau Dysgu Cymedrol drwy:
- Gwahaniaethu tasgau - eu gwneud yn symlach
- Cynnig gwahanol ffyrdd o gofnodi gwybodaeth, megis lluniau â labeli, diagramau neu siartiau llif
- Gweithgareddau amlsynnwyr
- Rhannu dysgu'n gamau bach
- Helpu plant i drefnu eu gwaith ysgrifenedig drwy ddefnyddio fframiau ysgrifennu
- Caniatáu rhagor o amser i gyflawni tasgau
- Cadw cyfarwyddiadau'n fyr ac yn glir
- Canmol cyflawniadau
Bydd rhai plant yn dysgu gyda chynorthwyydd addysgu - cyn gwers, yn ystod gwers neu ar ddiwedd gwers. Dylid annog plant i weithio'n annibynnol lle bynnag y bo modd.
Dylai rhieni a gofalwyr siarad ag ysgol eu plentyn yn gyntaf os bydd ganddynt unrhyw gwestiynau ynghylch gallu eu plentyn i ddysgu.
Athrawes Ymgynghorol: Steve Campbell 01267 246466
Addysg ac Ysgolion
Covid-19 - Cwestiynau Cyffredin Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion / Newid ysgol
- Gwneud cais am le mewn ysgol: plant 3 oed
- Gwneud cais am le mewn ysgol gynradd
- Symud i ysgol uwchradd
- Newid ysgol
- Dyfarnu lleoedd ysgol: Meini prawf
- Dalgylchoedd
- Apêl: Os gwrthodir lle mewn ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Asesiad Statudol o Anghenion Addysgol
- Seicoleg Addysg a Phlant
- Darpariaethau arbenigol
- Y gallu i ddysgu
- Darllen ac ysgrifennu
- Rhif neu fathemateg
- Sgiliau echddygol
- Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu
- Anawsterau Dysgu Difrifol
- Colled Clyw
- Nam ar y golwg
- Problemau corfforol a/neu feddygol
- Awtistiaeth
- Saesneg/Cymraeg fel ail iaith
- Anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol
- Canolbwyntio
- Sipsiwn a theithwyr
- Partneriaeth â Rhieni
- Llais y plentyn / person ifanc
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
- Prydau ysgol gynradd
- Prydau ysgol uwchradd
- Prydau ysgol am ddim
- Brecwast / llaeth ysgol am ddim
- Alergenau, anoddefiadau a deietau arbennig
- Sut rydym yn cael hyd i’n cynnyrch
- Cwestiynau cyffredin
- Safonau maeth ar gyfer prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
- Gwobr Dug Caeredin
- Coleg i ddisgyblion blwyddyn 11
- Heb fod mewn addysg na chyflogaeth?
- Cynnydd
- Cam Nesa
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Mwy ynghylch Addysg ac Ysgolion