Cwestiynau Cyffredin Cludiant Ysgol

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/09/2023

Fydd ein cwestiynau cyffredin yn helpu ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych am chludiant ysgol.

Mae amserlen ar gael i'w gweld ar ein gwefan. Pan fyddwch wedi derbyn eich cerdyn teithio, gwnewch yn siŵr bod y manylion stopio a nodir yn gywir, gan y bydd gyrwyr bysiau a thacsis dim ond yn gallu casglu a gollwng disgyblion o'r lleoliadau a nodir ar y cerdyn teithio, ac yn y mannau a nodir ar yr amserlenni.

Mae angen i ddisgyblion sy'n cychwyn mewn ysgol newydd ail-ymgeisio ar frys.

Mae angen i fyfyrwyr coleg wneud cais am gludiant trwy eu coleg - nid trwy'r cyngor.

Oes, mae'n bwysig bod teuluoedd sydd wedi newid cyfeiriad i ail-ymgeisio cyn gynted â phosibl.

Anfonwch e-bost i trafnidiaethgyhoeddus@sirgar.gov.uk gan nodi enw'r disgybl, dyddiad geni, cyfeiriad a manylion llawn y gwall.

Anfonwch e-bost i trafnidiaethgyhoeddus@sirgar.gov.uk gan nodi enw'r disgybl, dyddiad geni, cyfeiriad a chadarnhau eich bod yn dychwelyd i'r chweched dosbarth.

Os nad yw rhieni'n bwriadu defnyddio'r cludiant am ddim i'r ysgol ar gyfer eu plentyn dylent gysylltu â TeithioDysgwyr@sirgar.gov.uk gan ddarparu enw, dyddiad geni ac ysgol y plentyn.

Os ydych wedi colli neu ddifrodi eich tocyn bws gallwch nawr archebu tocyn bws newydd ar-lein am ffi o £6.00.

archebu tocyn bws newydd

Addysg ac Ysgolion