Newid ysgolion
Diweddarwyd y dudalen ar: 13/02/2025
Mae nifer o resymau pam efallai yr hoffech newid ysgol eich plentyn yn ystod y flwyddyn academaidd, ond mae'n bwysig eich bod yn ystyried os mai trosglwyddo yw'r opsiwn gorau mewn gwirionedd.
Gall newid ysgol gael effaith negyddol ar eich plentyn, megis:
• amharu ar ei addysg, a allai effeithio ar gynnydd academaidd,
• effeithio ar ei amgylchedd cymdeithasol, grwpiau cyfeillgarwch a gweithgareddau allgyrsiol,
• efallai na fydd lle yn yr ysgol rydych am i'ch plentyn fynychu ac os ydych chi'n gobeithio trosglwyddo brodyr a chwiorydd, efallai na fyddant i gyd yn cael cynnig lle yn yr un ysgol,
• gallai symud effeithio ar nifer y cymwysterau y gall eich plentyn eu cyflawni ym Mlwyddyn 10/11 os nad yw'r ysgol newydd yn cynnig yr un opsiynau o ran pynciau.
Oni bai ei bod yn gwbl angenrheidiol, er enghraifft, yn dilyn symud tŷ, fe'ch cynghorir yn gryf i weithio gydag ysgol bresennol eich plentyn yn hytrach na throsglwyddo.
Gall siarad â'ch plentyn a'r staff yn ysgol bresennol eich plentyn osgoi'r angen am drosglwyddo.
Os yw'ch rheswm dros drosglwyddo wedi'i gynnwys isod, dylech gymryd y camau a nodir cyn gwneud cais.
Cofiwch, ni ddylai unrhyw ysgol eich cynghori chi na'ch plentyn i drosglwyddo. Os bydd hyn yn digwydd, anfonwch e-bost at questionecs@sirgar.gov.uk
Rhesymau cyffredin dros ofyn am drosglwyddo:
1. Bwlio a Llesiant Emosiynol
Dylech...ofyn am gyfarfod â staff yr ysgol a thrafod eich pryderon. Nodi'r hyn sydd angen ei newid a chytuno ar gynllun i symud pethau ymlaen. Efallai y bydd gan ysgolion staff a allai gefnogi eich plentyn e.e. athrawon dosbarth, Cynorthwywyr Cymorth Llythrennedd Emosiynol, Swyddogion Cymorth Bugeiliol, Ymarferwyr Ymwybodol o Drawma, Swyddogion Llesiant
Mae gan bob ysgol gyfrifoldeb i fynd i'r afael â bwlio a chefnogi llesiant emosiynol.
Os ydych chi'n teimlo nad yw polisïau wedi cael eu dilyn, dylech siarad â Phennaeth yr ysgol.
Ein cyngor i chi...Byddem yn argymell eich bod yn gofyn am gefnogaeth a gweithio gyda'r ysgol lle mae problemau bwlio neu lesiant emosiynol. Mae cyfrifoldeb ar bob ysgol i ddiogelu llesiant corfforol ac emosiynol eu disgyblion. Os nad yw hyn yn wir ar gyfer eich teulu chi, mae'n rhaid codi hyn gyda'r ysgol a all wneud y canlynol:
• Gweithio'n adferol gyda'ch plentyn a phlant eraill sy’n gysylltiedig
• Cynnwys staff neu weithwyr proffesiynol eraill a all gefnogi eich plentyn a chi
• Symud dosbarthiadau
• Cyfryngu
• Trefnu cyfarfodydd i'r teulu
2. Diffyg presenoldeb yn yr ysgol
Bydd yn ddefnyddiol i chi siarad â'ch plentyn a chael gwybod pam nad yw'n mynd i'r ysgol e.e. Beth yw'r peth gorau a'r peth gwaethaf am y diwrnod ysgol? Os gallet ti newid un agwedd ar dy ysgol, beth fyddai hynny? Sut rai yw dy ffrindiau yn yr ysgol? Siaradwch ag athrawon eich plentyn. A oes unrhyw bynciau mae'n gofidio amdanynt?
Ein cyngor i chi...rhaid i blant fynd i'r ysgol. Rydym yn aml yn gweld drwy siarad â'ch plentyn a'r ysgol, bod modd nodi’r mater a rhoi camau ar waith. Gall ysgolion ofyn am gymorth y Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion pe bai angen.
3. Gall eich plentyn gael ei wahardd o'r ysgol
Dylech...Siarad ag athro, pennaeth blwyddyn neu bennaeth eich plentyn. Gwiriwch a oes gan eich plentyn gynllun cymorth bugeiliol, cynllun ymddygiad cadarnhaol neu a nodwyd bod ganddo Anghenion Dysgu Ychwanegol. Gofynnwch am adolygiad o'r cynllun cymorth bugeiliol neu unrhyw gynlluniau eraill sydd ar waith ar hyn o bryd i gefnogi ymddygiad eich plentyn. Os nad yw'n derbyn unrhyw gymorth ychwanegol, gofynnwch i siarad ag aelod o staff i drafod hyn.
Ein cyngor i chi...Os oes pryderon ymddygiad gan yr ysgol am eich plentyn, nid ydym yn argymell ei symud i ysgol arall. Ni ddylai unrhyw ysgol awgrymu hyn i'ch plentyn. Gallai'r tarfu hyn wneud y mater yn waeth. Os oes angen cymorth arnoch gyda hyn, anfonwch e-bost at questionecs@carmarthenshire.gov.uk
4. Cymorth gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol
Dylech...Siarad â'r athro sy'n gyfrifol am Anghenion Dysgu Ychwanegol yn yr ysgol a gofynnwch am gyfarfod i drafod eich pryderon. Bydd rhai plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol yn cael eu nodi fel rhai ag anghenion dysgu ychwanegol drwy broses o wneud penderfyniadau.
Ein cyngor i chi...Rydym yn argymell bod rhieni'n ymgysylltu â Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol yn y lle cyntaf. Os oes angen cymorth pellach gyda'r broses anghenion dysgu ychwanegol, gall rhieni gysylltu â'n Gwasanaeth Partneriaeth â Rhieni a all helpu drwy roi arweiniad pellach.
5. Addysg Cyfrwng Cymraeg (Addysg Ddwyieithog)
Os oes gennych bryderon am gynnydd eich plentyn yn yr iaith, siaradwch â'ch plentyn a siaradwch â'r ysgol i ofyn a oes unrhyw bryderon neu a yw'r ysgol yn gallu nodi unrhyw gymorth sydd angen ei roi ar waith i helpu'ch plentyn. Efallai y gwelwch fod yr iaith yn cael ei defnyddio fel esgus i ymdrin â materion eraill y gallai fod angen mynd i'r afael â nhw. Ni ddylai unrhyw ysgol awgrymu y dylai plentyn symud oherwydd gallu iaith. Os oes gan ysgol fwy nag un ffrwd iaith, fel arfer bydd gan yr ysgol bolisi ar y ffrwd y derbynnir eich plentyn iddi. Gall newid ysgol gael effaith academaidd ac emosiynol ar blant, a dylech bwyso a mesur y rhain yn erbyn unrhyw heriau tymor byr yn eich ysgol bresennol.
I gael rhagor o wybodaeth am y manteision a'r cymorth o ran addysg ddwyieithog ewch i tudalenau Addysg ddwyieithog.
6. A fydd cludiant yn cael ei ddarparu i'r ysgol yr hoffwn symud iddi?
Darperir cludiant i ysgol ddalgylch neu'r ysgol agosaf yn unig, os yw'r cyfeiriad cartref naill ai; dros 2 filltir i ffwrdd ar gyfer ysgol gynradd neu dros 3 milltir ar gyfer ysgol uwchradd ar hyd y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael. Os yw'r ysgol a ddewiswyd gennych yn agosach na'r pellteroedd hyn, neu os nad yr ysgol hon yw'r un agosaf neu ysgol ddalgylch, chi fydd yn gyfrifol am gludo eich plentyn i'r ysgol honno a'r costau sydd ynghlwm.
7. Pryderon parhaus am yr ysgol
Dylech...drafod eich pryderon gyda'r ysgol. Os ydych chi'n ystyried symud ysgol oherwydd problem yn yr ysgol bresennol, mae'n bwysig ceisio ei datrys yn gyntaf. Wrth geisio delio â'r materion sy'n peri pryder i chi, gallech chi helpu i osgoi’r gofid allai fod ynghlwm â newid ysgol. Os na ellir datrys y mater drwy siarad â'r athro dosbarth, gallwch ei gyfeirio at y pennaeth neu'r llywodraethwyr, yn unol â gweithdrefn gŵynion yr ysgol.
Ein cyngor i chi...Mae ysgolion a'u cyrff llywodraethu yn gyfrifol am ddelio â phryderon gan rieni/gofalwyr, disgyblion a'r gymuned ehangach. Edrychwch ar wefan yr ysgol am gopi o'r weithdrefn gŵynion neu gofynnwch am gopi o'r ysgol.
Os ydych yn parhau i fod yn awyddus i drosglwyddo i ysgol arall ar ôl gweithio gydag ysgol bresennol eich plentyn, bydd angen i chi wneud cais.
Dylech nodi bod lleoedd yn gyfyngedig mewn ysgolion ac efallai y bydd eich cais yn cael ei wrthod, hyd yn oed os ydych yn byw yn lleol.
Peidiwch â chyflwyno'r cais hwn fwy nag un tymor ysgol cyn dyddiad dechrau gofynnol eich plentyn yn yr ysgol.
Dim ond ceisiadau ar gyfer ysgolion Sir Gaerfyrddin rydyn ni’n eu derbyn a dim ond ar-lein y gallwch wneud cais. Bydd angen ichi ddarparu’r wybodaeth ganlynol:
- Enw a chyfeiriad y rhiant/gwarcheidwad *
- E-bost y rhiant/gwarcheidwad **
- Enw’r plentyn, ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni
- Eich dewis ysgol – gallwch ddewis hyd at dair ysgol, mewn trefn blaenoriaeth
- Dyddiad cychwyn rydych yn ei ffafrio (efallai nad hwn fydd yr union ddyddiad cychwyn, bydd angen ichi drafod hyn gyda’r ysgol)
- Manylion cyswllt ar gyfer y gweithiwr cymdeithasol a’r awdurdod lleol os yw eich plentyn yn cael neu erioed wedi cael ei faethu neu fabwysiadu.
* Rhaid i unrhyw un â chyfrifoldeb rhiant gytuno â’r cais hwn cyn ichi ei gyflwyno.
** Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost ni allwch wneud cais ar-lein. Ewch i’ch ysgol leol a byddan nhw’n eich helpu gyda’ch cais.
Byddwch yn cael cydnabyddiaeth dros yr e-bost lle gallwch hefyd argraffu copi o’ch cais. Bydd unrhyw ohebiaeth am eich cais yn cael ei hanfon dros yr e-bost.
Os cynigir lle ichi rhaid ichi dderbyn neu gwrthod y lle a gynigiwyd erbyn y dyddiad nodir yn yr e-bost. Os na wnewch chi hynny efallai y caiff y lle ei gymryd oddi arnoch.
Unwaith yr ydych wedi derbyn lle eich plentyn, RHAID ichi gysylltu â’r ysgol i gytuno ar ddyddiad cychwyn.
Mae gennych hawl i apelio (ac eithrio am leoedd meithrin i blant 3 oed). Dylech nodi, fodd bynnag, mai dim ond os yw’r flwyddyn rydych chi’n gwneud cais amdani yn llawn y byddwn yn gwrthod lle i’ch plentyn. Mi fydd yn rhaid i chi hefyd ein hysbysu yn ysgrifenedig os ydych am i enw'ch plentyn gael ei gadw ar restr aros tan 30 Medi ac, os daw lle ar gael, byddwn yn rhoi gwybod i chi.
Addysg ac Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion a Newid Ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu Sir Gâr
Cyrsiau Dysgu Oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol
Cymorth Ariannol
Colli ysgol : Colli cyfle
Cyllideb ysgolion
Llywodraethwyr ysgol
Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gâr
Addysg Sir Gâr 2022-2032
- Pam mae angen y strategaeth hon arnom?
- Gweledigaeth ar gyfer 2032
- Ein canlyniadau dymunol 2022-2032
- Cyswllt â'r amcanion llesiant
- Cefndir polisi