Darllen ac ysgrifennu
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024
Mae plant yn dysgu darllen ac ysgrifennu ar gyflymderau gwahanol. Bydd rhai plant yn cael problemau penodol gyda darllen ac ysgrifennu. Gall hyn effeithio ar eu dysgu yn gyffredinol. Weithiau gelwir hyn yn Ddyslecsia.
Mae Dyslecsia yn anhawster dysgu sy'n effeithio'n bennaf ar y sgiliau sy'n gysylltiedig â darllen a sillafu geiriau yn gywir ac yn rhugl.
Gall hefyd effeithio ar leferydd ac iaith, cydlynu echddygol, cyfrifo meddyliol, canolbwyntio a threfniadaeth bersonol.
Sut bydd yr ysgol yn helpu?
- Bydd gwaith dosbarth yn cael ei wahaniaethu fel bod disgwyl i blant ddysgu a chwblhau tasgau ar eu cyflymder eu hunain.
- Mae cymorth da yn cynnwys partneriaeth – gyda phlant, rhieni, athrawon, cynorthwywyr addysgu a gweithwyr proffesiynol eraill.
- Mae angen i'r addysgu ganolbwyntio ar y dysgwr, gyda'r plentyn/person ifanc yn ymwneud â chynllunio a chyflwyno i ddiwallu ei anghenion.
- Yn y blynyddoedd cynnar, mae plant yn dysgu drwy iaith lafar. Mae ChATT (Offeryn Asesu ac Addysgu Plant Sir Gaerfyrddin) yn helpu i adnabod a oes gan blant broblemau iaith a lleferydd, sy'n gallu cysylltu â dyslecsia.
Os oes gan blant/pobl ifanc broblemau hirdymor, gall yr ysgol ofyn am gyngor a chymorth gan athro ymgynghorol. Efallai y byddant yn argymell rhaglen i'r dysgwr ei dilyn, weithiau mewn grwpiau bach neu un-i-un am ran o'r diwrnod.
Dylai plant, pobl ifanc, rhieni neu ofalwyr siarad â'r ysgol i ddechrau os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am allu'r dysgwyr i ddarllen ac ysgrifennu.
Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi mewn gwahanol ffyrdd yn ôl eu hanghenion yn yr ystafell ddosbarth. Efallai y bydd angen iddynt weithio mewn grwpiau bach, weithiau gyda chynorthwyydd addysgu i gefnogi anghenion neu i helpu i nodi angen. Bydd rhai plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol yn cael eu nodi fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol drwy broses gwneud penderfyniadau.
Athrawon Ymgynghorol: Vicki Brook, e-bost: VLBrook@sirgar.gov.uk neu Bronwen Walters, e-bost MBWalters@sirgar.gov.uk
Addysg ac Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion a Newid Ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu Oedolion
Cyrsiau Dysgu Oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol
Cymorth Ariannol
Colli ysgol : Colli cyfle
Cyllideb ysgolion
Llywodraethwyr ysgol
Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gâr
Addysg Sir Gâr 2022-2032
- Pam mae angen y strategaeth hon arnom?
- Gweledigaeth ar gyfer 2032
- Ein canlyniadau dymunol 2022-2032
- Cyswllt â'r amcanion llesiant
- Cefndir polisi
Mae ein hymddygiad yn eiffeithio ar bawb a phopeth
Herio
Mwy ynghylch Addysg ac Ysgolion