Anawsterau Dysgu Difrifol
Mae gan rai plant anawsterau dysgu difrifol, sy'n golygu bod ganddynt broblemau sylweddol o ran deallusrwydd a gwybyddiaeth. Mae'n bosibl y bydd angen llawer o gymorth arnynt ym mhob elfen o'u bywydau, gan gynnwys yr ysgol. Hefyd mae'n bosibl y byddant yn cael anawsterau o ran symudedd, cydsymud, a chyfathrebu. Efallai fod gan rai plant anableddau synhwyraidd neu gorfforol, anghenion iechyd cymhleth neu broblemau iechyd meddwl.
Mae angen i blant ag anawsterau dysgu difrifol neu anawsterau dysgu dwys a lluosog gael eu dysgu ar lefel sy'n briodol iddynt. Mae angen digon o gyfleoedd arnynt i ailadrodd profiadau sy'n canolbwyntio ar ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, synhwyraidd a chorfforol ac sy'n rhoi sylw i'w hanghenion cymhleth o ran iechyd meddwl ac o ran iechyd y corff.
Sut y bydd ysgol fy mhlentyn yn helpu?
Fel arfer mae plant ag anawsterau dysgu difrifol yn mynd i ysgol arbennig neu sefydliad arbenigol. Dylent wneud cynnydd yn yr ysgol. Yn aml mae'r cynnydd hwn o dan Lefel 1 o'r Cwricwlwm Cenedlaethol, a chaiff ei fesur drwy ddefnyddio system o'r enw Ar Drywydd Dysgu. Bydd ganddynt Ddatganiad Anghenion Addysgol neu Gynllun Datblygu Unigol, sy'n pennu targedau iddynt ac yn nodi sut y cânt eu cyrraedd (gweler "Beth yw fy hawliau?").
Dylai rhieni a gofalwyr fod ynghlwm wrth gynllunio a diwallu anghenion y plentyn. Er y bydd cynnydd yn cael ei fonitro'n barhaus, dylid adolygu cynlluniau'n rheolaidd - bob blwyddyn o leiaf.
Athro Ymgynghorol: Steve Campbell 01267 246466.
Addysg ac Ysgolion
Covid-19 - Cwestiynau Cyffredin Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion / Newid ysgol
- Gwneud cais am le mewn ysgol: plant 3 oed
- Gwneud cais am le mewn ysgol gynradd
- Symud i ysgol uwchradd
- Newid ysgol
- Dyfarnu lleoedd ysgol: Meini prawf
- Dalgylchoedd
- Apêl: Os gwrthodir lle mewn ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Asesiad Statudol o Anghenion Addysgol
- Seicoleg Addysg a Phlant
- Darpariaethau arbenigol
- Y gallu i ddysgu
- Darllen ac ysgrifennu
- Rhif neu fathemateg
- Sgiliau echddygol
- Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu
- Anawsterau Dysgu Difrifol
- Colled Clyw
- Nam ar y golwg
- Problemau corfforol a/neu feddygol
- Awtistiaeth
- Saesneg/Cymraeg fel ail iaith
- Anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol
- Canolbwyntio
- Sipsiwn a theithwyr
- Partneriaeth â Rhieni
- Llais y plentyn / person ifanc
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
- Prydau ysgol gynradd
- Prydau ysgol uwchradd
- Prydau ysgol am ddim
- Brecwast / llaeth ysgol am ddim
- Alergenau, anoddefiadau a deietau arbennig
- Sut rydym yn cael hyd i’n cynnyrch
- Cwestiynau cyffredin
- Safonau maeth ar gyfer prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
- Gwobr Dug Caeredin
- Coleg i ddisgyblion blwyddyn 11
- Heb fod mewn addysg na chyflogaeth?
- Cynnydd
- Cam Nesa
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Mwy ynghylch Addysg ac Ysgolion