Cwestiynau Cyffredin - Polisi cludiant o'r cartref i'r ysgol newydd
Diweddarwyd y dudalen ar: 25/09/2026
O fis Medi 2027, bydd cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol fel rheol yn cael ei ddarparu i ddysgwyr cymwys sy’n mynychu eu hysgol ddalgylch ddynodedig, yn amodol ar y meini prawf arferol o ran pellter a chymhwysedd.
Ni fydd cludiant yn cael ei ddarparu mwyach i’r ysgol agosaf, os nad hon yw ysgol y dalgylch. Mae’r newid hwn yn cysoni’r Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol â’r trefniadau dalgylchoedd ysgolion a gymeradwywyd gan y Cyngor, ac mae’n ffordd gliriach a mwy cyson o ymdrin â’r hawl i gludiant ar draws Sir Gaerfyrddin.
Mae’r newid yn sicrhau bod trefniadau derbyn i ysgolion, dalgylchoedd a threfniadau cludiant yn gweithio gyda’i gilydd mewn ffordd glir a chyson.
Mae'r polisi diwygiedig yn helpu teuluoedd i ddeall eu hawl i gludiant yn well, yn cefnogi cynlluniau cludiant hirdymor ac yn golygu bod Sir Gaerfyrddin yn dilyn dull tebyg i'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yng Nghymru.
Gallwch.
Mae gan rieni hawl i fynegi ffafriaeth ar gyfer unrhyw ysgol a gynhelir o hyd. Nid yw'r trefniadau derbyn i ysgolion yn newid.
Fodd bynnag, os derbynnir lle mewn ysgol nad yw'n ysgol ddynodedig y dalgylch, ni ddarperir cludiant am ddim fel rheol, ac fel arfer y teulu fydd yn gyfrifol am y trefniadau cludiant.
Nac ydy.
Mae'r newidiadau yn ymwneud â bod yn gymwys am gludiant yn unig. Gall rhieni dal wneud cais am unrhyw ysgol lle mae lleoedd ar gael trwy'r broses dderbyn arferol.
Bydd dysgwyr fel rheol yn gymwys i gael cludiant am ddim os ydynt:
Yn mynychu ysgol ddynodedig eu dalgylch; ac
Yn byw mwy na 2 filltir o ysgol gynradd neu fwy na 3 milltir o ysgol uwchradd.
Gall cludiant hefyd fod ar gael mewn rhai amgylchiadau, gan gynnwys i ddysgwyr cymwys ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, cyflyrau meddygol, llwybrau cerdded anniogel, Plant sy'n Derbyn Gofal a rhai sefyllfaoedd eithriadol a nodir yn y polisi.
Yn y rhan fwyaf o achosion, na fydd.
Mae'r Cyngor wedi cyflwyno trefniadau dros dro i amddiffyn hawliau dysgwyr presennol i gludiant. At ei gilydd, bydd disgyblion sy'n derbyn cludiant am ddim cyn mis Medi 2027 yn parhau i dderbyn cludiant o'r un cyfeiriad i'r un ysgol tan ddiwedd eu cyfnod presennol o addysg.
Bwriad y trefniadau dros dro yw lleihau'r tarfu ar deuluoedd gymaint ag sy'n bosibl.
Maent yn amddiffyn hawliau:
Disgyblion presennol sydd eisoes yn derbyn cludiant cyn mis Medi 2027.
Plant sy'n dechrau mewn ysgol gynradd yn 2027 y mae'r newidiadau mewn dalgylchoedd yn effeithio arnynt.
Disgyblion Blwyddyn 6 sy'n trosglwyddo i'r ysgol uwchradd ym mis Medi 2027 y mae'r newidiadau mewn dalgylchoedd yn effeithio arnynt.
Dysgwyr sy'n symud i'r chweched dosbarth sydd eisoes yn derbyn cludiant i'w hysgol bresennol.
Bydd y trefniadau dros dro hyn yn berthnasol os ydych chi'n aros yn yr un cyfeiriad ac yn yr un ysgol.
Gall newid cyfeiriad effeithio ar gymhwysedd am gludiant.
Pan fydd dysgwr yn symud tŷ, fel rheol caiff ei hawl ei hailasesu yn unol â'r polisi sy'n berthnasol ar yr adeg honno, ac efallai na fydd y trefniadau amddiffynnol dros dro yn berthnasol mwyach.
Mae'r polisi diwygiedig yn ei gwneud hi'n haws i deuluoedd ddangos cymhwysedd ar sail feddygol.
Yn ogystal â thystiolaeth feddygol gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, bydd y Cyngor nawr hefyd yn cydnabod hawl i Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) sy'n gysylltiedig â symudedd a Bathodyn Glas y dysgwr fel tystiolaeth ategol lle bo hynny'n briodol. Cyflwynwyd y newid hwn i helpu teuluoedd a lleihau dibyniaeth ar gael ardystiad meddygol.
Mae cymorth i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn parhau i fod yn rhan bwysig o'r polisi.
Bydd y Cyngor yn parhau i asesu dysgwyr yn unigol i benderfynu a oes angen cludiant arnynt a, lle bo angen, yn nodi'r trefniadau cludiant mwyaf priodol i ddiwallu eu hanghenion.
Os nad yw dysgwr yn gallu cael lle yn ei ysgol ddalgylch ddynodedig oherwydd ei bod yn llawn a bod cais wedi'i wrthod drwy'r broses dderbyn, gall y Cyngor nodi ysgol addas arall gyda lleoedd ar gael.
Yna gellir ystyried cludiant yn unol â'r polisi a'r meini prawf cymhwysedd.
Nid bob amser.
Caiff cymhwysedd i gludiant ei asesu'n unigol yn erbyn y meini prawf polisi sy'n berthnasol ar adeg y cais. O ganlyniad, gall un brawd neu chwaer fod yn gymwys am gludiant ac un arall heb fod yn gymwys.
Mae'r polisi diwygiedig yn cynnwys nifer o welliannau sydd wedi'u bwriadu i ddarparu mwy o eglurder, cysondeb a chefnogaeth i deuluoedd, gan gynnwys:
Gwneud cymhwysedd am gludiant yn gliriach, gan gysylltu'n uniongyrchol ag ysgolion dalgylch.
Cydnabyddiaeth ehangach i gymhwysedd Lwfans Byw i'r Anabl a'r Bathodyn Glas wrth asesu cludiant ar sail feddygol.
Gwell trefniadau seddi sbâr, gan gynnwys y gallu i ddyrannu seddi trwy gydol y flwyddyn a lleihau'r angen i deuluoedd ailymgeisio'n flynyddol.
Mwy o dryloywder ynghylch yr hawl i gludiant a darpariaeth yn ôl disgresiwn.
Trefniadau dros dro cryf i amddiffyn dysgwyr presennol rhag tarfu.
Bwriad y newidiadau hyn yw gwneud y gwasanaeth yn haws i'w ddeall ac yn fwy ymatebol i anghenion dysgwyr.
Bydd.
Bydd y Cyngor yn parhau i weithredu cynllun seddi sbâr lle mae capasiti ar gael ar gerbydau cludiant ysgol.
Nod y trefniadau diwygiedig yw darparu mwy o hyblygrwydd, caniatáu i seddi gael eu dyrannu trwy gydol y flwyddyn a lleihau'r angen am ailymgeisio'n flynyddol, yn amodol ar argaeledd.
Gall dysgwyr cymwys sy'n mynychu chweched dosbarth eu hysgol ddalgylch barhau i dderbyn cymorth cludiant yn ôl disgresiwn yn unol â meini prawf y polisi.
Gallwch.
Os gwrthodir cais am gludiant, gall rhieni a gwarcheidwaid ofyn am i'r penderfyniad gael ei adolygu a gallant ddefnyddio proses apelio'r Cyngor. Bydd pob achos yn cael ei ystyried ar sail ei amgylchiadau unigol a'r dystiolaeth a ddarperir.
Bydd y Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol diwygiedig yn cael ei gyhoeddi ar gyfer Hydref 2026 a bydd yn berthnasol o ddechrau blwyddyn academaidd 2027/28.
