Gwybodaeth Ddefnyddiol i Ddysgwyr Cymwys

Amserlenni Bysus Ysgol

Ar ôl ichi gael eich tocyn teithio, gwiriwch fod manylion y safle codi/gollwng yn gywir.

Ni all gyrwyr bws a thacsi ond codi a gollwng myfyrwyr yn y lleoliadau a restrir ar y pasys teithio, ac wrth y safleoedd a nodir ar yr amserlenni. Gwnewch yn siŵr bod popeth yn gywir i sicrhau taith rwydd.

Amserlenni


Rheolau pwysig ar gyfer Cludiant Ysgol

Er mwyn sicrhau bod pawb yn cyrraedd yr ysgol ac yn ôl yn ddiogel, mae gennym gyfres o reolau y mae angen i bawb eu dilyn.

Mae'r rheolau hyn yn rhan o'r Cod Ymddygiad Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol/Coleg.

COD YMDDYGIAD


Beth os yw'r manylion ar y pàs bws yn anghywir?

Os byddwch chi'n sylwi bod unrhyw fanylion ar y pàs bws yn anghywir, llenwch y ffurflen gyswllt. Byddwn yn mynd ati i greu pàs bws newydd ichi cyn gynted ag sy'n bosibl.


Oes angen i ddysgwyr gario eu pàs bws bob dydd?

Oes, mae'n bwysig i bob dysgwr gario ei bàs bws a'i ddangos i'r gyrrwr bob tro y bydd yn mynd ar y bws. Gwnewch yn siŵr bod y pás yn cael ei gadw'n ddiogel a mewn cyflwr da.

O fis Medi 2025 ymlaen, er mwyn sicrhau mai ond dysgwyr cymwys fydd yn cael teithio, bydd gweithredwyr bws yn cadw'n llym at reol "Dim pás, dim taith". Rydym yn argymell bod deilydd pob pás yn tynnu llun o'u pás ar eu ffôn, fel tystiolaeth wrth gefn os aiff y pás gwreiddiol ar goll. Gall y llun hwn fod yn brawf dros dro am hyd at dri diwrnod nes ichi gael pás newydd.


Pryd a Ble y ceir defnyddio'r Pàs Teithio?

Ni cheir ond defnyddio'r pàs teithio ar gyfer cludiant i'r ysgol sy'n codi a gollwng disgyblion wrth eu safle bws penodedig neu fan codi penodedig. Ni all gweithredwr na gyrrwr y bws ganiatáu i ddisgyblion gael eu gollwng mewn unrhyw gyfeiriad arall.

Ystyrir camddefnydd o'r pàs teithio neu ddefnydd twyllodrus ohono yn fater difrifol iawn, a gall arwain at dynnu'r pás oddi arnoch. Dyma rai rhesymau pam y gallem dynnu eich pás yn ôl:

  • Os bydd rhywun heblaw'r deiliad a enwir yn defnyddio'r pás
  • Os byddwch yn ceisio defnyddio'r pás ar gyfer teithiau nad ydynt yn cael eu caniatáu
  • os yw'r pàs teithio wedi'i ddifrodi neu ei addasu
  • os byddwch chi'n defnyddio pás sydd wedi darfod neu nad yw'n ddilys mwyach.
  • Bydd dysgwyr sydd wedi gwneud cais am gludiant am ddim ac y gwrthodwyd eu cais yn cael gwybod am y broses apelio yn rhan o'r hysbysiad ysgrifenedig bod y cais wedi'i wrthod.

 


Pam bod fy nghymydog yn cael cludiant?

Ni allwn wneud sylwadau ynghylch amgylchiadau unigol, ond dyma rai rhesymau posibl pam y gallai fod yn cael cludiant:

  • Diogelwch ar y Ffyrdd (Pellter Cerdded Statudol YN UNIG): gall y maen prawf hwn fod yn berthnasol i sefyllfa'r dysgwr - darparu cludiant lle nad oes unrhyw lwybr cerdded ar gael i'r ysgol.
  • Cyflwr Meddygol (Pellter Cerdded Statudol YN UNIG): gallai'r dysgwr fodloni'r meini prawf ar gyfer cludiant oherwydd cyflwr meddygol sy'n ei atal rhag cerdded y 'pellter statudol' a ddiffiniwyd.
  • Preswylio mewn mwy nag un cyfeiriad: gallai sefyllfa deuluol y dysgwr olygu ei fod yn gymwys i gael cludiant, gan ei fod yn byw mewn mwy nag un cyfeiriad ond yn mynd i'r un ysgol o'r ddau gartref.
  • Newid Preswylfa yn ystod Blynyddoedd TGAU: os yw'r dysgwr yn symud i breswylfa arall yn ystod blynyddoedd TGAU (ar ôl egwyl hanner tymor mis Hydref yn y flwyddyn gyntaf o astudio TGAU – blwyddyn 10), gallai hyn olygu ei fod yn gymwys i gael cymorth ar gyfer cludiant.
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY): gallai'r dysgwr fod yn derbyn gwasanaethau ADY, ac felly â hawl i gludiant.
  • Plentyn sy'n Derbyn Gofal: gallai'r dysgwr fod yn gymwys i gael cludiant o dan y maen prawf hwn.