Hanfodion Ysgol (PDG - Mynediad)
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/07/2025
Os yw eich plentyn eisoes yn cael prydau ysgol am ddim, gallai fod mwy o help ar gael drwy Hanfodion Ysgol (PDG – Mynediad). Edrychwch i weld a ydych yn gymwys am gymorth gyda hanfodion ysgol.
Gall plant sy'n derbyn gofal sydd o oedran ysgol gorfodol (Plant sy’n Derbyn Gofal - plant mewn gofal cyhoeddus, sydd wedi'u lleoli gyda gofalwyr maeth, mewn cartrefi preswyl neu gyda rhieni neu berthnasau eraill drwy Ddeddf Llys) fod yn gymwys hefyd.
Diben y Grant Datblygu Disgyblion yw rhoi cymorth ariannol i deuluoedd ar incwm isel i brynu:
- Gwisg ysgol gan gynnwys cotiau ac esgidiau;
- Cit chwaraeon ysgol gan gynnwys esgidiau;
- Gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol, sgowtiaid; geidiaid; cadetiaid; crefftau ymladd; chwaraeon; celfyddydau perfformio neu ddawns;
- Cyfarpar e.e. bagiau ysgol a deunyddiau swyddfa;
- Cyfarpar arbenigol lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau megis dylunio a thechnoleg;
- Cyfarpar ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol fel dysgu yn yr awyr agored e.e. dillad glaw.
- Offer TG - gliniaduron a thabledi yn unig. Bydd angen i chi gadarnhau na all ysgol eich plentyn roi benthyg gliniadur/tabled iddo i'w defnyddio gartref.
Mae cyllid o hyd at £125 ar gael i bob plentyn cymwys, ac eithrio'r rhai ym Mlwyddyn 7 sydd â hawl i £200.