Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2027-2028

Yn yr adran hon



Cyngor Sir Caerfyrddin – Polisi Cludiant Ysgol

Darperir cludiant yn unol â gofynion statudol Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a Pholisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol y Cyngor, sy'n berthnasol i flwyddyn academaidd 2027/28. Mae'r polisi llawn, gan gynnwys meini prawf cymhwysedd manwl a gwybodaeth am geisiadau, ar gael ar wefan y Cyngor.

Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol

Gellir darparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol pan fo dysgwr:

  • yn preswylio fel arfer yn Sir Gaerfyrddin.
  • o oedran ysgol gorfodol.
  • yn mynychu ysgol ddynodedig ei ddalgylch ac yn byw y tu hwnt i'r pellter cerdded statudol o 2 filltir i ddisgyblion cynradd neu 3 milltir i ddisgyblion uwchradd.

Gall y Cyngor hefyd ddarparu cludiant mewn amgylchiadau eraill lle mae hyn yn ofynnol neu'n cael ei ganiatáu o dan y polisi.

Dylai rhieni nodi nad yw dewis ysgol y tu allan i'r dalgylch dynodedig yn creu hawl i gludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol. Fel arfer, cyfrifoldeb y rhiant neu'r gwarcheidwad yw unrhyw drefniadau a chostau cludiant mewn amgylchiadau o'r fath.

Mae'r Cyngor hefyd yn darparu ystod o drefniadau cludiant yn ôl disgresiwn, gan gynnwys cymorth i ddysgwyr ôl-16 cymwys a dysgwyr sy'n mynychu ysgolion ffydd penodol. Mae'r trefniadau hyn yn ddarostyngedig i'r amodau a nodir yn y Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol a gall y Cyngor eu hadolygu.

Ceisiadau

Rhaid cyflwyno ceisiadau am gludiant o'r cartref i'r ysgol ar-lein a byddant yn cael eu hystyried yn unol â Pholisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol y Cyngor.

Mae cymhwysedd yn cael ei asesu ar sail unigol, gan ystyried amgylchiadau'r dysgwr a'r meini prawf a nodir yn y polisi.

Anogir rhieni a gwarcheidwaid i gyflwyno cais cyn gynted â phosibl a, lle bynnag y bo'n ymarferol, o leiaf 15 diwrnod gwaith cyn bod angen cludiant. Efallai y bydd ceisiadau a dderbynnir yn ystod cyfnod trosglwyddo'r haf, rhwng mis Mehefin a mis Medi, yn cymryd mwy o amser i'w prosesu oherwydd y galw cynyddol.

Cynghorir dysgwyr sy'n trosglwyddo o addysg gynradd i addysg uwchradd i gyflwyno cais am gludiant erbyn 1 Ionawr yn y flwyddyn drosglwyddo. Mae cyflwyno cais yn gynnar yn caniatáu digon o amser i drefniadau derbyn i ysgol gael eu cadarnhau ac i gymhwysedd am gludiant gael ei asesu cyn dechrau'r flwyddyn academaidd.

Mae manylion llawn, meini prawf cymhwysedd a gwybodaeth am geisiadau ar gael ar tudalenau Cludiant Ysgol.