Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2027-2028

Yn yr adran hon



Dysgu'r Gymraeg a'r Saesneg yn Ysgolion Sir Gaerfyrddin

Ers Medi 2023 mae categorïau ysgol newydd wedi cael eu cyflwyno yn genedlaethol.

Mae’r ddarpariaeth ieithyddol yn cyplysu’n agos â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Sir; gan gyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050; gwreiddio Maes Dysgu Ieithoedd a Chyfathrebu Cwricwlwm i Gymru a phedwar diben y cwricwlwm lle nodir y bydd disgyblion yn gallu cyfathrebu'n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, gan ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg, yn ogystal â chydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

O ganlyniad, mae disgwyliad clir y bydd pob ysgol yn datblygu darpariaeth a fydd yn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y cwricwlwm ffurfiol a'r cwricwlwm allgyrsiol, er mwyn cyflawni Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 10 mlynedd y Sir, sef cynllun cydnabyddedig, rhwng 2022 a 2032.

Mae'r Awdurdod Lleol a'r ysgolion wedi cytuno ar y categori mwyaf addas yn seiliedig ar y ddarpariaeth gyfredol o'r rhestr newydd ganlynol:

Ysgol Gynradd

Categori 1 - Ysgol Cyfrwng Saesneg

Saesneg yw’r brif iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol yn yr ysgol yn ogystal â chyfathrebu gyda rhieni a gofalwyr. Cydnabyddir y bydd creu ethos Cymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi ac yn annog agweddau cadarnhaol tuag at ddefnydd o'r Gymraeg. Bydd dysgwr mewn ysgol o'r categori hwn yn gallu darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando yn Saesneg yn unol â’i oedran a'i allu, a bydd ganddo rywfaint o ddealltwriaeth o'r Gymraeg. Caiff y Gymraeg ei haddysgu a’i hasesu fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad ar gyfer ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu. Bydd o leiaf 15% o weithgareddau ysgol y dysgwyr (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg.

Categori 2 - Ysgol Dwy iaith

Defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyfathrebu mewnol yn ogystal â chyfathrebu â rhieni a gofalwyr. Mae dealltwriaeth glir y bydd cynnal ethos Cymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi agweddau cadarnhaol tuag at ddefnydd o'r Gymraeg. Bydd dysgwr mewn ysgol o'r categori hwn yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Saesneg ac yn Gymraeg yn unol ag oedran a gallu a'r ffrwd addysg. Bydd sgiliau iaith Gymraeg yn cael eu cryfhau’n bellach drwy gynyddu cyfleoedd dysgu (cwricwlaidd ac allgyrsiol) drwy gyfrwng y Gymraeg. Lle defnyddir y Gymraeg fel cyfrwng dysgu, defnyddir y Saesneg yn achlysurol i atgyfnerthu dealltwriaeth dysgwyr. Gyda'r cymorth cywir, gallai dysgwyr symud ymlaen i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg Categori 3. Bydd o leiaf 50% o weithgareddau ysgol y dysgwyr (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg. Gellid cyflawni hyn mewn gwahanol ffyrdd yn dibynnu ar gyd-destun yr ysgol. Gallai fod drwy ddefnyddio trochi cyfrwng Cymraeg llawn hyd at 7 oed gyda dewis yn cael ei gynnig yn y grwpiau blwydd

Categori 3 - Ysgol Cyfrwng Cymraeg

Cymraeg yw’r brif iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol yn yr ysgol. Mae’n cyfathrebu â rhieni a gofalwyr naill ai yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog yn ôl yr angen. Mae hon yn ysgol sydd ag ethos Cymraeg cadarn, gan gefnogi a galluogi’r dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun cymdeithasol yn yr ysgol a'r tu allan iddi. Mewn lleoliad trochi mae pob dysgwr yn cael ei addysgu'n llawn yn y Gymraeg, gyda’r Saesneg yn cael ei defnyddio ar brydiau i sicrhau dealltwriaeth yn ystod y cyfnod trochi cynnar. O 7 oed ymlaen bydd o leiaf 80% o weithgareddau ysgol y dysgwr (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg. Bydd disgyblion yn dod yn gwbl ddwyieithog.

YSGOL UWCHRADD

Categori 1 - Ysgol Cyfrwng Saesneg

Saesneg yw’r brif iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol yn yr ysgol yn ogystal â chyfathrebu gyda rhieni a gofalwyr. Cydnabyddir y bydd creu ethos Cymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi ac yn annog agweddau cadarnhaol tuag at ddefnydd o'r Gymraeg. Bydd dysgwr mewn ysgol o'r categori hwn yn cael ei addysgu'n bennaf drwy gyfrwng y Saesneg, a bydd yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Saesneg yn unol â’i oedran a'i allu. Caiff y Gymraeg ei haddysgu a’i hasesu fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad ar gyfer ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu. Bydd o leiaf 15% o weithgareddau ysgol y dysgwyr (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg. Bydd dysgwyr yn gallu siarad rhywfaint o'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cyfarwydd ac mewn rhai cyd-destunau pwnc gan ddefnyddio termau a geirfa sy'n benodol i bwnc yn dibynnu ar feysydd y cwricwlwm a ddarperir yn y Gymraeg.

Categori 2 - Ysgol Dwy iaith

Defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyfathrebu mewnol yn ogystal â chyfathrebu â rhieni a gofalwyr. Mae dealltwriaeth glir y bydd cynnal ethos Cymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi agweddau cadarnhaol tuag at ddefnydd o'r Gymraeg. Bydd dysgwr mewn ysgol o'r categori hwn yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Saesneg ac yn Gymraeg yn unol â’i oedran a'i allu. Bydd sgiliau iaith Gymraeg yn cael eu cryfhau’n bellach drwy gynyddu cyfleoedd dysgu (cwricwlaidd ac allgyrsiol) drwy gyfrwng y Gymraeg. Gan ddibynnu ar faint o amser a neilltuir i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a defnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth, byddai dysgwyr yn gallu defnyddio eu sgiliau Cymraeg mewn ystod o wahanol Feysydd Dysgu a Phrofiad. Bydd o leiaf 40% o ddysgwyr yn ymgymryd ag o leiaf 40% o weithgareddau ysgol (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg.

Categori 3 - Ysgol Cyfrwng Cymraeg

Mae ysgolion yn y categori hwn wedi'u rhannu'n ddwy ran: Categori 3 Cyfrwng Cymraeg a Chategori 3P Cyfrwng Cymraeg penodedig.

Ar gyfer pob ysgol yn y categori hwn, y Gymraeg yw’r brif iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol. Bydd yr ysgol yn cyfathrebu â rhieni a gofalwyr naill ai yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog yn ôl yr angen. Mae'r rhain yn ysgolion sydd ag ethos Cymraeg cadarn, gan gefnogi a galluogi’r dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun cymdeithasol yn yr ysgol a'r tu allan iddi. Bydd dysgwr yn y categori ysgol hwn yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Saesneg ac yn Gymraeg yn unol â’i oedran a'i allu.

Bydd ysgol Categori 3 – Ysgol Cyfrwng Cymraeg yn cynnig ystod eang o'u Meysydd Dysgu a Phrofiad drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd o leiaf 60% o ddysgwyr sy'n ymgymryd ag o leiaf 70% o'u gweithgareddau ysgol (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg. Bydd disgwyl i bob ysgol Categori 3 barhau i adlewyrchu cyd-destun ieithyddol yr ardal tra'n gweithio tuag at gynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser.

Bydd Ysgol Categori 3P – Ysgol Cyfrwng Cymraeg Penodedig – yn cyflwyno pob Maes Dysgu a Phrofiad (Maes) drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd 100% o ddysgwyr yn ymgymryd ag o leiaf 90% o'u gweithgareddau ysgol (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg.

Is-gategorïau Trosiannol T2 a T3

Categorïau pontio yw’r rhain rhwng dau brif gategori iaith. Mae’r trefniadau pontio hyn yn galluogi ysgolion i gynllunio sut y byddant yn cynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser. Cynyddu’r ddarpariaeth o’r Gymraeg, a hynny er mwyn symud i’r categori nesaf, yw nod yr is-gategorïau trosiannol. Felly, mae T2 yn pontio ysgol categori 1 a 2, gyda’r nod o ddod yn gategori 2 o fewn cyfnod o 10 mlynedd ac mae T3 yn pontio ysgol categori 2 a 3 gyda'r nod o ddod yn ysgol categori 3 o fewn gyfnod o 10 mlynedd.

Nid yw byth yn rhy hwyr i ddewis addysg cyfrwng Cymraeg

Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn helpu plant i ddod yn siaradwyr dwyieithog hyderus, sy'n gallu cyfathrebu a ffynnu yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae ymchwil yn dangos nad yw dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhwystro datblygiad o ran y Saesneg; yn hytrach, mae'n rhoi sgiliau iaith gwerthfawr i blant sy’n gallu bod o fudd iddynt drwy gydol eu hoes.

Addysg Ddwyieithog

Ar gyfer teuluoedd sy'n ystyried addysg cyfrwng Cymraeg i blant hŷn neu deuluoedd sy'n symud i Sir Gaerfyrddin, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnig Canolfannau Trochi yn y Gymraeg i ddisgyblion Blynyddoedd 2–6 sy'n newydd i addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'r canolfannau hyn yn darparu cymorth Cymraeg dwys mewn amgylchedd croesawgar a meithringar, gan helpu plant i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn gyflym ac yn hyderus cyn dychwelyd i'w hysgol Gymraeg leol.

Mae'r rhaglen drochi wedi'i chynllunio i helpu disgyblion i gaffael y Gymraeg yn naturiol trwy weithgareddau diddorol, gan fagu hyder mewn siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Mae plant yn cael eu cefnogi bob cam o'r ffordd, gan sicrhau proses bontio hwylus i addysg cyfrwng Cymraeg a'u galluogi i gymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol.

Mae dewis addysg cyfrwng Cymraeg yn agor drysau i ddwyieithrwydd, cyfle a hyder ynghyd ag ymdeimlad o berthyn.

I gael rhagor o wybodaeth am Ganolfannau Trochi yn y Gymraeg Sir Gaerfyrddin, ewch i'r tudalen we.

Ffeithiau Allweddol

  • Byddwch yn ymwybodol o gategori Cymraeg yr ysgol rydych chi wedi’i dewis. Addysg cyfrwng Cymraeg yw'r ffordd fwyaf llwyddiannus o sicrhau disgyblion dwyieithog.

Crynodeb Allweddol – Derbyn i'r ysgol uwchradd a'r chweched dosbarth

Disgwylir y byddai disgyblion sydd wedi mynychu addysg gynradd cyfrwng Cymraeg yn trosglwyddo i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ac yn parhau â'u llwybr ieithyddol.