Cynllun Datblygu Lleol 2006 - 2021
Diweddarwyd y dudalen ar: 15/01/2025
Cafodd Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin (CDLl) ei fabwysiadu yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 10 Rhagfyr 2014. Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn cyflwyno’r weledigaeth ofodol ar gyfer dyfodol Sir Gaerfyrddin (ac eithrio'r ardal honno sydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) a fframwaith ar gyfer dosbarthu a darparu twf a datblygiad.
Mae'n amlinellu'r cynigion a'r polisïau cynllunio defnydd tir a ddefnyddir wrth benderfynu ar geisiadau gynllunio ac wrth lywio cyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer buddsoddi a thwf. Mae'r polisïau hyn yn cynnwys dyraniadau tir ar gyfer y gwahanol fathau o ddatblygiadau (h.y. tai, cyflogaeth, adwerthu, addysg, mannau agored ac ati) yn ogystal â'r meini prawf ar gyfer asesu cynigion unigol. Mae'r Cynllun yn cael effaith uniongyrchol ar fywyd pob un sy'n byw yn y Sir ac mae iddo hefyd oblygiadau mawr i raglenni buddsoddi, strategaethau a chynlluniau eraill, cymunedau a pherchenogion tir.
Bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn llywio'r datblygu tan 2021 a chaiff ei fonitro'n unol â'r fframwaith monitro a'i adolygu o dro i dro. Mae'r Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig yn disodli'r Cynllun Datblygu Unedol.
Llyfrgell yr Archwiliad ar Newidiadau yn sgil materion sy'n codi
Roedd Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd yn ddogfen ymgynghori (Mehefin 2014) a nodai nifer o newidiadau arfaethedig oedd wedi codi yn ystod sesiynau gwrandawiad yr archwiliad. Mae'r newidiadau a gynigir yn ymwneud ag elfennau o ddatganiad ysgrifenedig y Cynllun Datblygu Lleol a'r map cynigion ac maent wedi eu gosod yn y Rhestr Newidiadau yn sgil Materion sy’n Codi ac ar gael i’w gweld yn y dogfennau canlynol:
- Yr Hysbysiad Cyflwyno Ffurfiol (36KB, pdf)
- Rhestr o ddogfennau ar gyfer yr Archwiliad (501KB, pdf)
- Dogfennau cyn-wrandawiad (212KB, pdf)
- Dogfennau Cyffredinol yr Archwiliad (226KB, pdf)
- Dogfennau y gwrandawiadau (739KB, pdf)
- Llyfrgell gyflawn y CDLl (1MB, pdf)
- Rhestr Newidiadau yn sgil Materion sy’n Codi – Datganiad Ysgrifenedig.pdf (2MB, pdf)
- Rhestr Newidiadau yn sgil Materion sy’n Codi - Datganiad Ysgrifenedig Atodiad 7- Fframwaith Monitro.pdf (1008KB, pdf)
- Rhestr Newidiadau yn sgil Materion sy’n Codi – Map Cynigion a Rhanfapiau.pdf (21MB, pdf)
- Atodiad I’r Atodlen Ynghylch Y Newidiadau Yn Sgil Materion Sy’n Codi.pdf (1MB, pdf)
- Atodiad I’r Atodlen Ynghylch Y Newidiadau Yn Sgil Materion Sy’n Codi - MAC31 & MAC32.pdf (766KB, pdf)
Dogfennau mabwysiedig
- Y Datganiad Mabwysiadu.pdf (864KB, pdf)
- Y Mabwysiadu – Hysbysiad Cyhoeddus (329KB, pdf)
- Yr Arfarniad Cynaliadwyedd.pdf (2MB, pdf)
- Yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd - Cyfres 1 – Y Prif Destun.pdf (1MB, pdf)
- Yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd - Cyfres 2 – Y Ffigurau .pdf (23MB, pdf)
- Yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd - Cyfres 3 – Atodiadau.pdf (4MB, pdf)
- Llythyr eglurhaol Adroddiad yr Arolygydd (266KB, pdf)
- Adroddiad yr Arolygydd Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin (596KB, pdf)
- Adroddiad yr Arolygydd: Atodiad A – Y newidiadau a gynigiwyd gan y Cyngor ac a argymhellwyd gan yr Arolygydd – Datganiad Ysgrifenedig, Atodiad 1 ac Atodiad 2.pdf (1MB, pdf)
- Adroddiad yr Arolygydd: Atodiad B – Y newidiadau a gynigiwyd gan y Cyngor ac a argymhellwyd gan yr Arolygydd – Rhestr Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd (MACs), Atodiad 7- Fframwaith Monitro MAC157 .pdf (361KB, pdf)
- Adroddiad yr Arolygydd: Atodiad C2 – Canolfannau Gwasanaeth, Canolfannau Gwasanaethau Lleol.pdf (2MB, pdf)
- Adroddiad yr Arolygydd: Atodiad C1 – Ardaloedd Twf .pdf (1MB, pdf)
- Adroddiad yr Arolygydd: Atodiad C3 – Cymunedau Cynaliadwy.pdf (5MB, pdf)
- Adroddiad yr Arolygydd: Atodiad C4 – Y Map Cynigion.pdf (3MB, pdf)
- Adroddiad yr Arolygydd: Atodiad D – Y Newidiadau a Argymhellwyd gan yr Arolygydd (66KB, pdf)
Mae rhagor o fanylion am y camau canlynol yn y broses CDLl: Newidiadau Canolbwyntiedig, Safleoedd amgen, Y Fersiwn Adneuol o'r Cynllun Datblygu Lleol (gan gynnwys sylwadau a gymeradwywyd yn y Cyngor Sir - 12 Mehefin 2013), Asesu Safleoedd, Arfarniad Cynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gael trwy e-bostio’r adain Blaen-gynllunio ar blaen.gynllunio@sirgar.gov.uk neu drwy ffonio 01267 228818.