Cyflogaeth Plant ac Adloniant
Diweddarwyd y dudalen ar: 22/11/2024
Mae'n bosibl y bydd angen Trwydded Perfformiad Plant a Hebryngwr Trwyddedig ar blant sy'n ymwneud ag adloniant (boed yn broffesiynol neu'n amatur). Mae hyn yn cael ei reoleiddio o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933/63 a Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015.
Diben y gofynion hyn yw sicrhau nad yw'r 'gwaith' yn niweidiol i les ac addysg y plentyn. Ceir Hawlenni Gwaith Cyflogaeth Plant drwy'r Awdurdod Lleol lle bydd "Cyflogaeth yn digwydd"
Cyflogaeth Plant
Gwaith rhan-amser
Yr oedran ieuengaf y caiff plentyn weithio'n rhan-amser yw 13 oed, ac eithrio plant sy'n gweithio mewn meysydd fel:
- teledu
- theatr
- modelu
Bydd angen trwydded perfformiad ar blant sy'n gweithio yn y meysydd hyn.
Gwaith llawn amser
Dim ond pan fyddant wedi cyrraedd yr oedran ieuengaf ar gyfer gadael yr ysgol y caiff plant ddechrau gweithio'n llawn amser - wedyn cânt weithio hyd at 40 awr yr wythnos.
- Pan fydd rhywun yn cyrraedd 16 oed, efallai y bydd angen i chi ei dalu drwy PAYE.
- Pan fydd rhywun yn cyrraedd 18 oed, mae rheolau a hawliau cyflogaeth oedolion yn berthnasol.
Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gynnal y digwyddiad wneud cais i gyngor lleol y plentyn am drwydded perfformiad plant. Gofynnwch i ni os nad ydych yn siŵr a oes angen trwydded arnoch.
Trwydded Perfformiad Plant
Efallai y bydd angen trwydded ar blentyn os yw o dan oedran gadael yr ysgol ac yn cymryd rhan yn y canlynol:
- ffilmiau, dramâu, cyngherddau neu berfformiadau cyhoeddus eraill y mae'r gynulleidfa'n talu i'w gweld, neu sy'n cael eu cynnal ar safle trwyddedig.
- unrhyw ddigwyddiadau chwaraeon neu waith modelu lle mae'r plentyn yn cael ei dalu.
Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gynnal y digwyddiad wneud cais i gyngor lleol y plentyn am drwydded perfformiad plant. Gofynnwch i ni os nad ydych yn siŵr a oes angen trwydded arnoch.
Goruchwylio'r plentyn
Os na fydd y plentyn gyda'i riant, athro/athrawes ysgol neu diwtor cartref, rhaid iddo gael ei oruchwylio gan hebryngwr sydd wedi'i gymeradwyo gan y cyngor. Gall hebryngwyr wneud cais am gael eu cymeradwyo gan y cyngor.
I gael unrhyw wybodaeth neu ganllawiau mewn perthynas â Thrwyddedu Plant, cysylltwch â'r Tîm Lles Addysg drwy anfon e-bost i EducationWelfare@sirgar.gov.uk. Bydd Swyddog Dyletswydd yn ymateb i'ch ymholiad cyn pen 5 diwrnod gwaith.