Trwyddedu perfformiad plant

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023

Canllaw Perfformiad Plant

Mae'r Gwasanaeth Lles Addysg yn dilyn y canllaw "Cadw Perfformwyr Ifanc yn Ddiogel" gan Lywodraeth Cymru (Hydref 2015). Mae nifer o blant yn mwynhau perfformio, boed hynny mewn dramâu, ffilmiau, hysbysebu neu ar y teledu ac mae rhieni yn mwynhau eu cefnogi. Fodd bynnag, mae cyfreithiau'n bodoli sydd wedi'u cynllunio i amddiffyn lles eich plentyn a'u rhwystro rhag cael eu camddefnyddio. Rhaid i'r Awdurdod Addysg Lleol fod yn fodlon â'r canlynol:

  • Ni fydd addysg eich plentyn yn dioddef
  • Ni fydd iechyd eich plentyn yn dioddef
  • Mae lleoliad y perfformiad / ymarfer yn foddhaol
  • Bydd amodau'r drwydded yn cael eu gwirio

Mae gan yr AALl bŵer i wrthod trwydded os nad yw'r uchod yn cael eu bodloni.

Pryd mae angen trwydded ar blentyn i berfformio?

Mae angen trwydded arno o'i enedigaeth i'w oedran gadael ysgol - dydd Gwener olaf ym mis Mehefin y flwyddyn ysgol pan fydd plentyn yn cyrraedd ei ben-blwydd yn 16 oed.

Bydd angen i'r person sy'n gyfrifol am gynhyrchu'r perfformiad wneud cais am drwyddedau perfformio ar gyfer plant sy'n cymryd rhan yn y categorïau canlynol:

  • Darllediad byw neu berfformiad sy'n cael ei recordio, megis rhaglen deledu neu radio neu ffilm.
  • Perfformiad theatr lle codir tâl.
  • Unrhyw berfformiad ar safle trwyddedig.
  • Plant sy'n modelu ffasiynau a chwaraeon lle mae'r plentyn neu unrhyw berson arall yn cael ei dalu, heblaw am daliad ar gyfer costau. Rhaid anfon y cais atom a byddwn yn prosesu'r cais.

Pryd nad oes angen trwydded ar blentyn i berfformio?

  • Os yw'r plentyn yn perfformio am 4 diwrnod yn unig mewn unrhyw gyfnod o 6 mis ac nid oes angen amser i ffwrdd o'r ysgol arnynt i gymryd rhan yn y perfformiad.
  • Os yw plentyn yn cymryd rhan ym mherfformiad ei ysgol amser llawn, ysgol addysgol yw hon nid ysgol ddawns.
  • Perfformiadau sy'n cael eu cynnal gan grŵp o bobl, mae hyn yn golygu nad oes angen trwydded ar gyfer pob plentyn unigol.
  • Unrhyw weithgaredd nad yw'n cael ei ystyried gan yr awdurdod lleol fel perfformiad, megis plentyn yn cael ei gyfweld neu'i ffilmio tra ei fod yn cymryd rhan mewn gweithgaredd arferol na drefnwyd yn benodol ar gyfer hynny, megis gwneud gwaith dosbarth, chwarae yn y parc.
  • Os yw'r gweithgaredd yn cael ei gyfarwyddo mewn unrhyw ffordd gall gael ei adolygu a'i newid i berfformiad.

Os nad yw Trwydded Perfformiad Plant yn ofynnol, rydym yn dal i ofyn i drefnwr y perfformiad / sioe gofrestru'r holl blant sy'n cymryd rhan.

Mae angen hebryngwr os yw rhiant neu athro/athrawes y plentyn yn methu â goruchwylio'r plentyn drwy gydol y perfformiad, yr ymarfer neu'r gweithgaredd.

Mae angen anfon y ffurflen gais gyflawn ynghyd â 2 lun maint pasbort gyda'ch enw wedi'i ysgrifennu arno at y cyfeiriad canlynol: Trwyddedu Plant, D/O Jericho San-Juan, Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion, 2il Lawr, Tŷ Elwyn, Llanelli, SA15 3AP.

Nodwch: mae cyfnod dosbarthu o 21 diwrnod ar gyfer pob Cais am Drwydded Perfformio Plant. Bydd y cyfnod hwn yn dechrau o'r dyddiad y derbynnir yr holl ddogfennau sy'n ofynnol.

Gwnewch gais am drwydded perfformio i blant (.pdf)