Am fod yn Ofalwr Cyfnod Byr /Gofalwr Gofal Seibiant

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023

Ystyr Gofal Seibiant Byr yw cynnig gofal seibiant yn eich cartref i blant a phobl ifanc ag anableddau dysgu ac anghenion ychwanegol ac unigolion ag ymddygiad mwy heriol neu rai ag anghenion meddygol a/neu gorfforol. Nod Gofal Seibiant Byr yw ysgafnhau'r baich ar deuluoedd drwy gynnig profiadau newydd i blant/pobl ifanc ag anabledd a chyfle iddynt wneud ffrindiau newydd a chreu perthnasoedd newydd. 

Mae Gofal Seibiant Byr yn helpu i hyrwyddo hunan-barch ac annibyniaeth plentyn neu berson ifanc. Cynigir Gofal Seibiant Byr i wahanol blant a phobl ifanc ag anableddau dysgu rhwng 0 a 18 mlwydd oed am o leiaf 4 noson y mis. Mae'n bosibl y bydd ymweliad yn para noson yn unig neu ddwy noson yn olynol. 

Gall unrhyw un fod yn Ofalwr Seibiant Byr ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anableddau. Mae Gofal Seibiant Byr yn gallu bod yn addas i bobl sy'n methu â chynnig gofal amser llawn.

Mae Sir Gaerfyrddin yn cydnabod cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydym yn ystyried pob ymgeisydd. Os ydych yn sengl, yn ddi-waith, yn anabl, yn hoyw, yn lesbiad, yn 40 oed neu'n hŷn, heb fod yn berchen ar eich cartref eich hun.

Bydd angen ystafell sbâr arnoch, amser, amynedd, goddefgarwch, ac egni. Mae'n rhaid ichi allu rhannu eich cartref a'ch bywyd gydag eraill.

Mae Gofal Seibiant Byr yn golygu gweithio fel rhan o dîm o bobl i ofalu am blentyn neu berson ifanc ag anabledd. Nid yw'n waith y gallwch ei wneud ar eich pen eich hun. Mae'n effeithio ar eich teulu a'ch ffrindiau agos.

Os oes gennych blant meddyliwch yn ofalus sut y byddant yn dygymod â'ch rhannu chi, eu cartref a'u heiddo. Os oes gennych bartner mae'n rhaid i'r ddau ohonoch fod eisiau cynnig Seibiannau Byr.

Ni chewch fod yn Ofalwr Seibiant Byr os oes gennych gofnod o droseddu yn erbyn plant. Nid yw collfarnau blaenorol yn golygu na chewch chi fod yn Ofalwr Seibiant Byr, ond mae'n rhaid inni ystyried a all hyn effeithio ar eich gallu i ddarparu gofal priodol.

Nid mater o roi yn unig yw gofal seibiant byr; byddwch chithau ar eich ennill yn sgil y profiad.

Byddwch yn gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn, yn gweld ei hyder a'i hunan-barch yn datblygu. Fel Gofalwr Seibiant Byr byddwch hefyd yn helpu i gynnig ysbaid i'r rhieni a'r brodyr neu chwiorydd a chyfle iddynt gael eu gwynt atynt.

  • Ni fyddwch ar eich pen eich hun. Byddwch chi'n cael Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol i'ch tywys a'ch cefnogi.
  • Byddwch yn cael ymweliadau rheolaidd a hyfforddiant; bydd gweithiwr cymdeithasol y plentyn yn ymweld yn rheolaidd hefyd.
  • Cewch fynd i gyfarfodydd grŵp cymorth a chael cymorth ychwanegol gan fentor sy'n gyfrifol am gefnogi gofalwyr sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag anableddau.
  • Byddwn yn rhoi cymorth ariannol i chi sef lwfans i dalu am gostau gofalu am blentyn o ddydd i ddydd; cewch ragor o fanylion pan fyddwn yn ymweld â chi yn eich cartref.

Os ydych chi'n penderfynu yr hoffech fod yn ofalwr seibiant byr neu os byddech yn hoffi cael rhagor o wybodaeth, byddwn yn trefnu ymweld â chi yn eich cartref.

Yn ogystal, byddwn yn gofyn cwestiynau am eich cefndir, sgiliau a phrofiad a'ch rhesymau dros ddymuno bod yn ofalwr seibiant byr.

Yn dilyn ein hymweliad, byddwn ni'n penderfynu gyda'n gilydd a ydych chi'n barod i gyflwyno cais i fod yn ofalwr seibiant byr.

Os ydych, byddwn yn eich gwahodd i hyfforddiant paratoi. Bydd y sesiynau hyn yn gyfle ichi ddysgu mwy am seibiannau byr yng nghwmni pobl eraill sy'n debyg i chi ac yn gobeithio bod yn ofalwyr seibiant byr. Dylai hyn roi digon o wybodaeth ichi i benderfynu a ydych am fwrw ymlaen â'ch cais.

Ar ôl ichi gael yr hyfforddiant paratoi bydd Gweithiwr Cymdeithasol yn ymweld yn gyson â chi a'ch teulu am gyfnod o dri neu bedwar mis ac yn cwblhau adroddiad asesu.

Bydd gofyn i chi gael archwiliad meddygol gan eich meddyg teulu ac hefyd bydd angen o leiaf ddau eirda personol ac archwiliad iechyd a diogelwch o'ch cartref. Byddwn yn cynnal archwiliadau gyda'r heddlu ac ardaloedd eraill lle buoch yn byw.

Yna bydd y Gweithiwr Cymdeithasol yn ysgrifennu adroddiad gan argymell cymeradwyo neu beidio â chymeradwyo eich cais i fod yn Ofalwr Seibiant Byr. Bydd cyfle ichi ddarllen yr adroddiad a dweud a ydych yn cytuno ag ef neu beidio.

Cewch eich gwahodd i ddod gerbron panel sy'n cynnwys pobl sy'n arbenigo yn y maes. Byddant yn penderfynu a fyddwch yn cael eich derbyn yn ofalwr seibiant byr neu beidio. Bydd y panel yn anfon y penderfyniad ysgrifenedig atoch.

Bydd y Tîm Seibiannau Byr yn sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth am y polisïau a'r gweithdrefnau, addysg a phopeth sydd ei angen arnoch i'ch paratoi i fod yn Ofalwr Seibiant Byr.

Byddwn yn trefnu ichi ddechrau gofalu am blentyn trwy broses gyflwyno a chynllunio.

Mae pob Gofalwr Seibiant Byr yn cael hyfforddiant rheolaidd er mwyn sicrhau bod y wybodaeth a'r sgiliau ganddynt i ddiwallu anghenion y plant a'r bobl ifanc yn eu gofal. Cewch wahoddiad i wahanol ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddiant i'ch paratoi â'r sgiliau angenrheidiol.