Bod yn warchodwr plant

Diweddarwyd y dudalen ar: 22/10/2024

A allech chi gynnig aelwyd ofalgar a fydd yn ysbrydoliaeth i blant? A ydych chi am ddilyn gyrfa sy'n rhoi boddhad i chi? A hoffech chi weithio gartref? A hoffech chi gael cymorth a chefnogaeth i ddechrau eich busnes eich hun?

Mae gwarchod plant yn yrfa sy'n rhoi boddhad mawr i'r rheiny sy'n mwynhau gweithio gyda phlant ac sy'n frwdfrydig iawn dros roi'r cychwyn gorau mewn bywyd i blant. Mae gwarchod plant yn yrfa ddelfrydol i bobl sydd am gael swydd a fydd yn cyd-fynd â'u hymrwymiadau teuluol ond a fydd hefyd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i deuluoedd eraill drwy roi cyfle i rieni ddychwelyd i'r gwaith, hyfforddiant neu addysg.

Er y bydd pob dydd fel gwarchodwr plant yn amrywio, gallai diwrnod arferol gynnwys:

  • mynd â'r plant allan i'r awyr agored yn y gymuned leol - i barciau, cylchoedd chwarae, llyfrgelloedd neu i gwrdd â gwarchodwyr plant eraill neu i gasglu plant o'r ysgol.
  • darparu gweithgareddau dysgu creadigol, cyffrous ac ysgogol i blant.
  • cefnogi dysgu plant drwy arddel egwyddorion y Cyfnod Sylfaen yng Nghymru.

Os ydych yn darparu gofal plant am dâl ar gyfer plant dan 8 oed, am fwy na dwy awr y dydd, yn ôl y gyfraith mae'n rhaid ichi gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Cyn ichi allu cofrestru, bydd angen ichi gwblhau'r canlynol:

  • cwrs gorfodol mewn gofal plant yn y cartref,
  • hyfforddiant cymorth cyntaf
  • Ffurflen gais i AGC
  • Polisïau a gweithdrefnau

Yn ogystal bydd angen ichi:

  • dangos eich bod yn gallu cyrraedd y safonau gofynnol a bennwyd.
  • cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • cael archwiliad o'ch cartref er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn addas ar gyfer gofalu am blant.

Os ydych yn byw mewn llety sy'n cael ei rentu, bydd angen ichi gael caniatâd ysgrifenedig gan eich landlord. Bydd AGC yn pennu uchafswm nifer y plant y cewch ofalu amdanynt ar unrhyw adeg, sef hyd at chwech o blant dan 8 oed, ac fel arfer ni chaiff mwy na thri o'r plant hyn fod o dan oedran ysgol. Bydd y niferoedd hyn yn cynnwys eich plant eich hun os oes rhai gennych.

Mae'r Gwybodaeth Teuluoedd, Gofal Plant a Chwarae yn rhoi arweiniad, cyngor personol, cymorth a mentora parhaus i'ch helpu i gofrestru gyda'r AGC, yn ogystal â darparu amrywiaeth eang o gyrsiau hyfforddiant a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i warchodwyr plant. Mae'n bosibl y byddwch yn gymwys i gael grant cychwyn a fydd yn cynnwys:

You may be entitled to a start up grant which will include:

  • Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus am flwyddyn
  • Hyfforddiant angenrheidiol
  • Pecyn busnes a fydd yn eich helpu i ddechrau eich gwasanaeth gwarchod plant eich hun.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant, pecynnau cyllido neu sut mae cychwyn y broses gofrestru neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â'r Gwybodaeth Teuluoedd, Gofal Plant a Chwarae drwy ffonio 01267 246555.