Gadael Gofal: Gwasanaethau'r Cam Nesaf

Diweddarwyd y dudalen ar: 17/01/2024

Os ydych wedi bod yn ein gofal, gallech fod yn gymwys i dderbyn gwasanaethau Gadael Gofal. Pan fyddwch yn 16 oed, byddwch yn cael Ymgynghorydd Personol a fydd yn eich helpu i gael mynediad i wasanaethau cymunedol ehangach a symud ymlaen i fyw'n annibynnol. Bydd eich Ymgynghorydd Personol yn eich cefnogi chi hyd nes eich bod yn 21 oed neu'n 25 oed dan rai amgylchiadau.

Rydym yma i'ch helpu hyd nes eich bod yn 25 oed, anfonwch e-bost atom a byddwn yn cysylltu â chi. Os oes angen cymorth arnoch ar frys, ffoniwch 0300 333 2222 (ar gael 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos). Os ydych mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu ar unwaith drwy ffonio 999.

Dyma rai o'r pethau y gall eich ymgynghorydd eich helpu chi â nhw pan fyddwch yn gadael gofal:

  • Addysg, Hyfforddiant a Chyflogaeth
  • Trafod unrhyw bryderon sydd gennych ynghylch eich iechyd meddwl
  • Cymorth Tai a Thenantiaeth
  • Cyngor ynghylch rheoli eich arian a chynllunio'ch cyllideb wythnosol
  • Rhianta Cadarnhaol
  • Bwyta'n Iach
  • Mynediad i Wasanaethau Iechyd: Meddyg Teulu, Deintydd, Optegydd
  • Sgiliau Byw'n Annibynnol
  • Gwersi Gyrru
  • Sut i gofrestru ar gyfer trydan, nwy neu ddŵr
  • Teithio a Thrafnidiaeth
  • Cysylltu â theulu
  • Perthnasoedd Iach, Iechyd Rhywiol ac Atal Cenhedlu
  • Cymorth i wneud cais am fudd-daliadau y gallech fod yn gymwys i'w cael megis Credyd Cynhwysol, Budd-dal Tai neu Ostyngiadau'r Dreth Gyngor.
  • Cymorth gyda chyllid blaenoriaeth ar gyfer coleg neu brifysgol

Os ydych yn cael anhawster fforddio bwyd, gallwch ddefnyddio banc bwyd. Mae banc bwyd fel arfer yn cyflenwi eitemau sylfaenol megis tuniau, jariau a grawnfwydydd, a chaiff y rhain eu darparu am ddim i bobl mewn angen. Rhowch wybod i'ch Ymgynghorydd Personol neu weithiwr cymdeithasol os ydych yn cael trafferth fforddio bwyd a byddant yn rhoi taleb i chi. Bydd y daleb hon yn eich galluogi i gael parsel bwyd a fydd yn darparu o leiaf tri phryd o fwyd iach a chytbwys.