Beth yw amcanion y Prosiect Llety â Chymorth?

 

Recriwtio unigolion neu deuluoedd sy’n dymuno lletya pobl ifanc i’w helpu i ddatblygu’r sgiliau bywyd sydd eu hangen arnynt fel oedolion ifanc annibynnol.
Cynnig pont rhwng gofal/cymorth a byw’n annibynnol i bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed sydd wedi bod mewn gofal ac sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.
Cynnig amgylchedd diogel a sicr i bobl ifanc sy’n gymwys i gael mynediad i’r prosiect fel y gallant barhau i weithio/dysgu heb orfod byw’n annibynnol cyn eu bod yn barod.
Byddai llety â chymorth ar gael i’r rhai 16+ oed sydd yn y broses o adael gofal, mewn perygl o fod yn ddigartref neu’n ddigartref ac sydd ag anghenion penodol neu sydd angen lefel uwch o gymorth.
Defnyddir y prosiect hefyd i hwyluso’r broses o ymestyn rhai lleoliadau maeth ar ôl 18 oed.