Dod yn ddarparwr Llety â Chymorth
Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023
Allech chi rymuso a chefnogi pobl ifanc sy’n ddigartref, sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, sy’n derbyn gofal neu sy’n ceisio lloches ar eu taith i fyw’n annibynnol?
Mae llety â chymorth yn unigolion/teuluoedd cymeradwy sy’n dymuno darparu cymorth i bobl ifanc 16+. Y nod yw grymuso’r person ifanc i barhau i ddatblygu ei sgiliau mewn amgylchedd cefnogol.
Mae darparwr Llety â Chymorth yn cynnig ystafell yn eu cartref. Bydd y darparwyr yn darparu ystafell, brecwast, pryd nos ac yn gweithio gyda’r person ifanc i’w helpu i ddatblygu sgiliau annibynnol fel coginio a chyllidebu.
Mae angen llety yn Sir Gaerfyrddin. Bydd angen ei ystafell ei hun ar y person ifanc a gwely a lle storio ar gyfer dillad ac eiddo arall. Bydd angen mynediad i gegin ac ystafell ymolchi, a’r ystafelloedd byw, er y gellir rhannu’r rhain ag aelodau eraill o’r cartref.
Dylai’r person ifanc deimlo’n “gartrefol” yn y llety a dylai allu gwahodd ffrindiau/teulu ar adegau rhesymol a thrwy gytundeb â chi. Mae’n rhaid i ddarparwr y llety roi ei allwedd drws ffrynt ei hun i’r person ifanc.
Ni fwriedir i’r person ifanc ddod yn ‘rhan o’r teulu’. Yn hytrach, mae’r person ifanc yn cael ei annog i fod yn annibynnol.
Gall hyn amrywio ond mae disgwyl i’r rhan fwyaf o leoliadau bara o chwe mis i ddwy flynedd. Pan ddaw lleoliad i ben, efallai yr hoffech gymryd seibiant, neu efallai y byddwch am ddod ar gael ar unwaith ar gyfer lleoliad newydd.
Mae cyfnod hysbysu 28 diwrnod os ydych yn teimlo nad yw'r rôl bellach yn addas i chi na'r lleoliad (oni bai bod mater diogelu brys).
Byddai angen rhybudd o 28 diwrnod ar gyfer bob gwyliau hefyd.
Bydd gofynion cymorth yn amrywio rhwng pobl ifanc. Mae’n ddefnyddiol cadw mewn cof mai nod hirdymor darparu cymorth yw galluogi datblygiad personol y person ifanc a’i baratoi i fyw’n annibynnol.
Bydd y darparwr llety â chymorth yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â gofal a chymorth y person ifanc i sicrhau bod y person ifanc yn ganolog i unrhyw gymorth a chynllunio gofal gyda’r nod o rymuso’r person ifanc i gyflawni’r canlyniadau cadarnhaol gorau ar gyfer ei ddyfodol.
Mae angen i gymorth nodweddiadol gynnwys
- Cyngor ynghylch cyllidebu a budd-daliadau
- Cyngor a chymorth o ran siopa bwyd a choginio
- Cyfarwyddyd ar gyfer defnyddio offer cartref yn ddiogel
- Cymorth i drefnu a chadw apwyntiadau
- Cymorth i gynnal presenoldeb mewn hyfforddiant, coleg neu waith
- Cymorth o ran cynnal a meithrin perthnasau gyda theulu/ffrindiau/cymdogion
- Cymorth o ran rheoli ymwelwyr
- Cymorth i gynnal diogelwch y tŷ
- Anogaeth i gydymffurfio â “rheolau tŷ”
- Sgwrsio a darparu “clust i wrando”
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd
- Cymudo/cofnodi parhaus ynghylch gwybodaeth angenrheidiol yn ymwneud â’r person ifanc a’r lleoliad.
Nid oes angen i gymorth gael ei strwythuro na’i amserlennu’n ffurfiol, ond mae’n bwysig i’r person ifanc wybod bod cymorth ar gael pan fo angen. Mae anghenion cymorth yn debygol o fod ar eu huchaf yn yr wythnosau cynnar, pan fydd y person ifanc a’r darparwr yn dod i adnabod ei gilydd.
- Dylai’r person ifanc gymryd rhan mewn cynllunio a thrafodaethau am y lleoliad fel y gellir trafod contract ynghylch rheolau’r tŷ a safonau ymddygiad cytûn cyn i’r person ifanc symud i mewn.
- Dylai’r person ifanc barchu “rheolau’r tŷ” fel y cytunwyd.
- Dylai’r person ifanc drin yr eiddo a’i gynnwys â pharch a dylai roi ystyriaeth i ddiogelwch yr eiddo.
- Dylai’r person ifanc gymryd cyfrifoldeb am ei ymddygiad y tu mewn a’r tu allan i gartref y darparwr.
- Os yw’r person ifanc yn cael anawsterau yn y lleoliad, dylai roi gwybod i’r darparwr neu’r gweithiwr cymorth.
Cyn gofyn i chi fynd â pherson ifanc i mewn i’ch cartref, byddwn yn cynnal asesiad lle byddwch yn cael y cyfle i archwilio’r math o berson ifanc a fyddai’n addas i’ch cartref.
Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi am unrhyw feysydd risg i’ch teulu ar yr adeg hon. Chi sy’n dewis lletya’r person ifanc ai peidio.
Ar ôl i’r person ifanc symud i mewn, bydd y Tîm SPL yn gwirio ac yn gwneud apwyntiadau rheolaidd i gwrdd â’r person ifanc ynghyd ag unrhyw weithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn ymwneud â gofal a chymorth y person ifanc.
Mae’r Tîm SPL yn eich cefnogi ac mae yno i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych. Byddwch yn dod i adnabod y person ifanc yn dda ac os oes gennych bryderon yn ei gylch, dylech drafod y rhain gyda’r Tîm SPL a fydd wedyn yn cysylltu â’r person ifanc ac unrhyw weithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â’i ofal a
chymorth.
O bryd i’w gilydd, bydd cyfarfod “adolygu” lle gallwch chi, y person ifanc, y Tîm SPL ac unrhyw weithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â gofal a chymorth y person ifanc siarad â’ch gilydd am y ffordd y mae pethau’n mynd, newid “rheolau tŷ”, gosod nodau newydd. Yn ogystal, mae cymorth proffesiynol digonol y tu allan i oriau ar gael a bydd ar gael yn hawdd, a bydd hyfforddiant hefyd yn
cael ei ddarparu.
Byddwch yn derbyn lwfans o £200.00 yr wythnos, yn ogystal â thâl gwasanaeth o £20. Ar ôl 18 oed bydd rhan o hyn yn dod o’r Budddal Tai a gaiff y person ifanc
Yn ogystal â hyn:
- Darperir hyfforddiant llawn
- Y milltiroedd y gallwch eu cwmpasu,
- pecyn llesiant - ar gyfer darparwr a pherson ifanc h.y., mynediad i gyfleusterau hamdden
Ni allwn warantu lleoliadau, felly efallai na fydd yn briodol dibynnu ar incwm o ddarparu llety.
Mae’r lwfans y byddwch yn ei dderbyn yn cynnwys y ddarpariaeth i chi uwchraddio eich yswiriant cartref. Mae’n bwysig i chi roi gwybod i’ch yswirwyr beth mae’r prosiect yn ei olygu.
Os ydych yn hawlio budd-daliadau’r wladwriaeth sy’n seiliedig ar Incwm fel Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Budd-dal Tai, ac ati, gall incwm a dderbynnir drwy’r cynllun hwn effeithio ar rai budd-daliadau. I egluro eich amgylchiadau unigol, mae angen i chi drafod gyda’r Asiantaeth Budd-daliadau, y Ganolfan Cyngor ar Bopeth.
Os caiff eich treth gyngor ei disgowntio ar gyfer deiliadaeth sengl, ni fydd eich gostyngiad yn cael ei effeithio oni bai bod person ifanc yn cyrraedd deunaw oed pan fydd yn byw gyda chi. Yn yr achos hwn dylech roi gwybod i’ch cyngor lleol, oherwydd efallai na fyddwch yn gymwys ar gyfer y gostyngiad mwyach.
Rhywun sy’n gwneud y canlynol:
- Cyd-dynnu â phobl ifanc ac â rhywfaint o ddealltwriaeth o’r problemau y maent yn eu profi.
- Cefnogi person ifanc yn ei ymdrechion i dyfu a datblygu
- Dangos cydymdeimlad ac ni fydd yn beirniadu person ifanc
- Gwybod ble mae ei ffiniau ei hun, ac yn gallu bod yn glir ac yn onest ynghylch y mathau o ymddygiad y mae eisiau ei weld/ddim eisiau ei weld yn ei gartref.
- Parchu cyfrinachedd a phreifatrwydd unrhyw berson ifanc sy’n byw yn ei gartref
- Trin pob person ifanc yn gyfartal a pheidio â gwahaniaethu yn eu herbyn ar unrhyw sail
Gall unrhyw un gyflwyno cynnig o lety â chymorth. Ni wahaniaethir yn erbyn unrhyw un ar sail hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol nac oedran. Fodd bynnag, efallai na fyddwch yn cael eich ystyried os yw’r canlynol yn berthnasol:
- Os ydych wedi eich cael yn euog o drosedd yn erbyn plentyn
- Os yw plentyn yn ddiweddar wedi’i dynnu o’ch gofal trwy orchymyn unrhyw lys
- Os ydych wedi cael eich cofrestru fel gwarchodwr plant, neu ofal dydd arall, wedi’i ganslo oherwydd camymddwyn
- Os ydych wedi cael eich hawliau a'ch dyletswyddau mewn perthynas ag unrhyw blentyn wedi'u harchwilio gan Awdurdod Lleol
Bydd y Tîm Llety â Chymorth yn ymweld â chi i:
- Asesu’r llety
- Cwblhau dogfennaeth asesu
- Trafod gyda chi sut brofiad fyddai cael person ifanc yn byw yn eich cartref
Gwneir ymweliadau ychwanegol fel arfer, bydd angen ymweld â holl aelodau’r cartref a lle bo’n briodol cwblhau dogfennaeth asesu ar gyfer pob un ohonynt.
Bydd gwiriadau’r heddlu hefyd yn cael eu cwblhau ar bob oedolyn sy’n byw yn y cartref. Bydd gofyn i chi ddarparu canolwyr i ddarparu tystlythyrau, mae’n rhaid i’r canolwyr eich adnabod yn dda a’u bod yn fodlon dweud nad oes unrhyw reswm hysbys pam na fyddech yn addas i gefnogi person ifanc yn eich cartref eich hun.
Bydd gofyn i chi roi caniatâd i archwiliad meddygol i gadarnhau nad oes unrhyw reswm meddygol hysbys pam na ddylech gymryd rhan yn y cynllun.
Pan fydd asesiadau a gwiriadau diogelwch wedi’u cwblhau a geirdaon wedi’u derbyn, bydd eich enw’n cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo gan y panel dethol.
Cyn gynted ag y cewch eich cymeradwyo, gellir lleoli pobl ifanc gyda chi.
Bydd cefnogaeth barhaus ar gael gan y Tîm SPL. Yn ystod y broses asesu, bydd unrhyw anghenion hyfforddi yn cael eu nodi, a bydd cynllun yn cael ei roi ar waith. Bydd hyfforddiant parhaus ac ychwanegol hefyd ar gael i chi.