Canllawiau i bobl ifanc

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023

Beth yw Llety â Chymorth?

Llety â Chymorth yw lle rydych chi’n byw fel lletywr yng nghartref rhywun.

Mae byw fel lletywr yn golygu y bydd gennych allwedd drws ffrynt eich hun ac ystafell wely ar wahân. Byddwch yn rhannu’r gegin, yr ystafell ymolchi, yr ystafell fyw a’r peiriant golchi gyda’r darparwr Llety â Chymorth a’i deulu.

Bydd disgwyl i chi allu gwneud cryn dipyn ar eich pen eich hun i hybu eich annibyniaeth a datblygu eich sgiliau byw’n annibynnol.

Mae llety â chymorth yn darparu amgylchedd diogel, cefnogol lle gallwch ennill a gwella ymhellach rai o’r sgiliau ymarferol y bydd eu hangen arnoch pan fyddwch yn symud i’ch llety yn y dyfodol.

Byddwch yn ymarfer sut i goginio eich prydau eich hun, gwneud eich siopa bwyd a nwyddau ymolchi eich hun, dysgu sut i dalu biliau, golchi a smwddio eich dillad, ac ati.

Fe’i gelwir yn ‘llety â chymorth’ oherwydd bod y darparwr Llety â Chymorth yno i siarad â chi os oes rhywbeth yn eich poeni, neu os ydych yn ansicr am unrhyw beth. 

 

Lawrlwythwch y canllaw cyflym i bobl ifanc

 

Mae’r cynllun yn agored i bobl ifanc, rhwng 16 a 18 oed, sydd wedi“derbyn gofal” gan Wasanaethau Plant Sir Gaerfyrddin, sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu’n ddigartref ar hyn o bryd.

Bydd llety â chymorth yn addas i chi os ydych am ddatblygu a hybu eich annibyniaeth.

  • Coginio rhai o’ch prydau eich hun.
  • Dysgu cyllidebu.
  • Gwneud peth o’ch siopa bwyd eich hun.
  • Golchi a smwddio eich dillad eich hunain.
  • Addysg a Hyfforddiant

Cyn symud i mewn, bydd cytundeb “byw gyda’ch gilydd” a “rheolau tŷ” yn cael eu llunio rhyngoch chi a’ch darparwr llety â chymorth, a bydd unrhyw weithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’ch gofal a chymorth yn helpu gyda hyn hefyd. Bydd y cytundeb yn nodi’n glir beth sydd angen i chi ei wneud yn ystod y lleoliad i baratoi ar gyfer byw ar eich pen eich hun.

Bydd y cytundeb hefyd yn amlinellu pa dasgau y bydd y darparwr ac unrhyw weithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’ch gofal a chymorth yn eu cyflawni yn ystod y lleoliad e.e., er enghraifft bydd gweithiwr cymdeithasol/CP yn parhau i gwrdd â chi gan gynnig cymorth a chyngor a bydd hefyd yn nodi eich llety symud ymlaen.

Bydd y cytundeb cyd-fyw hefyd yn rhestru holl reolau’r tŷ: er enghraifft, ni allwch chwarae cerddoriaeth yn uchel ar ôl 11 pm.

Bydd hyd y lleoliadau yn amrywio o un berson ifanc i’r llall. Bydd yn dibynnu ar:

  • Eich anghenion a’ch galluoedd,
  • Pa mor fuan rydych chi’n teimlo’n barod,
  • Rydych yn cael eich asesu i fod yn barod i symud i’ch lle eich hun.
  • Bydd hyd yr amser y byddwch yn ei dreulio yn eich llety hefyd yn dibynnu ar ba bryd y bydd eich llety ar gael.

Ychydig cyn symud i mewn, bydd dyddiad symud allan dros dro yn cael ei bennu.

Ym mhob adolygiad, bydd y dyddiad hwn yn cael ei ailystyried i weld a oes angen i chi aros yn hirach neu a allwch symud allan yn gynt na’r disgwyl.

Efallai y gofynnir i chi adael eich llety yn gynt na’r disgwyl os byddwch yn difrodi eiddo’r darparwr yn fwriadol neu’n ymddwyn mewn modd bygythiol tuag ato.

Os ydych o dan 18 oed, bydd Gwasanaethau Plant Sir Gaerfyrddin yn talu eich rhent. Os ydych chi dros 18 oed ac yn derbyn budddaliadau, bydd eich rhent yn cael eidalu gan fudd-dal tai a chyfraniad gennych chi o dâl gwasanaeth wythnosol. Os ydych chi’n gweithio neu os oes gennych chi gynilion mawr ac yn methu â derbyn budd-dal tai, bydd disgwyl i chi dalu cyfraniad tuag at eich rhent o’ch cyflog neu gynilion.

Pan fyddwch yn 18 oed, bydd disgwyl i bobl ifanc dalu cyfraniad wythnosol tuag at gost eu bwyd a’u biliau beth bynnag fo’u hincwm e.e., tâl gwasanaeth wythnosol.

Mae pob darparwr yn cael ei asesu, ac yn cael ei wirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i weld a ydynt yn addas i gynnig llety â chymorth i bobl ifanc. Maent yn cael hyfforddiant i’w helpu i gefnogi pobl ifanc. Bydd pob darparwr, ac unrhyw un dros 18 oed sy’n byw gyda nhw, yn cael eu gwirio gan yr heddlu, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau nad ydyn nhw’n peri unrhyw risgiau i bobl ifanc.

Byddwch. Byddwch yn sicr yn cael cyfle i gwrdd â nhw o leiaf unwaith cyn symud i mewn, bydd y tro cyntaf yn anffurfiol, gan roi cyfle i’r ddau ohonoch weld a allech chi fyw gyda’ch gilydd. Nid ydych chi na’r darparwyr o dan unrhyw rwymedigaeth i gytuno i’r lleoliad fynd yn ei flaen os byddwch, ar ôl y cyfarfod hwn, yn teimlo na allech gyd-dynnu.

Na. Nid yw’r darparwr yno i weithredu fel rhiant, ac ni fydd disgwyl i chi fod yn rhan o’r teulu. Drwy ddewis byw mewn llety â chymorth rydych yn dweud nad oes angen cymaint o gymorth a gofal arnoch ag y gwnaethoch, er enghraifft: os oeddech mewn gofal maeth, yn byw gyda theulu/ffrindiau neu warcheidwaid.

Bydd. Bydd rhywfaint o wybodaeth yn cael ei rhoi i’w helpu i benderfynu a allent gynnig llety, a chymorth i chi, gyda’ch anghenion unigol. Cyn trosglwyddo unrhyw wybodaeth byddwch yn ymwybodol ynghylch pa wybodaeth sy’n cael ei rhannu.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am lety â chymorth gan eich gweithiwr cymdeithasol/CP neu unrhyw weithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â’ch gofal a chymorth. Fel arall, gallwch gysylltu â Thîm Llety â Chymorth Sir Gaerfyrddin.