Hawlenni Gwaith Cyflogaeth Plant

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023

Os yw plentyn wedi cael derbyn Rhif Yswiriant Gwladol NID YW hyn yn golygu y gall y plentyn / person ifanc gadael yr ysgol a gweithio'n llawn amser. Mae plentyn yn oedran ysgol gorfodol tan y dydd Gwener olaf ym Mehefin yn y flwyddyn ysgol pan fydd ef / hi yn cyrraedd ei g / penblwydd yn 16 oed.

Rhaid i blant fod yn 13 oed i ymgymryd ag unrhyw waith rhan-amser. Gall rhieni/gwarcheidwaid/cyflogwyr lawrlwytho'r ffurflenni isod a'u defnyddio i wneud cais am yr hawlen weithio angenrheidiol ar gyfer pobl ifanc 13-16 blwydd oed sy'n dymuno gwneud gwaith rhan-amser tra byddant yn dal o oedran ysgol gorfodol.

Mae gweithio heb hawlen, am gyflog neu yn ddi-dâl, yn erbyn y gyfraith ac mae cyfyngiadau ar yr oriau gwaith a'r dyletswyddau a ganiateir. Mae unrhyw ddarpariaeth y tu hwnt i'r meini prawf hyn yn erbyn y gyfraith.

On school days you can work no more than a total of 2 hours in one day during the following periods:

  • In the morning between 7am and the start of the school ( 1 hour max)
  • In the evening between close of school and 7pm.

On a Saturday you can work 8 hours a day between 7am & 7pm and on Sunday 2 hours a day between 7am & 11am.

During school holidays you can work 8 hours a day on any weekday (except Sundays) between 7am & 7pm, but total hours worked each week must not exceed 35 hours. You must have 2 consecutive weeks break in a year and they must be taken during the school holidays.

  • No child can work more than twelve hours in any week in which he / she is required to attend school.
  • No child of any age may work more than 4 hours in a day without a rest break of 1 hour

You may be employed only in light work. You may engage in street trading if you are employed by your parents in connection with their business and if you are supervised by them, or if you have been granted a street traders licence by the local authority. 

Ar ddiwrnodau ysgol, ni allwch weithio mwy na 2 awr mewn un diwrnod yn ystod y cyfnodau canlynol:

  • Yn y bore rhwng 7am a dechrau'r ysgol (awr ar y mwyaf)
  • Gyda'r hwyr rhwng diwedd y diwrnod ysgol a 7pm.

Ar ddydd Sadwrn gallwch weithio 8 awr y dydd rhwng 7am a 7pm ac ar ddydd Sul 2 awr y dydd rhwng 7am ac 11am.

Yn ystod gwyliau ysgol, gallwch weithio 8 awr y dydd ar unrhyw ddiwrnod o'r wythnos (ac eithrio dydd Sul) rhwng 7am a 7pm, ond ni chaniateir gweithio mwy na 35 awr yr wythnos. Rhaid ichi gymryd pythefnos ar ei hyd o wyliau y flwyddyn a rhaid ichi gymryd y pythefnos hwnnw yn ystod gwyliau'r ysgol.

  • Ni chaniteir i blentyn weithio mwy na 12 awr yn ystod wythnos pryd y mae'n rhaid iddo/iddi fynd i'r ysgol.
  • Ni chaniateir i blentyn o unrhyw oed weithio mwy na 4 awr y dydd heb egwyl o awr.

Dim ond gwaith ysgafn y caniateir ichi ei wneud. Caniateir ichi fasnachu ar y stryd os ydych yn cael eich cyflogi gan eich rhieni yn gysylltiedig â'u busnes ac os ydynt yn eich goruchwylio, neu os yw'r awdurdod lleol wedi rhoi trwydded masnachwr stryd ichi.

Bydd yr oriau gwaith a bennwyd ar gyfer rhai 15 oed yn berthnasol tra byddwch o oed ysgol gorfodol. Os dymunwch, mae'r gyfraith yn caniatáu ichi adael yr ysgol ar y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn pryd y byddwch yn 16 oed.

Ni chaniateir ichi weithio'n amser llawn tan ar ôl y dyddiad hwnnw.

  • Ni chaniteir i blentyn weithio mwy na 12 awr yn ystod wythnos pryd y mae'n rhaid iddo/iddi fynd i'r ysgol.
  • Ni chaniateir i blentyn o unrhyw oed weithio mwy na 4 awr y dydd heb egwyl o awr.

Ni chaniateir i blentyn beth bynnag fo'i oed weithio fel a ganlyn:

  • Ar ddiwrnod pan fo'n absennol o'r ysgol oherwydd salwch.
  • Mewn sinema, theatr, discotec, neuadd ddawnsio na chlwb nos, oni bai ei fod yn gysylltiedig â pherfformiad gan blant yn unig.
  • Gwerthu alcohol i gwsmeriaid, gweini alcohol i gwsmeriaid neu ddosbarthu alcohol.
  • Dosbarthu llaeth.
  • Dosbarthu olew tanwydd.
  • Mewn cegin fasnachol.
  • Casglu neu ddidoli sbwriel.
  • Gwaith sy'n digwydd fwy na thri metr uwchlaw'r ddaear neu, yn achos gwaith dan do, fwy na thri metr uwchlaw'r llawr.
  • Gwaith sy'n golygu dod i gysylltiad â chyfryngau ffisegol, biolegol neu gemegol niweidiol.
  • Casglu taliadau neu werthu/canfasio o ddrws i ddrws.
  • Gwaith sy'n golygu dod ar draws deunydd i oedolion yn unig neu sefyllfaoedd sydd am y rheswm hwn yn anaddas i blant.
  • Gwerthu dros y ffôn.
  • Mewn unrhyw ladd-dy neu yn y rhan honno o unrhyw siop gigydd neu adeiladau eraill sy'n gysylltiedig â lladd da byw, gwaith cigydd neu baratoi carcasau anifeiliaid neu gig i'w
    gwerthu.
  • Fel ceidwad neu gynorthwy-ydd mewn ffair neu arcêd ddifyrion neu mewn unrhyw adeilad arall a ddefnyddir i ddifyrru’r cyhoedd â pheiriannau awtomatig, gêmau hapchwarae neu sgìl neu ddyfeisiau tebyg.
  • Darparu gofal personol mewn cartref gofal preswyl neu mewn cartref nyrsio oni bai fod oedolyn cyfrifol yn ei oruchwylio'n fanwl.

Os hoffech wneud cais am Hawlen Waith Cyflogaeth Plant, cysylltwch â'r Tîm Lles Addysg ar EducationWelfare@sirgar.gov.uk. Bydd Swyddog Dyletswydd yn ymateb i'ch ymholiad cyn pen 5 diwrnod gwaith.

O fewn 7 diwrnod ar ôl i'r plentyn ddechrau gweithio, rhaid i'r cyflogwr gyflwyno Cais am Hawlen Waith Cyflogaeth Plant i'r Awdurdod Lleol lle bydd "Cyflogaeth yn digwydd". Rhaid i'r cais gael ei lofnodi gan y cyflogwr a rhiant / gwarcheidwad y plentyn. Gallai methu â chael Hawlen Waith Cyflogaeth Plant i blentyn y byddwch yn ei gyflogi arwain at ddirwy o hyd at £1,000.

Ar ôl i'r ffurflen gais gael ei chwblhau a'i dychwelyd atom, bydd y cyflogwr yn cael Hawlen Waith wedi'i lamineiddio y mae'n rhaid iddo ei chadw mewn man diogel. Bydd y plentyn hefyd yn cael Cerdyn Adnabod Hawlen Waith.

Nodwch: mae cyfnod dosbarthu o 21 diwrnod ar gyfer pob Cais Hawlen Waith Cyflogaeth Plant. Bydd y cyfnod hwn yn dechrau o'r dyddiad y derbynnir yr holl ddogfennau sy'n ofynnol.