Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023
Mae ein gwefan newydd ar gyfer Hawliau Tramwy Cyhoeddus y Sir bellach yn fyw. Mae'r system newydd yn fwy rhyngweithiol na’r cyfleuster mapio ar-lein blaenorol ac mae'n darparu gwybodaeth ddefnyddiol am y rhwydwaith. Mae swyddogaethau bellach ar gael i adrodd am broblemau ar-lein yn ogystal â gweld llwybrau sy'n cael eu hyrwyddo, llwybrau sydd wedi cael eu gwella'n ddiweddar, a hysbysiadau ynghylch cau llwybrau dros dro.
Mae'r map yn dangos yr holl Hawliau Tramwy Cyhoeddus cofrestredig yn y sir, ond mae'n bosibl bod rhai Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn sir Gaerfyrddin heb eu cofrestru ac felly nid ydynt yn cael eu dangos ar y map. Mae prosesau ar waith i gofrestru'r llwybrau hyn yn gyfreithiol. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, cysylltwch â'r Swyddfa Hawliau Tramwy.
Mwy ynghylch Hawliau Tramwy Cyhoeddus