Reidio fel Grŵp a Theithio
Diweddarwyd y dudalen ar: 22/04/2025
I lawer, mae reidio fel grŵp yn rhan fawr o brofiad beiciwr modur, boed gyda ffrindiau ar daith fore dros y penwythnos neu ar daith benodol wedi'i threfnu.
Mae'r Modiwlau Reidio fel Grŵp a Theithio yn estyniad i Dragon Rider, sydd wedi'i gymeradwyo gan Gynllun Gwell Beiciwr yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA). Cyflwynir y modiwl gan hyfforddwyr beiciau modur profiadol a chymwys sydd wedi'u hachredu gan Gofrestr y DVSA o Hyfforddwyr Beiciau Modur ar ôl pasio prawf.
Mae dwy ran i’r cwrs. Gweithdy gyda'r nos, sy'n cael ei gynnal ar-lein trwy Microsoft Teams, ac yna sesiwn diwrnod llawn ar y ffordd ledled y sir a ffyrdd awdurdodau cyfagos. Bydd y gymhareb hyfforddi yn un hyfforddwr i uchafswm o bedwar reidiwr ar gyfer yr elfen ar y ffordd.
Mae llawer o bynciau yn cael sylw yn y cwrs hwn, gan gynnwys, cynllunio a threfnu taith, cario teithiwr/llwyth, cychwyn ar daith, delio â thorri i lawr, codi a chario a symud yn araf, reidio fel grŵp, reidio ar ffyrdd trefol / gwledig / traffordd / ffordd ddeuol a goddiweddyd a hidlo.
Os ydych chi'n cario teithiwr ar eich beic modur, anogir eich teithiwr i fynychu’r ddwy elfen o'r cwrs hefyd.
Faint mae'r cwrs yn ei gostio?
Mae'r cwrs ar gael ar hyn o bryd i bobl sy'n byw neu'n gweithio yn Sir Gaerfyrddin yn unig ac mae'n RHAD AC AM DDIM.
Argaeledd cyrsiau
- Dydd Iau 8 Mai 2025 (Ar-lein) a dydd Sul 11 Mai 2025 (Ymarferol)
- Thursday 26 Mehefin 2025 (Online) and Sunday 29 Mehefin 2025 (Practical)
Bydd cyrsiau'n cael eu cyflwyno drwy Microsoft Teams. Bydd rhagor o wybodaeth am sut i gael mynediad i'r cwrs a'r ddolen i ymuno yn cael eu hanfon atoch ar e-bost yn ystod wythnos eich cwrs. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, anfonwch e-bost at Dioglewchffyrdd@sirgar.gov.uk