Archwiliwr Swyddi
Ydych chi’n meddwl bod gweithio i’ch Cyngor lleol yn cynnwys ddesgiau a gwaith papur? Meddyliwch eto! Yng Nghyngor Sir Gâr, does dim dau ddiwrnod yr un peth. Gallech fod yn helpu i drefnu digwyddiadau cymunedol, amddiffyn coetiroedd lleol, cadw ein ffyrdd yn ddiogel, neu sicrhau bod ein parciau’n ddisgleirio.
Dyma eich cyfle i gamu i’r byd gwaith go iawn — i archwilio diwydiannau gwahanol, gweld beth sy’n eich cymell mewn gwirionedd, ac ennill profiad sy’n eich gosod ar wahân.
Mae ein lleoliadau gwaith yn rhoi cyfle i chi:
- Datblygu sgiliau ymarferol sydd angen ar cyflogwyr
- Profiad ymarferol mewn rolau gwerthfawr
- Creu cysylltiadau a allai siapio eich gyrfa yn y dyfodol
Yn barod i gymryd y cam cyntaf?
Dyma gipolwg ar rai o’r lleoliadau cyffrous sy’n aros amdanoch yng Nghyngor Sir Gâr.
Technoleg a Digidol
Archwiliwch TG, codio, dylunio digidol, peirianneg, a thechnoleg cerbydau.
Rheoli Prosiectau – Lleoliad Profiad Gwaith

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweld sut mae prosiectau’n cael eu cynllunio, eu cydlynu, a’u cyflwyno? Mae’r lleoliad hwn yn cynnig profiad ymarferol ar draws amrywiaeth o feysydd sy’n cadw mentrau i redeg yn esmwyth.
Adran Ddylunio Peirianneg – Lleoliad Profiad Gwaith

Hoffech chi darganfod y byd peirianneg sifil? Mae’r lleoliad hwn yn rhoi cyfle am profiad ymarferol ar draws amrywiaeth o feysydd allweddol sy’n dod â phrosiectau seilwaith yn fyw.
Dylunio Eiddo – Lleoliad Profiad Gwaith

Diddordeb mewn pensaernïaeth, gwasanaethau adeiladu, neu reoli adeiladu? Mae’r lleoliad hwn yn cynnig profiad ymarferol mewn ymgynghoriaeth ddylunio mewnol broffesiynol.
Gweithdai Fflyd – Lleoliad Profiad Gwaith

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnal a chadw cerbydau, peirianneg, neu weithrediadau gweithdy? Mae’r lleoliad hwn yn cynnig profiad ymarferol o gynnal a rheoli fflyd o gerbydau.
Tîm Atgyweiriadau Ymatebol – Lleoliad Profiad Gwaith Cynnal a Chadw Eiddo

Diddordeb mewn adeiladu, crefftau, neu ddatrys problemau ymarferol? Mae’r lleoliad hwn yn cynnig profiad ymarferol gyda’n Tîm Atgyweiriadau Ymatebol, sy’n rhan o’r adran Cynnal a Chadw Eiddo o fewn yr Adran Lle, Seilwaith a Datblygu Economaidd.
Creadigol a’r Cyfryngau
Cael profiad ymarferol gyda theatrau, dylunio, newyddiaduraeth, amgueddfeydd, a marchnata.
Amgueddfeydd Cofgar – Cyfleoedd Profiad Gwaith

Camwch i fyd treftadaeth a diwylliant gyda lleoliadau ar draws ein hamgueddfeydd unigryw
Diwydiannau Creadigol – Lleoliad<

Camwch i fyd cyflym y celfyddydau a perfformiadau byw! Mae’r lleoliad hwn yn cynnig profiad deinamig ag ymarferol lle nad yw dau ddiwrnod byth yr un fath. Byddwch yn rhan o dîm cydweithredol, gan gael mewnwelediad i’r hyn sydd ei angen i gyflwyno perfformiadau a digwyddiadau bythgofiadwy.
Amgylchedd a’r Awyr Agored
Gweithio gyda natur, bywyd gwyllt, a’r awyr agored.
Amgylchedd Naturiol – Cyfleoedd Profiad Gwaith

Angerddol am yr awyr agored, cadwraeth, neu ecoleg? Mae’r lleoliad hwn yn cynnig cyfle am brofiad go iawn o diogelu a gwella ein hamgylchedd naturiol, drwy gymysgedd o weithgareddau swyddfa ac ymweliadau safle ochr yn ochr â swyddogion arbenigol.<
Gofal a’r Gymuned
Cefnogi pobl o bob oedran a gallu.
Lleoliad Tai

Ydych chi’n chwilfrydig am fod ar y rheng flaen o wasanaethau tai? Mae’r lleoliad hwn yn cynnig cyfle unigryw i gamu i rôl Swyddog Tai a gweld sut rydym yn cefnogi ein cymunedau bob dydd.
Lleoliad Gofal Preswyl i Oedolion

Diddordeb mewn gofal iechyd, gofal cymdeithasol, neu gefnogi oedolion mewn lleoliadau preswyl? Mae’r lleoliad hwn yn cynnig profiad ymarferol o ddarparu gofal a chymorth i breswylwyr.
Lleoliad Canolfan Ddydd Anableddau Dysgu

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gofal cymdeithasol, gwasanaethau cymorth, neu gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu? Mae’r lleoliad hwn yn cynnig profiad ymarferol mewn amgylchedd canolfan ddydd, gan gefnogi defnyddwyr gwasanaeth gyda’u gweithgareddau dyddiol.
Busnes a Gwasanaethau Cyhoeddus
Dysgu am gyllid, gweinyddu, a sut mae cynghorau’n cael eu rhedeg.
Data a Grantiau

Edrych i ddatblygu sgiliau ymarferol wrth wneud effaith wirioneddol? Mae ein tîm yn cynnig cyfle i ymgeiswyr gael profiad ymarferol ar draws amrywiaeth o feysydd allweddol:
Gwasanaethau Addysg – Profiad Gwaith Gweinyddol

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweld sut mae gwasanaethau addysg yn cael eu rhedeg y tu ôl i’r llenni? Mae’r lleoliad hwn yn rhoi cyfle i chi ennill profiad ymarferol o’r gwaith gweinyddol hanfodol sy’n cefnogi ysgolion, staff, a myfyrwyr.
Llyfrgelloedd a Gwasanaethau Cwsmeriaid
Cefnogi’r gymuned, digwyddiadau, a gwasanaethau llyfrgelloedd.









