Ymunwch â Chyngor Sir Caerfyrddin
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwilio am unigolyn gweledigaethol i fod yn Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai i arwain newid trawsnewidiol. Yn y rôl strategol hon, byddwch chi'n rheoli gwasanaethau cymdeithasol, diogelu, a strategaethau tai, gan sicrhau cydymffurfiaeth ac effeithlonrwydd. Rydyn ni'n chwilio am arweinydd profiadol ac arloesol sydd wedi llwyddo mewn rolau uwch. Ymunwch â ni i gael effaith gadarnhaol mewn awdurdod lleol blaengar sydd wedi ymroi i ragoriaeth a gwelliant parhaus.
Rydym yn falch o rannu bod ein hadran mewn sefyllfa reoleiddiol gref. Rydym wedi ymrwymo i agenda drawsnewid fawr, wedi'i hysgogi gan ein gweithlu creadigol ac arloesol, i fodloni gofynion disgwyliedig a datblygol ein cymuned.
Mae'r adran yn cynnwys amrywiaeth eang o wasanaethau hanfodol sydd wedi'u cynllunio i gefnogi llesiant a datblygiad ein trigolion.












Dyma drosolwg o'r gwasanaethau allweddol:
Mae'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn cynnig ystod eang o gymorth i alluogi plant a phobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, gan weithio gyda theuluoedd drwy gymorth blynyddoedd cynnar cyffredinol yn ein canolfannau plant, gwybodaeth, cyngor a chymorth, hyd at ymyrraeth statudol i amddiffyn plant rhag niwed.
Mae'r Gwasanaethau Integredig yn darparu gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y gymuned ar draws yr Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gyfer Pobl Hŷn a Phobl ag Anabledd Corfforol neu Nam ar y Synhwyrau. Mae'r integreiddio hwn yn pwysleisio cydweithio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol i wella llesiant unigolion. Mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, nod yr is-adran hon yw darparu gofal integredig di-dor i'n cymuned drwy ymdrechion cydweithredol a rhannu adnoddau.
Mae Llesiant Delta - Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin yn bartner allweddol wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned. Mae'n darparu gofal rhagweithiol sy'n seiliedig ar dechnoleg, Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth, ymateb cyflym i gwympiadau yn y gymuned, Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth mewn wardiau ysbyty acíwt a gwasanaethau y tu allan i oriau. Mae cwmni Delta yn cael ei gydnabod am ei ddull arloesol, a'i gyfraniad at wella gwasanaethau gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin.
Strategaeth y Cyngor ac Arwain Polisïau: Helpu i lunio a gweithredu Strategaeth y Cyngor, gan weithio'n agos gyda'r Prif Weithredwr, y Cabinet a'r Tîm Rheoli Corfforaethol i sicrhau bod polisïau'n cael eu llunio a'u rhoi ar waith yn effeithiol ar draws pob adran.
Arwain y Gwasanaethau Cymdeithasol: Goruchwylio'r holl Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant, gan gynnwys diogelu, iechyd meddwl, anableddau a gwasanaethau i bobl hŷn, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â chynlluniau y cytunwyd arnynt a bwriadau comisiynu.
Prosesau Diogelu ac Adolygu: Sicrhau prosesau diogelu statudol effeithiol, gan gynnwys Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl (SUSR) a Fforymau Proffesiynol Amlasiantaethol (MAPF), a rhoi ar waith y gwersi sy'n cael eu dysgu o adolygiadau ymarfer.
Strategaeth Dai: Arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaethau tai cynaliadwy sy'n cynnwys darpariaeth gan y Cyngor a darpariaeth breifat a thrydydd sector.
Gofal wedi'i Gomisiynu a Gofal Mewnol: Rheoli’r gwaith o gomisiynu a darparu gwasanaethau preswyl, maethu, dydd a gofal cartref, gan sicrhau ansawdd, gwerth am arian, a chynaliadwyedd y farchnad.
Gweledigaeth y Gwasanaeth ac Ymgysylltu: Datblygu gweledigaeth glir ar gyfer gwella gwasanaethau, gan sicrhau safonau uchel ac ymgysylltiad cryf â defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid.
Cydweithio a Datblygiad Proffesiynol: Cymryd rhan mewn rhwydweithiau cenedlaethol (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, ac ati) i hyrwyddo arweinyddiaeth broffesiynol, datblygiad, a rhannu arferion gorau.
Craffu a Monitro Perfformiad: Monitro perfformiad adrannol drwy graffu, gan sicrhau bod amcanion yn cael eu cyflawni a bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithlon.
Cynllunio a Pherfformiad Strategol: Arwain y gwaith o ddatblygu strategaethau, polisïau, cynlluniau busnes, ac adroddiadau perfformiad yn unol â thargedau ac adnoddau'r Cyngor.
Ymyrraeth Gynnar a Mynediad: Arwain y gwaith o ddatblygu gwasanaethau cynghori, gwybodaeth, atal ac asesu i sicrhau bod defnyddwyr a gofalwyr yn cael mynediad priodol i ofal cymdeithasol.
Llywodraethu a Safonau: Sicrhau safonau llywodraethu ac ymarfer cadarn ar draws y Gwasanaethau i Oedolion a Phlant, gan adrodd yn rheolaidd i Aelodau a'r Tîm Rheoli Corfforaethol.
Gweithio Integredig a Phartneriaethau: Hyrwyddo gweithio integredig gydag Iechyd a phartneriaid eraill yn rhanbarthol ac yn lleol i gael canlyniadau gwell.
Goruchwylio Llesiant Delta: Sicrhau bod y Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol yn cyflawni canlyniadau sy'n cyd-fynd â disgwyliadau cyfranddalwyr a chynlluniau busnes.
Alinio Strategol: Sicrhau bod uchelgeisiau'r Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai yn cyd-fynd â gweledigaeth gyffredinol ac agenda drawsnewid y Cyngor.
Rheolaeth Ariannol: Rheoli cyllidebau yn effeithiol, gan gefnogi'r gwaith o ddatblygu gwasanaeth cost-effeithlon a nodi arbedion a phwysau.
Gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid: Hyrwyddo diwylliant o bartneriaeth a chanolbwyntio ar gwsmeriaid, gan ymgorffori adborth wrth gynllunio a darparu gwasanaethau.
Dyddiad cau: Canol dydd 9 Mehefin 2025
Llunio Rhestr Fer: 18 Mehefin 2025
Y Ganolfan Asesu: 24 Mehefin 2025
Panel Penodiadau 'A': 2 Gorffennaf 2025
Bydd y ganolfan asesu a'r panel penodiadau yn cael eu cynnal yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP.
Croeso i Sir Gaerfyrddin – un o'r siroedd mwyaf diogel, mwyaf prydferth a mwyaf bywiog yng Nghymru. Yn aml caiff y sir ei disgrifio fel microcosm o Gymru; mae ganddi arfordir trawiadol, trefi marchnad hanesyddol a threfi ôl-ddiwydiannol bywiog sydd wedi'u hadfywio.
Mae'n parhau ymysg rhai o'r llefydd mwyaf diogel i fyw yn y wlad ac mae lefelau troseddau yn isel. Ymysg yr atyniadau yn y sir mae cae rasio Ffos Las, traethau Baner Las gan gynnwys traeth euraid Cefn Sidan sef yr hiraf yng Nghymru, nifer o gyrsiau golff, Stadiwm Parc y Scarlets, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llwybr Arfordirol y Mileniwm a’r cyfleuster Denu Twristiaid newydd sbon ar lan y môr ym Mhentywyn.
Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, cymerwyd camau sylweddol ymlaen o ran cyflawni prosiectau adfywio i ddarparu buddion cynaliadwy i'r gymuned ehangach. Nod y prosiectau hyn yw adfywio a chefnogi twf economaidd yng Nghanol y Dref.
Mae gan ein Gwasanaethau Iechyd gynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu modelau gofal newydd a fydd yn trawsnewid ein gwasanaethau ar draws gwasanaethau acíwt a chymunedol.
Mae gennym dros 9,300 o dai sy'n eiddo i'r cyngor a thrwy reolaeth ariannol ddarbodus rydym bellach yn cynllunio i adeiladu rhagor o dai i fodloni'r angen am dai lleol ac arbenigol.
Rydym wrthi'n datblygu prosiect cyffrous ac uchelgeisiol gwerth miliynau o bunnoedd, sef datblygiad Pentre Awel, fydd yn creu swyddi a thai yn ogystal â chyfleusterau ymchwil feddygol a gofal iechyd o'r radd flaenaf.
Yn Sir Gaerfyrddin rydym yn enwog am ein hymrwymiad i ddarparu Gwasanaethau Cymdeithasol eithriadol a thai o safon. Rydym yn ymfalchïo yn ein dulliau arloesol a'n hymroddiad i feithrin amgylchedd cefnogol sy'n grymuso ein staff a'r rhai rydym yn eu gwasanaethu.
I'r person cywir, mae hwn yn gyfle gwych o ran gyrfa. Rydym yn hynod uchelgeisiol ar gyfer Sir Gaerfyrddin a dyma'ch cyfle i ymgymryd â rôl arwain a fydd yn hanfodol i weld bwriadau da yn troi'n ganlyniadau gwych.
Am le gwych i fyw ynddo, i weithio ynddo, ac i ymweld ag ef, beth am Sir Gaerfyrddin?
Yn gywir,
Y Cynghorydd Darren Price
Arweinydd y Cyngor
Mae Sir Gaerfyrddin yn un o'r awdurdodau mwyaf yng Nghymru ac mae'n ymfalchïo yn ei huchelgeisiau a'i gweledigaeth strategol feiddgar. Fel un o'r cyflogwyr mwyaf yn y Sir, mae cynnal ein henw rhagorol am ddarparu gwasanaethau o'r radd flaenaf i'n trigolion a bod yn gyflogwr o ddewis yn hynod bwysig i ni.
Mae'r byd wedi newid yn sylweddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ond mae rhai pethau'n aros yr un fath. Cryfder mwyaf Cyngor Sir Caerfyrddin o hyd yw ei bobl. Rydym yn dal i weithio gyda'n gilydd ac yn gofalu am ein gilydd, gan ddod yn gryfach ac yn fwy gwydn nag erioed. Rydym yn dal i ymdrechu bob dydd i fod y Cyngor y mae ein cymunedau ei angen ac yn ei ddisgwyl. Eich gwaith chi yw ein helpu i ddefnyddio'r cryfderau hyn, gweld y cyfleoedd, a chanolbwyntio'n well i sicrhau y gall ein trigolion ffynnu. Pan rydym yn dweud ein bod am wneud rhagor i'n trigolion, rydym yn golygu hynny.
Mae ein hymroddiad i sicrhau diogelwch a lles ein plant a'n pobl ifanc, darparu tai fforddiadwy o safon, a helpu pobl i fyw'n annibynnol wrth wraidd popeth a wnawn. Mae'r rôl hon yn hanfodol wrth i ni anelu at ragoriaeth, a byddwch yn adeiladu ar sylfeini cadarn. Fel Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, sy'n adrodd yn uniongyrchol i'r Prif Weithredwr, byddwch yn goruchwylio gwasanaethau arloesol a fydd yn hyrwyddo ein gweledigaeth. Mae hwn yn gyfle i ymuno ag uwch-dîm hynod gydweithredol a bod yn rhan o feddylfryd arloesol ar draws ein portffolios amrywiol a chymhleth.
Fel uwch-arweinydd profiadol, byddwch yn hybu newid mewn gwasanaethau cymdeithasol a thai. Byddwch yn nodi cyfleoedd i wella safonau ac yn cydweithio â phartneriaid i ddod o hyd i atebion. Bydd eich sgiliau strategol o ran datrys problemau yn sicrhau'r ddarpariaeth o safon, gan greu amgylchedd cefnogol i drigolion a theuluoedd. Rydym yn edrych ymlaen at yr effaith gadarnhaol y byddwch yn ei chynnig.
Yn gywir,
Wendy Walters
Mae gweledigaeth y Cyngor wedi'i chrynhoi yn y datganiad canlynol:
Datblygu Sir Gaerfyrddin gyda'n gilydd: Un Cyngor; Un Weledigaeth; Un Llais
Mae ein hamcanion llesiant yn canolbwyntio ar y canlynol: Galluogi ein plant a’n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau’n Dda); Galluogi ein trigolion i fyw a heneiddio’n dda (Byw a Heneiddio’n Dda); Gwneud ein cymunedau a’n hamgylchedd yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus); Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor cydnerth ac effeithlon (Ein Cyngor).
Gallwch ddarllen rhagor yn Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor
Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd o ran adfywio'r sir, a fydd yn cynnwys creu swyddi newydd drwy chwe phrosiect trawsnewidiol mawr, gan ddarparu economi yn Sir Gaerfyrddin sydd ar 90% o lefel GVA cyfartalog y DU. Rydym yn un o bedwar awdurdod lleol yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe gwerth £1.3b, a bydd y Fargen Ddinesig yn creu 9,000 o swyddi dros gyfnod o 15 mlynedd. Bydd Sir Gaerfyrddin yn gweld manteision economaidd enfawr o ran seilwaith digidol, gweithgynhyrchu clyfar, ynni a llesiant. At hynny, mae ein cymunedau gwledig hefyd yn rhan annatod o'n twf lleol a bydd ymyriadau newydd cyffrous, megis y fenter Deg Tref, yn adfywio'r ardaloedd hyn.
Mae gweithio'n wahanol dros y pum mlynedd diwethaf wedi dysgu llawer i ni yn Sir Gaerfyrddin. Drwy fuddsoddi yn ein seilwaith digidol a defnyddio talentau ein gweithlu ymroddedig, rydym wedi profi y gallwn ddarparu gwasanaethau cyhoeddus eithriadol yn hyblyg, gan gynnwys gweithio o bell. Mae ein Canllawiau Gweithio Hybrid yn croesawu'r newid hwn ac rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd am fwynhau'r profiadau unigryw y gall Sir Gaerfyrddin eu cynnig wrth weithio mewn ffordd hyblyg a hybrid. Yn y rôl uwch hon, bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gydbwyso'n fedrus fanteision gweithio hybrid â'r angen i gynnal presenoldeb cryf, gweladwy yn y gweithle. Fel arweinydd strategol a gweithredol allweddol, bydd eich gallu i fod yn bresennol a chymryd rhan weithredol yn y gweithgareddau dyddiol yn ogystal â rheoli gweithio o bell yn effeithiol yn hanfodol i'n llwyddiant ar y cyd.
Mae gennym 75 o Gynghorwyr Sir sy'n cynrychioli 51 o wardiau cymunedol. Mae gweinyddiaeth wleidyddol bresennol y cyngor yn cynnwys:
Grŵp Plaid Cymru / Party of Wales Group - 38
Grŵp Llafur – 21
Grŵp Annibynnol – 11
Annibynnol Heb Gysylltiad – 5
Mae ein gwerthoedd wrth wraidd popeth a wnawn. Maent yn ein helpu i wneud y penderfyniad iawn ac yn sail i sut rydym yn gweithio.
Mae ein hymddygiad y tu mewn i’n gwerthoedd craidd, mae’n esbonio’r hyn y mae ein gwerthoedd craidd yn ei olygu yn ymarferol. Mae ein hymddygiad yn ymwneud â SUT rydym yn gwneud ein gwaith, mae hyn yn bwysig oherwydd mae sut rydym yn gweithio a sut rydym yn trin eraill yn effeithio ar sut rydym yn darparu gwasanaethau.
Mae Ein Hymddygiad yn:
- golygu sut rydym yn ymddwyn yn bersonol ('sut’)
- disgrifio ein hymddygiadau’n glir (gallwn eu deall)
- yn amlwg (gallwn eu gweld neu eu clywed)
Bydd Ein Hymddygiad yn llywio sut rydym yn gweithio a sut rydym yn trin eraill; mae hyn yr un fath ym mha bynnag swydd rydych yn ei gwneud, ym mha bynnag wasanaeth rydych yn gweithio ynddo.
Mae sut rydym yn gweithio yn gwneud gwahaniaeth - i'w gilydd, i'n gwasanaethau, i Ddatblygu Sir Gaerfyrddin gyda'n gilydd
Mae Ein Gwerthoedd Craidd:
Gweithio fel un tîm
Rydym yn cydnabod y gallwn wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau ar gyfer ein cymunedau drwy gydweithio a chreu cysylltiadau adeiladol.
Canolbwyntio ar ein cwsmeriaid
Rydym yn gweithio i wella bywydau pobl yn ein cymunedau a dyma ein pwyslais a'n prif ddiben.
Gwrando er mwyn gwella
Byddwn yn ymgysylltu â'n cymunedau, ein partneriaid a'n holl randdeiliaid ac yn gwrando arnynt i lywio ein cynlluniau gwella.
Ymdrechu i ragori
Byddwn yn wyliadwrus ac yn sicrhau ein bod yn cyflawni hyd eithaf ein gallu a'n bod bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella'r hyn a wnawn.
Gweithredu ag uniondeb
Byddwn yn meddwl am yr hyn sy'n iawn i'w wneud wrth ystyried y dewisiadau mewn sefyllfa waith.
Cymryd cyfrifoldeb personol
Byddwn ni i gyd yn ystyried sut yr ydym yn cefnogi'r gwerthoedd hyn a'u rhoi ar waith er mwyn iddynt ategu ac arwain ein ffordd o weithio.
Lle amrywiol i fyw a gweithio
Mae Sir Gaerfyrddin yn cynnig mynediad cyfleus i ddinasoedd mawr, gan gynnwys Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd ar hyd coridor yr M4 yn ogystal â Bryste, Birmingham a Llundain i'r dwyrain. Mae porthladdoedd Sir Benfro i'r gorllewin hefyd yn hwyluso teithio i Iwerddon.
Rydym yn falch o'n harfordir hardd, sy'n ymestyn o Gilfach Byrri â golygfeydd dros Benrhyn Gŵyr, yn ogystal â milltiroedd o dywod euraid a thraethau Baner Las, hyd at Bentywyn yn y gorllewin. Yn ogystal mae cefn gwlad o fryniau a phantiau sy'n ymestyn i'n ffiniau â Sir Benfro, Ceredigion, Powys, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, ac ymylon Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Fel un o awdurdodau lleol mwyaf Cymru, rydym wedi arwain rhaglen buddsoddi a datblygu uchelgeisiol i hwyluso gwasanaethau o'r radd flaenaf ar gyfer ein trigolion, ein busnesau a'n hymwelwyr. Mae hyn yn cynnwys stadia chwaraeon fel Stadiwm Parc y Scarlets, cyrsiau golff a Chylchffordd Gaeedig Genedlaethol Pen-bre. Mae ein hatyniadau i ymwelwyr yn cynnwys canolfannau theatr a hamdden fel Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Cartref Dylan Thomas, Marina Porth Tywyn, Parc Arfordirol y Mileniwm, Llwybr Dyffryn Tywi a'r Prosiect Denu Twristiaid ym Mhentywyn. Mae datblygiadau parhaus yn cynnwys Pentre Awel, lle bydd Canolfan Pentre Awel yn darparu ymchwil feddygol a gofal iechyd o'r safon orau un ac amrywiaeth o wasanaethau gofal iechyd a hamdden cyhoeddus. Felly nid yw'n syndod bod economi twristiaeth Sir Gaerfyrddin yn ffynnu, gan greu dros £400m y flwyddyn.
Mae Sir Gaerfyrddin yn sir wirioneddol ddwyieithog, ac mae ganddi bron i 73,000 o siaradwyr Cymraeg. Mae'r iaith yn rhan bwysig o'n hanes a'n diwylliant, ac rydym wedi ymrwymo'n bendant i helpu pobl i fyw, gweithio a defnyddio gwasanaethau yn eu dewis iaith, gan ddefnyddio ein Strategaeth Sgiliau Iaith i'n helpu i gyflawni Safonau'r Gymraeg.

Ardal â'r gyfradd isaf o droseddau
Ym mis Medi 2023 fe wnaeth Heddlu Dyfed Powys gofnodi'r cyfradd isaf o droseddau yng Nghymru.

Ysgolion Ardderchog
Rydym yn cynnal 1 ysgol feithrin, 94 ysgol gynradd, 12 ysgol uwchradd ac 1 ysgol arbennig yn Sir Gaerfyrddin. Maent yn darparu addysg i dros 27,000 o ddisgyblion.

Prisiau Tai
£194,000 yw cyfartaledd prisiau tai y sir.

Prifysgolion a Cholegau
Sir Gâr yw cartref Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a choleg addysg bellach, Coleg Sir Gâr.

Traethau
O Amroth yn y gorllewin i Lanelli yn y dwyrain, mae arfordir Sir Gâr yn ymestyn am 67 milltir.

Lleoedd Hanesyddol
Os mai hanes sy'n mynd â'ch bryd yna mae gan Sir Gâr lawer o gestyll hynafol a thai hanesyddol i'w harchwilio, pob un â'i stori cyfoethog ei hun i'w rhannu.

Ysbytai
Mae gennym ddau ysbyty cyffredinol yng Nghaerfyrddin a Llanelli yn ogystal â 2 ysbyty cymunedol yn Nyffryn Aman a Llanymddyfri.

Diwylliant
Cartref i theatrau a sinemâu, orielau ac amgueddfeydd. Byddwch yn dod o hyd i ddiwylliant sy'n ffynnu.
Rydym am i chi fwynhau gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac i'r profiad fod yn un gwerth chweil. Mae ein gweithwyr wrth wraidd y gwasanaethau rydym yn eu darparu i'r gymuned ac maent yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau. Rydym yn cynnig gwahanol fuddiannau a threfniadau gweithio i gynorthwyo gweithwyr yn eu bywyd gwaith a’u bywyd personol.

Buddiannau gweithwyr
Rydym yn cynnig gwahanol fuddiannau a threfniadau gweithio i gynorthwyo gweithwyr yn eu bywyd gwaith a’u bywyd personol.

Gweithio i ni
Gwybodaeth am sut beth yw gweithio gyda ni a'r ffordd o fyw y gallwch ei mwynhau yn Sir Gaerfyrddin.

Yr Iaith Gymraeg
Fel cyflogwr, rydym yn darparu opsiynau amrywiol i staff ddysgu neu wella eu Cymraeg. Byddwn yn gweithio'n galed i'ch cefnogi i gyrraedd y lefel iaith ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Ein Cenhadaeth a'n Gwerthoedd Craidd
Mae ein gwerthoedd yn bwysig i ni ac yn diffinio pwy ydym ni fel sefydliad ac fel cyflogwr.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Wendy Walters, Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin drwy ffonio 01267 224110 neu trwy ebost chiefexecutive@sirgar.gov.uk