Cronfa Adfywio Trefi Gwledig
Fel rhan o'r rhaglen 10 Tref, gallai safleoedd masnachol ar draws trefi gwledig y Sir fod yn gymwys i gael cymorth ariannol o hyd at £2000 i adfywio blaen eu siopau.
Mae hon yn gronfa wedi'i thargedu ar gyfer safleoedd sydd wedi'u lleoli mewn ardaloedd dynodedig ym mhob tref farchnad wledig. Gellir ystyried ceisiadau o safleoedd sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r ardal ddynodedig pob tref fesul achos pe bai'r prosiect yn cael effaith sylweddol.
Sut i gael cefnogaeth?
Cysylltwch â RDPSIRGAR@sirgar.gov.uk i drafod eich cais prosiect gyda swyddog. Rhaid i bob cais sicrhau ei bod yn cyd-fynd â'r canllawiau a'r argymhellion a nodir yng Nghanllaw Dylunio Treftadaeth Adeiledig Sir Gaerfyrddin.
Pwy all wneud cais?
Mae rhydd-ddeiliaid a les ddeiliaid yn gymwys.
Pa fath o wariant sy'n gymwys?
- Addurno adeilad
- Goleuadau
- Canopïau (yn amodol ar ganiatâd cynllunio)
- Arwyddion dwyieithog newydd (yn amodol ar ganiatâd statudol)
Y cynnig
- Uchafswm grant o £2000 yn seiliedig ar 80% o gyfanswm costau'r prosiect
- Rhaid i ymgeiswyr ddarparu cyfraniad cyfatebol o 20% o gyfanswm cost gymwys y prosiect
Amserlen
- Bydd y gronfa ar agor nes bod y cyllid wedi dirannu'n llawn.
- Gall y rhai sy'n llwyddiannus ddechrau’r gwaith wedi derbyn llythyr cynnig grant. Nid yw gwaith a wneir cyn derbyn llythyr cynnig grant yn gymwys,
- Rhaid cwblhau’r prosiect erbyn diwedd Rhagfyr 2024
Ymgeisio
Cysylltwch â RDPSIRGAR@sirgar.gov.uk i drafod eich cais prosiect gyda swyddog. Rhaid i bob cais sicrhau ei bod yn cyd-fynd â'r canllawiau a'r argymhellion a nodir yng Nghanllaw Dylunio Treftadaeth Adeiledig Sir Gaerfyrddin.
Ffurflen gais