Deg Tref
Diben ein menter Deg Tref yw cefnogi adferiad economaidd a thwf trefi gwledig ledled y Sir.
Sefydlwyd y fenter fel ymateb uniongyrchol i'n Cynllun Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen sy'n nodi nifer o argymhellion allweddol er mwyn helpu i adfywio Sir Gaerfyrddin wledig.
Rhan allweddol o'r rhaglen yw datblygu cynlluniau twf Economaidd i yrru'r agenda ar gyfer newid yn ei blaen ar gyfer yr holl drefi perthnasol a'u cefnwlad ehangach.
Bydd gan bob cynllun ei gamau blaenoriaeth ei hun, a fydd yn cynnwys camau gweithredu i gefnogi'r canlynol:
- Adfer yn sgil Covid-19
- Tyfu busnes
- Cefn gwlad a threfi digidol SMART
- Twristiaeth a’r economi ymwelwyr
- Ailddefnyddio adeiladau a datblygu tir
Cyllidir y gwaith o ddatblygu'r cynlluniau twf yn rhannol drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd.
Mae cymorth ariannol bellach ar gael i ddatblygu digwyddiadau yng nghanol trefi gwledig i ddenu a chynyddu nifer yr ymwelwyr ar draws deg tref farchnad y Sir.