Tref farchnad fach yw Llanybydder sydd wedi’i lleoli ar gyrion gogleddol Sir Gaerfyrddin yn nyffryn Teifi, ac mae’n gwasanaethu cymuned wledig helaeth ar ddwy ochr yr afon sy’n cynnwys Pencarreg, Llanllwni, Highmead ac Alltyblaca.
Mae’r economi’n seiliedig yn bennaf ar y sector amaethyddol a phrif fusnesau’r dref yw’r farchnad da byw a’i chyflogwr mawr, Dunbia (prosesu cig). Saif Llanybydder ar yr A485 sy’n cysylltu’r dref â Chaerfyrddin er mai’r ganolfan agosaf ati yw Llanbedr Pont Steffan i’r gogledd-ddwyrain (5 milltir) sy’n gweithredu’n lleol fel y brif ganolfan o ran cyflogaeth, siopau a gwasanaethau. Nodweddir Llanybydder gan ardal fach yn y canol ar gyfer manwerthu sy’n darparu ar gyfer anghenion siopa, masnach a gwasanaethau’r gymuned wledig o ddydd i ddydd. Y tu allan i’r dref, mae’r ardal yn cefnogi amrywiaeth helaeth o ddiwydiannau seiliedig ar amaethyddiaeth a’r tir, peirianwyr, adeiladwyr a gweithgynhyrchwyr. Mae sawl enghraifft o fusnesau bwyd a diod, a thwristiaeth, ynghyd â busnesau proffesiynol a ffordd o fyw. Mae Llanybydder yn cyflawni swyddogaeth leol bwysig o ran siopau a gwasanaethau, yn gymdeithasol, ac o safbwynt cyflogaeth ac addysg i’r ardal wledig ehangach gan gynnwys yr aneddiadau o’i gwmpas.
Darganfod llanybyddder
Ein Blaenoriaethau
Prif ffocws y Cynllun Twf yw arallgyfeirio'r economi leol a sylfaen fusnes leol fwy gwydn y tu hwnt i amaethyddiaeth. Dros y tymor byr i'r tymor canolig, y nod yw nodi a chefnogi cyfleoedd i fusnesau gwneuthurwyr, gweithgynhyrchu a dosbarthu lleol dyfu.
Er mwyn cyflawni'r cynllun, gwnaethom nodi'r blaenoriaethau canlynol:
- Adferiad COVID-19
- Cefnogi twf busnesau
- Tref a chefn gwlad digidol-glyfar
- Economi canol y dref a’r economi ymwelwyr
- Caffael blaengar
- Cynlluniau ynni cymunedol
- Economi Gylchol
- Cartrefi fforddiadwy
Cynllun twf llanybydder
Yn ôl i Deg Tref