Mae Cwmaman mewn lleoliad da i fanteisio i'r eithaf ar ei agosrwydd at gytrefi allweddol yn Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe ac i gael mynediad atynt. Mae ei fuddsoddiad mewn seilwaith cyfalaf wedi arwain at dwf o ran busnesau mewn nifer o ystadau diwydiannol sy'n gallu manteisio ar lwybrau trafnidiaeth yr ardal.
Gyda'i nifer helaeth o asedau sector cyhoeddus, mae Cwmaman wedi gwireddu ei botensial twf trwy ddatblygu mentrau – gan gefnogi'r gymuned trwy MakerSpace a datblygu cyfleusterau ar gyfer egin-dwristiaeth seiliedig ar weithgareddau.
Mae cynllun clir ar gyfer twristiaeth sy'n seiliedig ar weithgareddau wedi cefnogi twf yng nghyfran yr ardal o'r economi ymwelwyr.
Trwy weithio ochr yn ochr â nifer o ddarparwyr, mae Cwmaman yn anelu i wneud y mwyaf o'i agosrwydd at Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a bod yn rhan o Ddyffryn Aman gyda'i ystod o deithiau cerdded a llwybrau.
Darganfod Dyffryn Aman a'r Mynydd Du
Ein Blaenoriaethau
Mae ein Blaenoriaethau Twf Economaidd yn canolbwyntio ar sicrhau twf economaidd lleol cynaliadwy a rennir gan bawb ac ar yr un pryd amddiffyn, cynnal a dathlu ein hamgylchedd naturiol o ansawdd uchel. Er mwyn cyflawni'r cynllun, gwnaethom nodi'r blaenoriaethau canlynol a fydd yn cael eu cyflawni trwy brosiectau penodol.
- Cefnogi cydnerthedd busnesau a'u twf yn y dyfodol
- Datblygu busnesau a mentrau cymunedol
- Pobl a Sgiliau – galluogi pobl i gyrchu gwaith a datblygu sgiliau i gyflawni eu potensial
cynllun Twf Cwmaman
Yn ôl i Deg Tref